<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Defnyddio Wikipedia i bardduo enw'r Blaid

23.7.07

Mae'n debyg bod gan y mwyafrif o gyfrannwr at Wikipedia a Wicipedia rhyw fath o agenda neu reswm dros ychwnaegu erthyglau, yna aml iawn eisiau rhannu gyda'r byd gwybodaeth am bynciau sydd o ddiddordeb iddyn nhw - yn sicr dyna pam ymunais i. A gyda unrhyw wefan o'r fath ble mae'r defnyddwyr yn darparu'r cynnwys, mae'n mynd i fod yn anodd bod yn ddi-safbwynt weithiau. Be sy'n dda am Wikipedia yw eich bod yn gallu gweld yr holl newidiadau a wneir i pob erthygl, a hyd yn oed cymharu newidiadau.

Darllenais sylw ar flog Vaughan Roderick am anturiaethau un cyfranwr o'r enw normalmouth sydd wedi bod
yn addasu erthygl Plaid Cymru, er mwyn sicrhau bod y geiriau 'fascist' ac 'anti-semitic' yn ymddangos yn yr erthygl.
Mae hefyd wedi dileu unrhyw gyfeiriadau at 'sosialaeth' a 'pasiffistiaeth' o'r erthygl. Mae llawer iawn o ddefnyddwyr eraill wedi anghytuno a'i newidiadau ar dudalen sgwrs yr erthygl (yma, yma, yma, yma ac yma)!, ond wedi ambell aileiriad mae normalmouth yn benderfynol o adael y frawddeg canlynol mewn yn yr adran am hanes y blaid:
While Plaid Cymru did not espouse fascist or anti-semitic policies, the alleged sympathetic views of its leading members (including President Saunders Lewis) towards Europe's totalitarian regimes compromised its early appeal further.
Roedd sawl gwleidydd o bob lliw gwleidyddol gyda agwedd digon rhyfedd tuag at Hitler cyn y rhyfel, ac hefyd, damcanaieth yn unig yw mai oherwydd bod pobl yn gweld Saunders Lewis (ar arweinyddion amlwg eraill?) fel rhywun gwrth semitaidd y bu i Blaid Cymru beidio gwneud yn well yn yr etholiadau. Dwi wrthi'n darllen Gwynfor: Rhag Pob Brad, ac ynddo mae sôn am wrthwynebwyr Saunders Lewis yn gwneud yn fawr o'r ffaith ei fod yn Babydd er mwyn dychryn pleidleiswyr yn ystod un etholiad penodol - efallai ar y pryd roedd bod yn Babydd yn beth mwy dychrynllyd na bo yn Ffasgydd! Mae sawl rheswm arall y gellir eu rhoi mae'n siwr, personoliaeth yr ymgeiswyr, diffyg arian i ymgyrchu, amharodrwydd y cyfryngau i roi cyhoeddurwydd teg.......

Nid yw defnydd fel hyn o'r wê gan rhai aelodau (a staff?) o'r Blaid Lafur yn beth newydd, dylent ddysgu erbyn hyn pa mor wirion, plentynaidd a desperate mae nhw'n gwneud i'w plaid ymddangos.

Er mwyn eich difyrwch, dyma gymharu newidiadau gan ddefnyddiwr di-enw yn defnyddio'r cyfeiriad IP 81.109.150.197:
-Moliant i Leighton Andrews
-Lladd ar David Jones (AS Gorllewin Clwyd)
-a tydi o ddim yn o'r hoff o'r Welsh Language chwaith!
Most people in Wales, except for the language facists think Welsh is an irrelevent and devisive language that should be abolished.
Uffern o foi clyfar, pwy bynnag ydi o. Ond yn y pen draw mae'r holl beth yn ddibwynt gan bod rhywun yn mynd i ddod heibio a'i dacluso, gan geisio danogos NPOV. Fel ddigwyddodd i erthygl yr AS hoffus Chris Bryant. Roedd gorffen gyda "
Contact: 01443 687697" ychydig bach o giveaway!

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:36 pm

4 sylw:

Fe ddylai'r twpsyn ddysgu sut i sillafu'n gywir yn Saesneg cyn iddo ladd ar ein hiaith ni!

"Devisive???"

A beth ydy "facist"? Mae gan bawb wyneb. A ydyn ni i gyd yn "facists"?
Mae'r drafodaeth yna'n anghygoel. Diolch am bwyntio fo allan.

Ma "Facists" jest yn gneud i fi chwerthin ddo :)
sylw gan Blogger Nwdls, 10:24 am  

Chi'ch dau yn fwy craff na fi yn amlwg, sylwais i ddim ar y ddau gamsillafiad - yn amlwg mae'r blynyddoedd o gyhoeddiadau trenau dwyieithog wedi cael effaith mwy andwyol nag oeddwn wedi sylweddoli ar safon fy Susneg!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 2:06 pm  

A ffasgiaeth a selective editing. Hen dric.

Cwis - pa Gymro adnabyddus sydd piau dyfyniad hwn am Hitler?:

"It is not the Germany of the first decade that followed the war- broken, dejected and bowed down with a sense of apprehension and impotence. It is now full of hope and confidence, and of a renewed sense of determination to lead its own life without interference from any influence outside its own frontiers. One man has accomplished this miracle. He is a born leader of men. A magnetic and dynamic personality with a single-minded purpose, a resolute will and a dauntless heart"

(a) Saunders Lewis.
(b) Lloyd George.

Cliw - Bedyddiwr wedi ei fagu yn Llanystumdwy, nid Pabydd wedi ei fagu ym Mhenbedw.
sylw gan Blogger Cai Larsen, 9:14 pm  

Gadawa sylw