Prion ar Nestoria
12.7.07
Tra'n chwilota'n aflwyddianus ar Google a Flickr am luniau o fy hen ysgol (Ysgol Pantpastynog, Prion), dyma fi'n dod ar draws Tai ar werth ym Mhrion ar wefan Nestoria. Mae Nestoria'n wasanaeth hysbysebu tai dros y we, sy'n sdwnsh o wybodaeth o wahanol ffynhonellau a fyddai o ddiddordeb i brynwyr. Dwi'n gyfarwydd â enw Nestoria gan mai cwmni CodeSyntax (creuwyr Tagzania) sy'n gyfrifol am ochr mapio'r wefan.
- Gallwch ddewis i'r map ddangos
- gorsaf tren agosaf, ysgolion agosaf
- eich cynrychiolydd seneddol agosaf (ond nid eich AC)
- lluniau o'r ardal
- beth yw'r band treth lleol (gan ei gymharu â chyfradd Lloegr gyfan!)
2 sylw:
Dest ti'n ar draws gwefan diddoral iawn yn wir, wyt ti'n meddwl mudo yn fuan? Fy hoff ydy 'J' ond d'ydw i ddim yn hoffi'r werth.
sylw gan James, 12:42 pm
Dwi'n meddwl mwy a mwy am symud yn ôl i'm ardal genedigol (efallai ymhen 12-24 mis - ond dwi wedi bod yn dwedu hynna ers 12 mis yn barod!), ac felly dwi'n cadw llygaid ar brisiau tai yr ardal pob hyn a hyn.
Er mod i'n byw mewn ardal go desireable o Treganna (sef ghetto Cymraeg y brifddinas!), mae prisiau tai yn Prion yn uwch gan fod llawer o pobl ardaloedd Caer, Lerpwl a Manceinion yn dymuno 'downseisio' a symud i gefn gwlad ddim yn rhy bell o'u gwaith :-(