<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Openbook - dangos bod Facebook llawn cachu.

17.5.10

Mae Openbook yn ceisio amlygu newidiadu i osodiadau preifatrwydd ar Facebook, (manylion ar ffurf siart handi yma) sy'n golygu bob mwy a mwy o fanylion amdanoch chi'n cael eu gwneud yn hysbys i eraill yn ddiarwybod i chi.

Yn y gorffenol, roedd unai angen bod yn ffrind gyda rhywun i fod yn gallu gweld eu proffil a darllen eu negeseuon, neu o leiaf roedd rhaid bod cyfrif gyda chi a'ch bod chi wedi mewngofnodi. Ddim bellach, ac mae Openbook yn dangos canlyniadau searches am gymalau mewn brawddeg a all fod yn o embaras i bobl. Pethau fel "i'm not racist but", "boss is an asshole" ayyb.

Er mwyn cael slant Cymraeg, es i am yr opsiwn syml a jyst teipio 'cachu' i mewn. Mae'n debyg bod Cachu yn gyfenw poblogaidd ac yn ymddangos mewn sawl iaith arall (gol. newydd syleddoli beth ydy'r holl "coo coo cachu"), ond roedd ambell neges Gymraeg - pob un yn ddoniol i'r person anaeddfed (fel fi). Dyma rai o'r clasuron:
Hwbla di cachu yn trons ha ha hwbla!!

cachu ci, cachu cath, cahcu MONICA LOT YN WATH!!

Sian catherin jones bobl eraill sydd yn galw t yn sian cachu, dim v. Just gofyn oni.

Waw im so not happy with channel 1 ia....malu cachu leadio ni ar ta be!! Di eastenders ddim even ar wan mwudro!!!

rhaid i rachel stopio cachu ia,dir babi myn stopio crio a ma v a paul yn marwn drws cefyn hahahahahaha

hwyl yn gdnin club heddiw efo siwan, sam a rhys!!! lol!!! mynd ar to wedyn siwan yn cachu ei hun a nath o fynd trwy ei overalls gwyn!!!! RHYS YN NASTY!!! TAFLU T.BAG GWAG AR YSGWYDD V!!!! lol

Falle bo chi'n meddwl mai gwastaff llwyr oedd yr ymarferiad yma. Wel chi'n rong, dois i ar draws dolen at Radio Cachu ar YouTube. Plentynaidd ond 10 mundud o lol holloll ddoniol. Dw i'n dechrau dod i'r casgliad mai mond pobl ochre Caernarfon sy'n defnyddio Facebook, ond hir oes hynny.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:05 pm | dolen | 4 sylw |

Yr ategolyn (App) cyntaf yn Gymraeg ar gyfer Facebook

19.7.07

ond yn gyntaf rhaid i chi wrando ar fy rant...

Dwi di bod yn ymwybodll o fodolaeth Facebook ers cryn amser ac wedi bod yn derbyn e-byst yn fy ngwahodd i agor cyfrif. Er bod gennyf rhyw syniad o beth oedd fel, roeddwn yn gwrthod y ceisiadau am mod i'n casau gwefannau ble na allwch weld be mae amdan nes i chi gofrestru - eu colled nhw meddyliais i! Roeddwn wedi agor cyfrif MySpace ers sbel, eto dim ond er myn gallu gadael sylwadau ac mae'r peth yn erchyll (ond gwych ar gyfer bandiau dwi'n cyfaddef).

Dwi wedi bod yn mynychu rhai cyfarfodydd Swyddogion Ieuenctid Mentrau Iaith rhanbarth y de ddwyrain ac roedd ambell un yn crybwyll agor cyfrif MySpace neu Bebo i hyrwyddo eu clybiau C.I.C.. A wedi siarad a ffrind oedd wedi gwirioni â Facebook, dyma fi'n dechrau meddwl byddai Facebook neu MySpace yn ddefnyddiol i Fenter Iaith Caerffili gyrraedd y grŵp 18-30 (grŵp oedran dwi'n brysur nesau at adael)

Un peth oedd fy mhoeni wedi i mi ymuno â Facebook oedd nad oeddwn yn hoffi gofyn i bobl fod yn ffrinidau â mi - dwi ddim y person mwy outgoing a chymdeithasol yn y byd go iawn. Roeddwn yn teimlo fel fy mod i'n bod yn needy, ond wrth gwrs holl bwynt y wefan yw gwneud cysylltiadau â'ch ffrindiau ac efallai pobl newydd sy'n rhannu eich diddordebau.

Pethau da

Pethau gwael

Pa mor rhwydd yw dod o hyd i bobl, trwy chwilio yn ôl enw, lleoliad, gweithle, trwy ffrindiau eraill ayyb

Rhyngwyneb glân sy’n hawdd i’w ddefnyddio

Mae’n viral (a all fod yn beth drwg wrth gwrs)

Yn wahanol i sawl gwefan, chi'n gallu dewis Wales fel eich gwlad

Y rhyngwyneb yn gaeth iawn yn enwedig y ffordd nad oes modd newid iaith - doedd cynnig ieithoedd eraill fel petai heb eriod croesi meddwl y datblygwyr

Dewisiau cyfyng, yn enwedig dewis gwleidyddiaeth (e.e., does dim lle i sosialwyr!).

Pan yn dewis fy hometown, dwi'n gallu dewis Wales, ond wrth greu digwyddiad, allai ddim. Ac yn waeth fyth dim ond rhai trefi sy'n cael eu cydnabod. Wrth drio hyrwyddo digwyddiadau yn yr Eisteddfod, tydi o'n cau derbyn Mold fel tref.

Mae'r diweddariadau statws yn ddiflas, a sawl gwaith sy rhaid gweld llun o gôc mae Garmon wedi dynnu? Dychmygaf bod drws oergell ei fam bron a disgyn ffwrdd dan yr holl bwysau!


Ond yn ôl at bennawd y cofnod hwn. Yn ddiweddar bu lawnsiad yr ategolyn Facebook cyntaf nad oedd yn Saesneg gan Nestoria. Ffordd da meddyliais o ddod o gwmpas y ffaith bod Facebook mor araf yn lleoleiddio eu gwefan. Yna dois ar draws wefan brodor o Fangor o'r enw Jason Davies.

Mae'n ddatblyguwr meddalwedd ac mae wedi creu ategolyn Facebook defnyddiol (oes, mae'r fath beth yn bod!) o'r enw fbfriends sy'n cymharu eich holl ffrindiau mewn tabl ag yn ddangos sawl ffrind mae pob un yn rannu gyda chi a pha rai sy'n hoffi'r un sdwff a chi. Gan fod Jason yn siaradwr Cymraeg gofynais iddo pa mor hawdd fyddai ei gyfieithu i'r Gymraeg. Hawdd medda fo, a dyna wnaeth o.

Cyfarwyddiadau
Felly os ydych wedi mewngofnodi i'ch cyfrif Facebook yn barod, a bod dewis iaith eich porwr wedi ei osod fel .cy (h.y. Cymraeg*), yna cliciwch yma.

Dylai edrych fel hyn
.

Diolch yn fawr Jason!

*Os nad ydych wedi newid dewis iaith eich porwr, neu ddim yn gwbod beth dwi'n sôn am, mae'n debyg bydd y tabl y ymddangos yn Saesneg. Chi angen Firefox Cymraeg.

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:52 pm | dolen | 0 sylw |