Os am ryw reswm
15.8.07
yr hoffech weld fy nghyflwyniad ar ran Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg ym Mhabell y Cymdeithasau Eisteddfod Sir y Fflint 2007, dyma fo:
Labels: blogio, eisteddfod, eisteddfod2007, rhithfro
Sod it
6.7.07
Mei a fi wedi penderfynnu cael blog-gwrdd ein hunain ar ddydd Sadwrn olaf y Steddfod. Bydd yn dechrau am 9:00am a gorffen am 6:00pm (ddim go iawn, ni heb benu amser eto!)

Os hoffech fathodyn swanc, ewch i flog Mei.

Os hoffech fathodyn swanc, ewch i flog Mei.
Labels: blog-gwrdd, eisteddfod, eisteddfod2007, rhithfro
Dal i fyny
5.7.07
Bues i'r gogledd am noson er mwyn mynd i weld nain yn yr ysbyty. Fe gafodd hi godwm tua 5 wythnos yn ôl a thorri ei chlun, ac fe gafodd lawdriniaeth i osod pin yn ei chlun. Gwelais i hi rai diwrnodau wedi'r lawdrinaieth a doeddwn heb ei gweld ers hynny. Roedd hi'n edrych yn well y tro yma, ond roedd yn dal yn ffwndrus ofnadwy. Hyd yn oed cyn iddi ddisgyn, doedd hi ddim yn gallu cerdded bron oherwydd ei phengliniau, ac mae hi fwy neu lai'n ddall. Does dim rhaid dweud nad oes ganddi fywyd hawdd iawn, nac fy mam druan chwaith sy'n edrych ar ei hol. Ta waeth, roedd nain yn 93 oed ddoe, ac roedd Inffyrmari Dinbych ble mae nain yn aros ar hyn o bryd yn 200 oed hefyd ar yr un diwrnod.
Tra ar y tren, dyma fi'n darllen 2 rifyn diwethaf o'r Faner Newydd nad oeddwn wedi cael cyfle i'w darllen, ac prynnais y rhifyn diweddaraf yn Siop Clwyd i'w ddarllen ar y ffordd adre ddoe. Mae yna erthyglau hynod o ddiddordol ynddo ac mae'n biti mawr nad yw mwy yn ei ddarllen. Yn ogystal a hanes gwerin Cymru, mae hefyd yn cynnwys erthyglau amrywiol o bedwar ban byd. Dyma i chi esiamplau:

- Hanes pêl-droed yn cael ei chwarae yn Llanfair Talhaearn cyn belled yn ôl a 1634 (ok, diddordol i fi achos dwi'n hoffi pêl-droed a dyna o ble y daeth tad fy mam)
- Erthygl am ecoleoli, yn adrodd hanes y bachgen ifanc hynod Ben Underwood.
- Hanes Cofeb Tashunkewitko (Crazy Horse) yn Ne Dekota, sydd ond 17 milltir i ffwrdd o Mount Rushmore ond sydd efallai ddim yn cael yr un sylw. [Lluniau Flickr]
- Darganfyddiad beth all fod yn 'gyfrifiadur' o oes y Groegiaid.
- Stori o ailgyhoeddiad llyfr O Drelew i Dre-fach.
Cefais i hefyd amser ar y tren i ddechrau ysgrifennu fy 'narlith' ar gyfer yr Eisteddfod!
Labels: dinbych, eisteddfod, eisteddfod2007, faner newydd, rhithfro, teulu