<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dysgu Cymraeg yng Ngwent

28.7.07

Dwi wedi bod eisiau dysgu Cymraeg i Oedolion ers rhai blynyddoedd, ond wastad wedi bod ofn, ynbennaf nad ydi fy ngwybodaeth o ramadeg (Cymraeg na Saesneg) ddigon da. Yn ystod y tymhorau diwethaf mae Coleg Gwent sef prif ddarparwr y de ddwyrain wedi bod yn brin fnadwy o dwitoriaid, felly dwi wedi bod yn mynychu sesiynnau i fod yn diwtor, gyda'r gobaith o gael dosbath yn mis Medi, yn ddelfrydol yn sir Caerffili.

Gan bod gwersi arferol wedi dod i ben, does dim cyfle i mi eistedd mewn dosbarth i arsylwi, ond yn ffodus iawn bu ysgol haf yng Nghanolfan Yr Hill wythnos diwethaf ac fe gês gyfle i eitedd mewn dau ddosbarth, un i ddechreuwyr pur ac un i fyfyrwyr oedd eisioes wedi treulio blyddyn yn dysgu.

Roedd dosbarthiadau ar gyfer 7 lefel gwahanol ar gael, ac mae Cyrsiau Haf ac Ysgolion Undydd yn hynod boblogaidd. Eleni roedd y lle'n llawn dop gyda 164 o bobl yn mynychu - doedd dim lle i fwy. Darganfyddais wedyn bod 140 o bobl wedi cael eu troi i ffwrdd sy'n biti ofnadwy. Y gobaith yw flwyddyn newsaf cynnig 2 wythnos er mwyn gallu cynnig lle i bawb. Yn aml fe glywch pobl yn dweud nad oes gan pobl Gwent diddordeb yn yr iaith , ond heblaw am ferch ifanc o'r Iseldiroedd oedd ar ei hail flwyddyn a Ffrances yn y dosbarth dechreuwyr, pobl lleol oedd y gweddill i gyd.

Yn ystod ein sesiynnau hyfforddi mae trefnwyr y gwahanol fathau o gyrsiau
  • cyrsiau arferol mewn canolfannau cymunedol
  • Cymraeg i rieni
  • Cymraeg yn y gweithle
  • WLPAN
wedi bod yn dod atom i geisio ein perswadio i ddysgu yn eu dosbarthiadau nhw pan fyddwn yn gymwys. Ar hyn o bryd hoffwn ddysgu WLPAN, ond does dim cymaint o'r cyrsiau hynn yn cael eu cynnig. Fy rheswm dros fod eisiau dysgu WLPAN yw
  • dwi'n teimlo mai'r myfyrwyr mwyaf penderfynnol fydd ar y cwrs gan eu bod yn ymrwymo eu hunain i fynychu gwersi sawl gwaith yr wythnos
  • myfyrwyr yn debygol o ddysgu mwy o bethau'n gynt ac felly'n llai tebygol o ddigalonni fel dwi'n gweld rhai ar gyrsiau arferol yn gwenud
  • mae mwy o bwyslais ar siarad a llai a'r ramadeg

Cawn weld beth ddigwyddith yn mis Medi!

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 5:41 am

3 sylw:

Pob lwc i ti! Dw i eisiau mynd i cwrs Cymraeg trylwyr yr haf nesaf, ond dw i ddim yn gwybod lle neu beth mae'r cyrsiau ar gael ar hyn o bryd.
sylw gan Blogger Zoe, 12:53 pm  

Mae digon o ddewis gyda ti

Y Fenni (Coleg Gwent)
Llanbedr Pont Steffan
Bangor
Aberystwyth
Caerdydd
Abertawe (efallai)

Mae un Coleg Gwent yn boblogaidd dros ben felly mae'n debyg bod pawb yn mwynhau ac eisiau dod yn ôl. Mae lloelaid Yr Hill yn le hyfryd hefyd, ond does dim llawer o Gymraeg i'w glywed yn nhref Y Fenni (er gyda gwersi o 9am-7pm, + gweithgareddau fin nôs, does dim lot o siawns crwydro)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 12:02 pm  

Diolch am y gwybodaeth. Dw i wedi esiau mynd i Fangor am blynyddoedd, felly mi fydda i archwilio y cwrs 'ma, dw i meddwl...
sylw gan Blogger Zoe, 1:18 pm  

Gadawa sylw