<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://draft.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Fy meirniadaeth eisteddfodol mewn print (a rwan ar-lein)

17.8.10

Er mawr syndod gofynnwyd i mi feirniadu un o gystadleuaeth ar gyfer Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 2010.
Mae beirniadu (a chystadlu ran hynny) yn beth gwbl newydd i mi, felly awgrymwyd fy mod yn edrych ar gopi o Gyfansoddiadau a Beirniadaeth blynyddoedd cynt i weld pa arddull i'w ddefnyddio a.y.y.b.

Doeddwn i ddim yn gwybod am y llyfryn hwn, ac roedd yn reit diddorol, achos ar gyfer rhai cystadlaethau, roedd y darn buddugol hefyd yn cael ei gyhoeddi. Sylwais nad oedd fawr neb yn cystadlu mewn rhai cystadlaethau. Baswn i falle wedi ceisio un neu ddau fy hun, ond wyddwn i ddim am eu bodolaeth.

Dyma un o wendidau'r Eisteddfod, sef nad yw lot o bethau fel y testunau ddim yn cael hyrwyddo'n dda iawn, felly mond eisteddfodwyr hard-core sy'n gwybod pryd a ble i edrych am restr testunau. Gan mod i mor vain, es i'r llyfrgell ddoe i weld fy meirniadaeth mewn print, a sylwais bod testunau Eisteddfod 2011 allan yn barod, ond does dom sôn am hyn y y wasg, mewn hysbysebion, ar gyfrif Twitter yr Eisteddfod nac ar adran newyddion eu gwefan hyd yn oed..

Mae teitl y gystadleuaeth a'r feirniadaeth islaw:
Blog gan unigolyn yn cynnwys o leiaf tri mewnbwn, dim mwy na 300
gair yr un:
Lefel Agored

BEIRNIADAETH RHYS WYNNE

Cafwyd dim ond tri chynnig i’r gystadleuaeth hon a dau ohonynt gan yr un person. Efallai mai dryswch ynglŷn ag enw’r gystadleuaeth sy’n gyfrifol am y nifer isel yma, oherwydd beth yw blog ond cyfnodolyn ar-lein (daw’r enw o’r Saesneg, ‘web log’) ac nid darn o ysgrifen ar bapur. Cyflwynwyd y tri darn o waith ar ffurf dyddiadur, a’r tri yn ymwneud a theithiau y bu’r awdur arnynt.

Collen Fach: Roedd ‘AR y gwibdaith I Bortmeirion’ yn adrodd hanes gwibdaith o Sir Benfro i Bortmeirion a gafodd ei drefnu gan y Fenter Iaith leol. Mwynheais ddarllen am y daith gan fod y darn yn llawn disgrifiadau manwl ac yn fy atgoffa o wibdeithiau tebyg rwyf innau wedi bod arnynt. Yn anffodus, roedd nifer o wallau sillafu a chamdeipio, rhywbeth sy’n hawdd i’w hosgoi drwy ddefnyddio gwirydd sillafu. Roedd yna un neu ddwy idiom Saesneg wedi eu trosi’n anghywir; ‘ar gyrhaeddiad’ yn hytrach na ‘wedi cyrraedd’, a hefyd ‘o’r cwrs’ yn lle ‘wrth gwrs’ - ond fe ddaw hyn gydag ymarfer.

Fy mrawd: Dyma hanes taith Fy mrawd wrth iddo/iddi ymweld â dinas Belfast am dridiau. Nid ydym yn cael gwybod beth yn union yw diben yr ymweliad, ond o ddarllen rhwng y llinellau, dw i’n dyfalu taw cerddor yw Fy mrawd. Dros dri chofnod, un ar gyfer pob diwrnod o’r ymweliad, cawn ein cyflwyno i sawl rhan o ddinas Belfast ac ambell i gymeriad mae Fy mrawd yn cwrdd â nhw - sawl un yn bobl adnabyddus ac yn gysylltiedig â’r Trafferthion mewn un ffordd neu’r llall.
Ychydig iawn o wallau sydd, ac unwaith eto byddai gwirydd sillafu wedi mai ‘Dulyn’ yw’r sillafiad cywir, ac nid ‘Dulun’. Byddai’n ddiddorol gweld cofnod blog ar gyfer y daith hon, gan y byddai modd wedyn rhoi dolen at wefannau eraill i roi mwy o gefndir (e.e., ni esboniwyd mai gŵyl gerddorol yw Féile ân Earraigh).

Collen Fach
: Dyma ail gais Collen Fach, ac yn ‘Ysgol Pasg - Amser Arbennig’ cawn hanes yr awdur yn mynychu Ysgol Undydd yn y coleg lleol. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd cymryd mantais o bob cyfle i ymarfer siarad Cymraeg ac adolygu beth a ddysgwyd yn ystod gwersi arferol. Cawn wybod pa fath o ymarferion sy’n cael eu gwneud ar gwrs penwythnos, a hefyd pwy arall o ddosbarth Collen Fach sy’n manteisio ar y gwersi ychwanegol hyn (neb y tro hwn, er mae digon o ddysgwyr eraill yno.) Unwaith eto, mae ambell enghraifft o gamdeipio a chamsillafu yn y darn hwn.

Dw i am roi’r wobr gyntaf i Fy mrawd. Nid am safon uchel a chywirdeb y Gymraeg, ond hefyd gan fod gan Fy mrawd y gallu i adrodd stori mewn ffordd mor ddarllenadwy. Diolch i’r ddau ymgeisydd.
Nid clod ffug yw'r uchod, mi roedd darn buddugol Fy mrawd (Les Barker o Fwlchgwyn, ger Wrecsam) yn wirioneddol ddifyr. Digwydd i mi sylwi heddiw bod blog Golwg 360 hefyd wedi cyhoeddi darn buddugol y gystadleuaeth ar gyfer trigolion y Wladfa. Oes rhywun yn gwybod am waith buddugol arall sydd wedi ei gyhoeddi ar lein?

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 6:45 pm | dolen | 7 sylw |

Hyrwyddor digwyddiadau'r Eisteddfod

21.7.09

Mae'n debyg na fydda i'n gallu mynd i'r Eisteddfod eleni, ac felly byddaf yn colli allan ar Gorsedd y Gîcs ar y dydd Iau a nifer o bethau gwych eraill mae'n siwr. eleni fydd yr Eisteddfod cyntaf ble bydd twitro'n wirioneddol boblogaidd, felly bydd yn werth dilyn #eisteddfod09 yn ystod yr wythnos i weld beth yw'r diweddaraf.

Newydd weld map handi iawn isod gan Rhys Llwyd (sy'n gwneud i ymdrech ar fap gan y BBC edrych yn so 1990's!)


View Eisteddfod 2009 in a larger map

Ond beth bod yn bygio fi ers rhai blynyddoedd yw pa mor anodd - na amhosib yw dod o hyd i wybodaeth am y gwanaol ddiwyddiadau sy'n digwydd ar y Maes. Rhiad i chi rywsut fod in the know gyda phob sefydliad i fod ag unrhyw siawns o wybod o flaen llaw am unrhywbeth.

Sylwais bod defnyddiwr Facebook (pawb yn cofio'r wefan?) o'r enw Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi creu grŵp o'r enw Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau. Mae 674 aelod i'r grŵp, ond dw i ddim yn siwr os os yw'r Eisteddfod yn gwybod beth i wneud efo'r grŵp.
Danfonais neges at fo neu hi heddiw, ac mae wedi cytuno i ychwnaegu unrhyw ddigwyddiau at y grŵp a'u danfon at yr aelodau i gyd.
Manteisiwch ar y cyfle, ac i wneud pethau'n haws i weinyddwr y grŵp, danfonwch wybodaeth yn y fformat canlynol:

Enw'r Digwyddiad (gofynnol):
Disgrifiad byr:
Math o Ddigwyddiad (gofynnol):
Disgrifiad:
Dyddiad ac amser dechrau:
Dyddiad ac amser gorffen:
Lleoliad (gofynnol):
Stryd:
Dinas:
Ffôn:
Ebost:

(Nodyn i'r Eisteddfod - plis ticiwch y blwch ar waelod yr ail dudalen sy'n dweud: Hysbysebu - Dangos y digwyddiad hwn mewn canlyniadau chwilio)

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:43 pm | dolen | 0 sylw |

Os am ryw reswm

15.8.07

yr hoffech weld fy nghyflwyniad ar ran Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg ym Mhabell y Cymdeithasau Eisteddfod Sir y Fflint 2007, dyma fo:

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 3:28 pm | dolen | 2 sylw |

Sod it

6.7.07

Mei a fi wedi penderfynnu cael blog-gwrdd ein hunain ar ddydd Sadwrn olaf y Steddfod. Bydd yn dechrau am 9:00am a gorffen am 6:00pm (ddim go iawn, ni heb benu amser eto!)
BlogGwrdd 2007, Bar y Maes, Sadwrn 11/8

Os hoffech fathodyn swanc, ewch i flog Mei.

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 9:55 am | dolen | 0 sylw |

Dal i fyny

5.7.07

Bues i'r gogledd am noson er mwyn mynd i weld nain yn yr ysbyty. Fe gafodd hi godwm tua 5 wythnos yn ôl a thorri ei chlun, ac fe gafodd lawdriniaeth i osod pin yn ei chlun. Gwelais i hi rai diwrnodau wedi'r lawdrinaieth a doeddwn heb ei gweld ers hynny. Roedd hi'n edrych yn well y tro yma, ond roedd yn dal yn ffwndrus ofnadwy. Hyd yn oed cyn iddi ddisgyn, doedd hi ddim yn gallu cerdded bron oherwydd ei phengliniau, ac mae hi fwy neu lai'n ddall. Does dim rhaid dweud nad oes ganddi fywyd hawdd iawn, nac fy mam druan chwaith sy'n edrych ar ei hol. Ta waeth, roedd nain yn 93 oed ddoe, ac roedd Inffyrmari Dinbych ble mae nain yn aros ar hyn o bryd yn 200 oed hefyd ar yr un diwrnod.

Tra ar y tren, dyma fi'n darllen 2 rifyn diwethaf o'r Faner Newydd nad oeddwn wedi cael cyfle i'w darllen, ac prynnais y rhifyn diweddaraf yn Siop Clwyd i'w ddarllen ar y ffordd adre ddoe. Mae yna erthyglau hynod o ddiddordol ynddo ac mae'n biti mawr nad yw mwy yn ei ddarllen. Yn ogystal a hanes gwerin Cymru, mae hefyd yn cynnwys erthyglau amrywiol o bedwar ban byd. Dyma i chi esiamplau:
Cefais i hefyd amser ar y tren i ddechrau ysgrifennu fy 'narlith' ar gyfer yr Eisteddfod!

Labels: , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 3:50 pm | dolen | 0 sylw |

Wedi'r Eisteddfod

14.8.06

Treuliais mwy o amser ar y maes eleni nag ydw i erioed wedi gwenud, gan ymweld ar 4 diwrnod. Chefais i ddim llawer o gyfle i wneud beth oeddwn eisiau ar y dydd Sadwrn cyntaf oherwydd
Dois yn ôl i'r Eisteddfod Dydd Iau, Gwener a Sadwrn, yn bennaf er mwyn hyrwyddo fy ngwefan jobscymraeg.com. Cefais ymateb da gan lawer o'r sefydliadau a siaradais gyda, a gobeithiaf weld ychydig o swyddi newydd yn ymddangos arno'r wythnos hyn.

Ond uchafbwynt yr Eisteddfod i mi oedd y blog-gwrdd. Unai syniad fi neu Rhodri Nwdls oedd y blog-gwrdd ac wrth 'gynllunio'r' cwrdd ar maes-e, dwi'n sicr mae rhywbeth anffurfiol oedd mewn golwg, ond wedi i griw mawr (wel lot fwy na'r disgwyl) gyrraedd roedd pawb fel petai nhw'n disgwyl i rhywun gymeryd arweiniad o'r peth. Trodd llygaid pawb ataf fi, felly dyma fi'n dechrau rwdlan am beth oeddwn i eisiau trafod, ac yn ffodus ymunodd pedwar neu bump arall yn y drafodaeth. Yn ogystal a blogio bu rhai'n cymharu eu profiadau o ddefnyddio gwahanol wefannau rhwydweithio cymdeithasol ac esbonio i eraill beth oeddynt a sut roeddynt yn gweithio. Y prif rai i bobl siarad amdanynt oedd: Blogger, Flickr, Technorati, YouTube, del.icio.us a LibraryThing, (a dwi'n siwr llwyddais i grybwyll Tagzania yn rhywle) ond hefyd trafodwyd gwefannau nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanynt fel Second Life (rhyfedd!) a sawl un arall nad ydw i'n cofio.

Hanner ffordd trwy'r cwrdd dyma fi'n sylweddoli nad oedd pawb yn nabod eu gilydd felly dyma fi'n cael pawb i ddweud eu henwau ac enw eu blog. Yn bresenol oedd:
Kamikaze Cymru, Ray Diota, Chris, Rhodri, Mr Gasyth, Nic, Joss, Wierdo, Dogfael, Mair, Geraint, Mei, Telsa a fi. Roedd yna hefyd ddau ddarllenwr blogiau yno'n gwrando ac hefyd Rhys, Gruff a Dewi o Ganolfan Bedwyr.
Waw, roedd 17 person yno! Ymddiheuriadau lu os dwi wedi anghofio rhywun.
Gallen i fod wedi aros ymlaen a sgwrsio ymhellach, ond gan bod cymaint yn digwydd ar faes yr Eisteddfod roedd llawer angen gadael am 3:00. Roeddwn wedi bwriadu tynnu llun o bawb, ond gadewis fy nghamra yn y maes pebyll, yn ffodus fe dynnodd Dogfael a Mair ambell lun - felly cadwch olwg am y tag bloggwrdd ar Flickr ;-)

Hoffwn fod wedi siarad mwy am tagio, blogio'n saesneg, gwneud arian o'r wê a gweld beth yw potensial meddalwedd nad yw'n cael ei ddefnyddio lawer yn Gymraeg fel Wiki's er engrhaifft*.

Cyn y blog-gwrdd bues yn siarad âg ambell aelod o Gymdeithas Meddalwedd Gymraeg. Mae'r Gymdeithas wedi bodoli rwan ers 12 mis ac yn awyddus i ehangu aelodaeth, gan gynnwys blogwyr. Bydd y Gymdeithas yn cyfarfod eto yn mis Tachwedd (o bosib ym Mangor) , efallai bydd cyfle cael blog-gwrdd bryd hynny i gyd-fynd â'r peth, ond dwi'n amau os daw blogwyr i Fangor yn arbennig ar gyfer blog-gwrdd, oherwydd bod y mwyafrif ohonynt unai'n byw yn ardal Aberystwuth neu Gaerdydd - cawn weld. Dyma Gruff yn dangos i mi gwefan Enwau Cymru ac Archif Melville Richards.

Prynnais lwyth o lyfrau a chychgronnau a dwi heb gael amser i ddarllen dim un eto!


* Synniad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2007 a 2008 yw Wikisteddfod. Mae'r syniad yn haeddu post ei hun dwi'n meddwl.

Gol.
Wedi dechrau wiki Eisteddfod 2007 - gwerthfawrogi'r unrhyw fewnbwn/gyfraniad

, , , , , , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:28 am | dolen | 3 sylw |