Prion ar Nestoria
12.7.07
Tra'n chwilota'n aflwyddianus ar Google a Flickr am luniau o fy hen ysgol (Ysgol Pantpastynog, Prion), dyma fi'n dod ar draws Tai ar werth ym Mhrion ar wefan Nestoria. Mae Nestoria'n wasanaeth hysbysebu tai dros y we, sy'n sdwnsh o wybodaeth o wahanol ffynhonellau a fyddai o ddiddordeb i brynwyr. Dwi'n gyfarwydd â enw Nestoria gan mai cwmni CodeSyntax (creuwyr Tagzania) sy'n gyfrifol am ochr mapio'r wefan.
- Gallwch ddewis i'r map ddangos
- gorsaf tren agosaf, ysgolion agosaf
- eich cynrychiolydd seneddol agosaf (ond nid eich AC)
- lluniau o'r ardal
- beth yw'r band treth lleol (gan ei gymharu â chyfradd Lloegr gyfan!)








