<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Adeiladu Coeden Deulu cynhwysfawr gyda geni.com

28.3.08

Mae cofnodi hanes ein teulu'n rhywbeth hoffwn ei wenud, yn enwedig fel dwi'n mynd yn hyn a gyda'r rhai sy'n golygu cymaint i mi (a sy'n gwbod yr atebion) yn mynd yn hynach fyth. Mae gan fy nhad deulu reit fawr yn, enwedog o ochr ei dad ef, ond maen't i gyd yn byw ochrau Dyffryn Ardudwy, felly dwi ddim yn eu hadnabod cystal a hoffwn. Dwi newydd ddod ar draws gwefan sy'n gwenud creu coeden deulu yn hawdd dros ben. Enw'r wefan yw www.geni.com.

Sgrînlun o GENI Beta

Ond nid dim ond deiagram syml mae'n gallu wneud. Wrth glicio ar pob unigolyn, gallwch osod eullun, cofnodi dyddiad a man geni a marw pob un, manylion galwedigaeth ac hefyd dyddiad priodi. Gallwch fynd mor bell wedyn nodi pwy oedd yn bresenol yn y briodas a chynnwys lluniau. Chi wedyn yn gallu gweld 'llinyn amser' ar gyfer unigolion.

Sgrînlun o GENI Beta

Dim ond aelodau o'ch teulu all weld eich coeden chi ac unwaith rydych yn ychwanegu perthynas ar y goeden mae opsiwn danfon e-bost atynt er mwyn iddyn nhw allu ychwanegu at goeden new wirio manylion. Dwi ddim yn siwr os byddai diddordeb gan fy nghefndryd a'm cyfnitherod i, ond mae brawd a chwaer dad yn ymddiddori mewn hel achau ac yn weddol hyddysg ar gyfrifiadur. Mae dad yn dallt cyfrifiadur ond byddai'n gwneud mwy o sens eistedd lawr gyda fo a mam rhywddiwrnod o amgylch fy ngliniadur.

Mwy o sgrînluniau ar y blog

Mae'n siwr bod degau o wasanaethau tebyg i'w cael ar y we, ond mae hwn yn hynod o syml i'w ddefnyddio.

Diolch i flog ardderchog 'Dolenni Diddorol' am y ddolen.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:25 pm | dolen | 2 sylw |

Dal i fyny

5.7.07

Bues i'r gogledd am noson er mwyn mynd i weld nain yn yr ysbyty. Fe gafodd hi godwm tua 5 wythnos yn ôl a thorri ei chlun, ac fe gafodd lawdriniaeth i osod pin yn ei chlun. Gwelais i hi rai diwrnodau wedi'r lawdrinaieth a doeddwn heb ei gweld ers hynny. Roedd hi'n edrych yn well y tro yma, ond roedd yn dal yn ffwndrus ofnadwy. Hyd yn oed cyn iddi ddisgyn, doedd hi ddim yn gallu cerdded bron oherwydd ei phengliniau, ac mae hi fwy neu lai'n ddall. Does dim rhaid dweud nad oes ganddi fywyd hawdd iawn, nac fy mam druan chwaith sy'n edrych ar ei hol. Ta waeth, roedd nain yn 93 oed ddoe, ac roedd Inffyrmari Dinbych ble mae nain yn aros ar hyn o bryd yn 200 oed hefyd ar yr un diwrnod.

Tra ar y tren, dyma fi'n darllen 2 rifyn diwethaf o'r Faner Newydd nad oeddwn wedi cael cyfle i'w darllen, ac prynnais y rhifyn diweddaraf yn Siop Clwyd i'w ddarllen ar y ffordd adre ddoe. Mae yna erthyglau hynod o ddiddordol ynddo ac mae'n biti mawr nad yw mwy yn ei ddarllen. Yn ogystal a hanes gwerin Cymru, mae hefyd yn cynnwys erthyglau amrywiol o bedwar ban byd. Dyma i chi esiamplau:
Cefais i hefyd amser ar y tren i ddechrau ysgrifennu fy 'narlith' ar gyfer yr Eisteddfod!

Labels: , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 3:50 pm | dolen | 0 sylw |