Fflur Dafydd + Eraill: Caerffili, 3/3/06
28.2.06
Dyma gig cyntaf yn fy ymgais i wneud Caerffili'n ganolbwynt cerddoriaeth Cymraeg Cymru, dewch draw!

Cyfarwyddiadau i'r Goodrich Hotel
Gwrandewch ar Sesiwn C2 gan Fflur Dafydd
Darllenwch flog Carwyn Fowler

Cyfarwyddiadau i'r Goodrich Hotel
Gwrandewch ar Sesiwn C2 gan Fflur Dafydd
Darllenwch flog Carwyn Fowler

Cadwa at dy air, Rhodri!
27.2.06

Mae'r hen ddyn yn ffwndro, fel y gwelwyd ar y teledu'n ddiweddar, felly mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynd i'r braffeth o atgoffa Rhodri Morgan o'i eiriau ei hun pan drafodwyd y Mesur Iaith yn 1993. Dyma eiriad y bilfwrdd:
"People in Wales want rights... That is why it is important to confer these rights on the Welsh language, the speakers of the Welsh language, and those who may not be Welsh-speaking themselves, but want their children to be educated in Welsh as a matter of right.
We want... a genuine Welsh Language Bill ...That will be done when we revisit the question of a Welsh language measure when we are in government."
Mwy
Mae fy mhen bach moel yn chwyddo
24.2.06
A'i dyma pinicl fy ngyfra blogio, sef cael fy nhagio? Na dwi heb gael fy rhyddhau o'r carchar yn gynnar, ond mae Dwlwen wedi fy nhagio ar ei blog am Pedwar peth....
It goes something like this..
Pedwar swydd dw i wedi’u cael
1. Twtio burath Meirion Davies y Fron (Masnachwr Amaethyddol)
2. Golchi llestri yng ngwesty cwpwl afiach o dde ddwyrain Lloegr
3. Gofalwr rhan amser yn Sain Ffagan
4. Mewn canolfan alwadau Cyllid y Wlad (wancars)
Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd
1. Trainspotting
2. Withnail and I
3. Twin Town
4. La Haine
Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw
1. Prion
2. Bangor
3. Ynys Llanddwyn
4. Caerdydd
Pedwar rhaglen teledu dwi'n eu caru
1. Rownd a Rownd
2. No Angels
3. Desperate Housewives
4. Sky Sports News (ar yr adegau prin dwi'n cael gafael ar y remote)
Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau
1. Chwilog
2. Pennsylvania
3. Barcelona
4. Seland Newydd
Pedwar o’m hoff brydau bwyd (dim mewn unrhyw drefn!)
1. Sdiw cig eidion mam
2. Pizza ham, olewydd a madarch
3. Cyri llysieuol Sarah
4. Brechdannau
Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd
1. maes-e
2. Bloglines
3. Red Passion
4. Yahoo
Pedwar lle hoffwn i fod y munud hwn
1. Yn Saethu Paent (Paintball)
2. Yn gwylio Wrecsam
3. Mewn tafarn dawel sy'n gwerthu cwrw da gyda ffrindiau
4. Mewn Cymru Rydd
Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio
1. Mei
2. Darren
3. Aqua Fortis
4. Carwyn
(byddaf wedi tagio Chris a Tom, ond roeddynt mor amyneddgar ac wedi tagio eu hunain!)

Crochenwaith

Mae mwy nag un Crochenydd o sir Caerffili. Uchod mae Tony's Gorilla Warfare gan grochenydd ifanc o Gilfach o'r enw Mathew Jones. Mae'n rhan o gasgliad a wnaeth yn ystod yr ymgyrch etholid cyffredin diwethaf gyda photiau'n adlewyrchu prif bleidiau ac un yn adlewyrchu apathi etholwyr. Mae hefyd wedi gwneud casgliad am y tabloids.
Mwy o waith Mathew.
Yn ogystal a gwnud gwaith delf mae Mathew ar fin dechrau busnes ei hun ble mae'n dod ag olwyn droi a chlai ac yn gadael i bobl wneud potiau eu hunain. Mae eisioes yn gwneud hyn yn y clybiau ieuenctid lleol ac mae wedi gwneud dau sesiwn i'r Fenter.
Llythyr Origami
21.2.06
Syniad syml ond gwych sef Letterfu. Does dim angen amlen, mond sgwennu ar un ochr o'r papur a dilyn y cyfarwyddiadau plygu a defnyddio'r stamp i'w ludo - syml! Mae'n gôd agored felly mae croeso i chi addasu'r patrymau.
Trwy Green LA Girl
Cwrw a Llyfr
Dwi fel arfer yn yfed gwin a gwirod yn y tŷ a chwrw pan yn y dafarn, ond nawr ac yn man dwi'n prynnu potel o gwrw i'w yfed adref, yn arbennig rhai dwi heb eu blasu o'r blaen. Am ryw reswm dwi'm yn mwynhau yfed cwrw o botel cymaint ag o'r pwmp, ond mi aeth y chwerw Albanaidd Innis & Gunn lawr y lôn goch yn gyflym iawn. Mae blas unigryw iawn arno, ag os coeliwch chi'r marchnata, mae hyn oherwydd iddo aeddfedu mewn casgeni derw arbennig. Mae'n ddrytach na chwerw arferol ac yn dod mewn poteli 330ml sy'n llai na'r arfer, ond da o beth efallai gan fod ganddo gryfder o 6.6%.
Mae cryn amser di bod ers i mi ddarllen nofel ffuglen (Rhwng Nefoedd a Las Vagas oedd y diwethaf tu blwyddyn yn ôl) ond perswadiodd Sarah i mi ddarllen nofel oedd hi newydd orffen sef The colour of a dog running away gan awdur Cymreig o'r enw Richard Gwyn. Tra dwi wedi darllen sawl nofel gwell mi wnes ei fwynhau, mae'n debyg i nofelau ffuglen Iain Banks. Dyma ddisgrifiad cryno o'r nofel:
A contemporary mystery set in the bohemian under-belly of Barecelona. This novel skillfully combines a gothic tale of a 13th century Carthar cult with an urban thriller.
Deiseb arwyddion mewn Llydaweg ar SNCF
14.2.06

Rwyf wedi derbyn e-bost gan Mair Stuart, sydd ar hyn o bryd yn sefydlu cell Cymdeithas yr Iath yn ardal Y Barri.
Daeth 3 aelod o fudiad iaith yn Llydaw i rali Cymdeithas yng Nghaernarfon ym mis Hydref, a maent yn gofyn i bobl arwyddo deiseb ar eu gwefan: www.ai-ta.org - Sinit diouzhtu evit ma vije brezhoneg 'ba an SNCF! yn galw am arwyddion dwyieithog gan SNCF.
Gwobrau Moesegol The Observer 2006
13.2.06
Dwi heb brynnu'r papur ers rhai misoedd rwan, felly doeddwn ddim yn ymwybodol o'r The Observer Ethical Awards 2006. Er nad oes llawer o fynedd gyda fi mewn gwobrau o'r fath fel rheol, ond mae angen codi ymwybyddiaeth pobl o'r opsiynnau sydd ar gael os ydych eisiau prynu'n foesegol.Protecting the planet has never been so vital. But who's campaigning hardest to save the biosphere? Which building leaves the lightest ecological footprint? And which retailer is the best for sustainable shopping? Here, in our first ever ethical awards, we bring together leading experts, famous campaigners and you, the readers, to decide.
Mae 6 categori:
1. Manwerthwr y flwyddyn
2. Ymgyrchwr y flwyddyn
3. Ymgyrchwr ifanc y flwyddyn (dan 16)
4. Gwobr DIY
(efallai mi wnai enwebu fy hun am fy nhome compost yn defnyddio pren o hen silffoedd a sgipaiu lleol)
5. Arloesedd y flwyddyn
6. Adeilad y flwyddyn
Y broblem yw, dwi heb ddefnyddio dim o'r manwerthwyr sydd ar y rhestr, efallai bydd rhaid i mi enwebu siopau bychain Caerdydd, a mond Jamie Oliver a Bob Geldof dwi wedi clywed amdanynt o'r rhestr ymgyrchwyr, ond nid yw hynny'n golygu eu bod wedi cyflawni mwy nag rhai eraill ar y rhest.
Mae modd ennill gwobrau hefyd wrth bleidleisio ac mae modd enwebu cwmniau, unigolion eich hunan.
Yn eironig am gystadleuaeth sy'n hyrwyddo cynaladwyaeth, hysbyseb Easyjet oedd yn ymddangos ar ei ochr ar y wefan, ond mae papurau newydd mewn sefyllfa anodd gan eu bod ar un llaw yn ceisio codi ymwybyddiaeth pobl am faterion fel cynhesu byd-eang ond ar y llaw arall yn ddibynnol ar arian hysbysebu gan gwmniau cerbydau gyriant 4 olwyn ac hefyd cwmniau trefnu gwyliau mewn gwledydd pell.
the observer ethical awards 2006, siopa teg
Generated By Technorati Tag Generator
Pen fy nhennyn
Oherwydd dififoldeb y sefyllfa dwi di penderfynnu mynd yn gyhoeddus. Mae 90% o siaradwyr Cymraeg eisioes yn boicotio Radio Crymi oherwydd safon y cyflwyno a'r caneuon diflas maen't yn mynnu eu hail chwarae, a galwaf ar y 10% sy'n weddill i foicotio'r orsaf am nad yw'r diawled wedi anfon CD atai wedi i mi ennill cystadleuaeth. Dyma grynodeb:
Ar hyn o bryd dwi'n anfon datganiadau i'r wasg ynglyn a'r cam nesaf dwi am gymeryd sef clymu fy hun i ddesg derbynfa'r BBC yn Llandaf a hyrddio sylwadau anweddus at pob cyflwynydd Radio Cymru sy'n mynd heibio (heblaw am Huw Stephens, mae o'n werth gwrando arno).
Bydd modd lawrlwytho deiseb 'Rhowch y blydi CD i Rhys druan' oddi ar y blog erbyn diwedd yr wythnos. Ymunwch â'r ymgyrch!
8/9/05 - GORFOLEDD - Llwyddais i ddyfalu enw cân ar gwis ar raglen An(o)nest, a'r wobr oedd CD o'm dewis. Gofynnais am I'r Brawd Hwdini
8/11/05 - PRYDER - Doedd y CD heb gyrraedd, felly anfonais e-bost at Radio Cymru
9/11/05 - GOBAITH - Derbyn neges gan ymchwilydd i Radio Cymru'n dweud:Haia Rhys
Mae'n ddrwg iawn gen i am hyn. Nai weld be sydd gynnom fan hyn a'i yrru cyn gynted a phosib.
13/12/05 - SIOM - Dim golwg o'r CD
13/2/06 - DICTER - Dim CD nag ymateb
Ar hyn o bryd dwi'n anfon datganiadau i'r wasg ynglyn a'r cam nesaf dwi am gymeryd sef clymu fy hun i ddesg derbynfa'r BBC yn Llandaf a hyrddio sylwadau anweddus at pob cyflwynydd Radio Cymru sy'n mynd heibio (heblaw am Huw Stephens, mae o'n werth gwrando arno).
Bydd modd lawrlwytho deiseb 'Rhowch y blydi CD i Rhys druan' oddi ar y blog erbyn diwedd yr wythnos. Ymunwch â'r ymgyrch!
Bwyta'r ddinas
10.2.06

Mae twf aruthrol economi Tseina, ac awydd llywodraeth y wlad i'w foderneiddio wedi golygu bod rhannau helaeth o hen rannau dinasoedd mawrion yn cael eu clirio'n gyfangwbwl i wneud lle ar gyfer datblygiadau modern gorllewinol. O ganlyniad fe golli'r sawl cymdogaeth a chwali'r cymunedau cyfan, heb sôn am golli elfennau diwyllianol a phensaerniol sy'n unigryw i'r wlad.
Un sy'n pryderu llawer am y golled hyn yw Song Dong (dim jôcs dwl plis), artist o Beijing. Mae wedi dyfeisio ffordd unigryw o godi ymwybyddiaeth o'r broses.
It takes him about 10 days to build a city, zoned into business, cultural and traditional Asian areas, and then the public is invited to nibble away.
Anghofiais i ddweud, mae'n adeiladu'r dinasoedd allan o fisgedi! Mae darn diweddaraf ei brosietc 'Eating the City' i'w weld yn Selfridges Llundain (oes na un arall?) rhwng y 15fed a'r 22ain o'r mis hwn.
Trwy Treehugger
Tra'n sôn am ddinasoedd anferth, dyma gasgliad anhygoel o Mexico City o'r awyr.
Trwy Chwadan.
Mwy o wyrddni o Gymru
8.2.06

Mae cwmni Glo4Life o Rydaman yn cwmni arall o Gymru sy'n argraffu ar grysau-T organig fel Howies o Aberteifi, ac mae eu crysau hefyd ar gael yn Oyster. Dwi'n hoffi eu dyluniadau nhw, er mae'r un isod yn edrych fel yr Incredible Hulk yn cael codiad mewn coedwig!

Hefyd, maen't yn cynnal blog (un da hefyd) o'r enw Minimum Impact.
Gan bod eu logo nhw eitha snazy a'r ffaith mod i'n hoffi synaidaeth y cwmni, dyma fi'n ei osod gyda logo sebon, oyster a gwales fel hysbysebion ar fy mlog Saesneg. Tra'n mynd trwy fy ystadegau ymwelwyr, dyma fi'n dod ar draws tudalen ystadegau ymwelwyr Glo4Life, ac o fewn y 48 awr ers i mi osod eu logo ar fy mlog, roeddent wedi derbyn (o leiaf) 24 ymweliad trwy fy mlog!
siopa teg, glo4life, blogio, hysbysebu
Generated By Technorati Tag Generator
Mae gen i flog tri colofn,
Tri colofn sydd i'm blog...
Fel chi'n gweld, mond dau golofn sydd yma ar hyn o bryd, ond dwi wedi bod yn potsian gyda'r efaillflog, ac wedi llwyddo cael colofn ychwanegol, i'w lenwi gyda mwy o sothach.
Dyma fi'n 'benthyg' côd gan Basil, ond hefyd mae Thur wedi addasu rhai o batrymluniau poblogaidd blogger i rai 3 colofn ac mae ganddo tipyn o tips ar bethau eraill. Mae patrymluniau Thur yn rai 'glân' hynny yw nid côd blog penodol ydynt, yn wahanol i rai Basil sy'n cynnwys côd patrymuniau ei flog ei hun sy'n edrych yn fler, ond allwch ddod dros hyn mae golwg y blog gorffenedig yn edrych yn daclusach.
Hefyd dwi wedi meistrioli (wel benthyg ac addasu eto) tablau, er mwyn gwneud table RhySense (sef hysbysebion am ddim i bobl ffein) - gobeithio wnaiff Gŵgl ddim mynd a fi i'r llys, neu gwaeth fyth cau'r blog i lawr!

| Sebon Cerddoriaeth diweddaraf o Gymru - dim corau na country yma sori, triwch Virgin | ||
| Delyn Locksmiths Gwasanaeth lleol am bris teg | ||
Hefyd dwi wedi meistrioli (wel benthyg ac addasu eto) tablau, er mwyn gwneud table RhySense (sef hysbysebion am ddim i bobl ffein) - gobeithio wnaiff Gŵgl ddim mynd a fi i'r llys, neu gwaeth fyth cau'r blog i lawr!
Upcoming.org - Y peth mawr nesaf?
6.2.06
Dois ar draws upcoming.org ar flog The Greener Side pan adawodd rhywun sylw ar fy mlog Saesneg.
Dwi di bod yn chwilio am rhywbeth ar gyfer rhestru digwyddiadau ar flog Dysgwyr De Ddwyrain, gan mod in postio am ddigwyddiadau willi-nilly mewn dim trefn o gwbwl.
Dwi wedi agor cyfrif arno (am ddim) ac wedi gosod un digwyddiad. Fi oedd y cyntaf i osod digwyddiad yng Nghymru dwi'n meddwl achos doedd dim o'r siroedd wedi eu cofnodi. Mae'n hawdd iawn i'w gosod a dwi wedi eu cofnodi'n Gymraeg (gyda'r Saesneg mewn cromfachau). Tra roeddwn yn blesd gyda fy hun am hyn, mae'n creu problem wedyn gyda Yahoo Maps a Google Maps am nad ydynt yn nabod yr enwau (a syrpreis syrpreis, sgin manau yng Nghymru ddim Zip Codes).
Ar y dechrau bydd yn araf i'w ddefnyddio gan bod angen gosod 'metro' newydd (sef tref) pob tro rydych am nodi digwyddiad mewn tref ble nad oes diwgyddiad wedi bod o'r blaen, yr un fath gyda lleoliad, er mae'nt yn hawdd i'w gosod. Gallwch osod tagiau ar gyfer pob digwyddiad, creu grwpiau ac hefyd nodi os ydycgh am fynychu digwyddiad neu beidio.
Upcoming.org is a collaborative event calendar, completely driven by people like you. Enter in the events you're attending, comment on events entered by others, and syndicate event listings to your own weblog.
As Upcoming.org learns more about the events you enjoy, it will suggest new events you never would have heard about.
Dwi di bod yn chwilio am rhywbeth ar gyfer rhestru digwyddiadau ar flog Dysgwyr De Ddwyrain, gan mod in postio am ddigwyddiadau willi-nilly mewn dim trefn o gwbwl.
Dwi wedi agor cyfrif arno (am ddim) ac wedi gosod un digwyddiad. Fi oedd y cyntaf i osod digwyddiad yng Nghymru dwi'n meddwl achos doedd dim o'r siroedd wedi eu cofnodi. Mae'n hawdd iawn i'w gosod a dwi wedi eu cofnodi'n Gymraeg (gyda'r Saesneg mewn cromfachau). Tra roeddwn yn blesd gyda fy hun am hyn, mae'n creu problem wedyn gyda Yahoo Maps a Google Maps am nad ydynt yn nabod yr enwau (a syrpreis syrpreis, sgin manau yng Nghymru ddim Zip Codes).
Ar y dechrau bydd yn araf i'w ddefnyddio gan bod angen gosod 'metro' newydd (sef tref) pob tro rydych am nodi digwyddiad mewn tref ble nad oes diwgyddiad wedi bod o'r blaen, yr un fath gyda lleoliad, er mae'nt yn hawdd i'w gosod. Gallwch osod tagiau ar gyfer pob digwyddiad, creu grwpiau ac hefyd nodi os ydycgh am fynychu digwyddiad neu beidio.
Gwladychwyr Catalonia

Yn ddiweddar dois ar draws blog Cymraeg o'r enw Dyddlyfr y Bychan Main gan Gymro (dwi'n tybio) sy'n byw ym Marcelona. Dwi wedi bod i Barcelona dwywaith ac wedi mwynhau'r ddau ymweliad yn fawr, a dio ddim syndod i mi bod nifer fawr o fobl o ogledd Ewrop yn ymfudo yno i fyw, gan eich bo yn cael y gorau o'r ddau fyd sef tywydd poeth (nid mod i ddim balchach o dywydd poeth fy hun) ac hefyd bywyd dinesig soffistigedig.
Fel Cymro Cymraeg, dwi'n ymwybodol iawn o ymdeimlad cenedlaethol y Catalaniaid ac yn edmygu y modd mae'r iaith Gatalaneg yn goroesi ac o bosib yn ffynnu - er gwaethaf ymdrechion y wladwriaeth Sbaeneg i'w tanseilio. Ymddengys mai nid y Castiliaid yw'r unig rai sydd â dim parch at iaith a diwylliant cenedl Catalonia. Yn ei bost diwethaf, mae'r Bychan Main yn sôn am Ymgyrch e-bost yn erbyn cylchgrawn Saesneg.
Ebost neithiwr gan Gymdeithas yr Iaith Gatalaneg (Plataforma per la Llengua) yn gofyn i bobl brotestio yn erbyn erthygl gwbl hiliol yn erbyn y Catalaniaid mewn cylchgrawn a sefydlwyd gan Saeson yma yn Barcelona, sef Barcelona Connect. Dyma fi’n ysgrifennu at fforwm Catalaneg i ofyn i bobl hala neges at y cylchgrawn i gwyno.
Mae'r Prydeinwyr sydd yn dod i fyw yma (Saeson, ac ysywaeth y rhan fwyaf o’r Cymry a’r Sgotiaid hefyd) yn hollol ddirmygus eu hagwedd tuag at y Catalaniaid. Rhaid dweud hefyd fod y ‘bobl ddwad’ o'r Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen, yr Iseldiroedd, a'r gwledydd Llychlynaidd yr un mor elyniaethus tuag at y Catalaniaid. A'r Gwyddelod yw'r gwaethaf am ryw reswm.
Cynnwys yr erthygl a'r ymddiheuriad (yn Saesneg) yma.
Rhy cŵl i IE
3.2.06
Yn ddiweddar dyma fi'n gosod y logo canlynol at fy mlog Saesneg:

Beth oedd o oedd bach o hwyl gan y dylunydd Paul Armstrong. Wedi wedi cael llond bol ar orfod addasu gwefannau fel eu bod yn ymddangos yn iawn ar wahanol borwyr (wel yn arbennig ar gyfer Internet Explorer yn bennaf).
Roedd cael y logo mewn sawl iaith (fel yr un Almaeneg uchod) a disgrifiad o'r gwahanol borwyr gwahanol sydd ar gael fel Safari, Firefox ac Opera. Ond daeth yn ddioddefwr o'i lwyddiant ei hun (ych!) pan ddechreuodd dderbyn e-byst gan nifer fawr o bobl unai o blaid beth oedd yn wneud, neu gan gefnogwyr IE yn ei wawdio.
Bechod, ond mae wedi fy ysbrydoli i wneud logo fy hun fydd yn cyfeirio at dudalen Firefox ar Gwelywiwr
too cool for ie, zu cool für ie, firefox, blogio, gwe-lywiwr
Generated By Technorati Tag Generator

Beth oedd o oedd bach o hwyl gan y dylunydd Paul Armstrong. Wedi wedi cael llond bol ar orfod addasu gwefannau fel eu bod yn ymddangos yn iawn ar wahanol borwyr (wel yn arbennig ar gyfer Internet Explorer yn bennaf).
Last summer, while creating a personal blog, I snapped. Internet Explorer is holding us back. Its ill-support of CSS2 has brought a halt to the advancement of website design. So I jumped on the anti-Internet Explorer bandwagon with my own joke campaign, Too Cool for Internet Explorer.
Roedd cael y logo mewn sawl iaith (fel yr un Almaeneg uchod) a disgrifiad o'r gwahanol borwyr gwahanol sydd ar gael fel Safari, Firefox ac Opera. Ond daeth yn ddioddefwr o'i lwyddiant ei hun (ych!) pan ddechreuodd dderbyn e-byst gan nifer fawr o bobl unai o blaid beth oedd yn wneud, neu gan gefnogwyr IE yn ei wawdio.
It was a joke, plain and simple. A lot of people didn’t quite get the humor in it. Others thought it was the greatest thing since Spread Firefox and wanted a full-blown site. Honestly, I’m sick of getting emails from über-excited nerds and hate mail from IE advocates. The content is now coming down.
Bechod, ond mae wedi fy ysbrydoli i wneud logo fy hun fydd yn cyfeirio at dudalen Firefox ar Gwelywiwr
too cool for ie, zu cool für ie, firefox, blogio, gwe-lywiwr
Generated By Technorati Tag Generator