<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Upcoming.org - Y peth mawr nesaf?

6.2.06

Dois ar draws upcoming.org ar flog The Greener Side pan adawodd rhywun sylw ar fy mlog Saesneg.
Upcoming.org is a collaborative event calendar, completely driven by people like you. Enter in the events you're attending, comment on events entered by others, and syndicate event listings to your own weblog.

As Upcoming.org learns more about the events you enjoy, it will suggest new events you never would have heard about.

Dwi di bod yn chwilio am rhywbeth ar gyfer rhestru digwyddiadau ar flog Dysgwyr De Ddwyrain, gan mod in postio am ddigwyddiadau willi-nilly mewn dim trefn o gwbwl.

Dwi wedi agor cyfrif arno (am ddim) ac wedi gosod un digwyddiad. Fi oedd y cyntaf i osod digwyddiad yng Nghymru dwi'n meddwl achos doedd dim o'r siroedd wedi eu cofnodi. Mae'n hawdd iawn i'w gosod a dwi wedi eu cofnodi'n Gymraeg (gyda'r Saesneg mewn cromfachau). Tra roeddwn yn blesd gyda fy hun am hyn, mae'n creu problem wedyn gyda Yahoo Maps a Google Maps am nad ydynt yn nabod yr enwau (a syrpreis syrpreis, sgin manau yng Nghymru ddim Zip Codes).

Ar y dechrau bydd yn araf i'w ddefnyddio gan bod angen gosod 'metro' newydd (sef tref) pob tro rydych am nodi digwyddiad mewn tref ble nad oes diwgyddiad wedi bod o'r blaen, yr un fath gyda lleoliad, er mae'nt yn hawdd i'w gosod. Gallwch osod tagiau ar gyfer pob digwyddiad, creu grwpiau ac hefyd nodi os ydycgh am fynychu digwyddiad neu beidio.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:17 am

0 sylw:

Gadawa sylw