Pen fy nhennyn
13.2.06
Oherwydd dififoldeb y sefyllfa dwi di penderfynnu mynd yn gyhoeddus. Mae 90% o siaradwyr Cymraeg eisioes yn boicotio Radio Crymi oherwydd safon y cyflwyno a'r caneuon diflas maen't yn mynnu eu hail chwarae, a galwaf ar y 10% sy'n weddill i foicotio'r orsaf am nad yw'r diawled wedi anfon CD atai wedi i mi ennill cystadleuaeth. Dyma grynodeb:
Ar hyn o bryd dwi'n anfon datganiadau i'r wasg ynglyn a'r cam nesaf dwi am gymeryd sef clymu fy hun i ddesg derbynfa'r BBC yn Llandaf a hyrddio sylwadau anweddus at pob cyflwynydd Radio Cymru sy'n mynd heibio (heblaw am Huw Stephens, mae o'n werth gwrando arno).
Bydd modd lawrlwytho deiseb 'Rhowch y blydi CD i Rhys druan' oddi ar y blog erbyn diwedd yr wythnos. Ymunwch â'r ymgyrch!
8/9/05 - GORFOLEDD - Llwyddais i ddyfalu enw cân ar gwis ar raglen An(o)nest, a'r wobr oedd CD o'm dewis. Gofynnais am I'r Brawd Hwdini
8/11/05 - PRYDER - Doedd y CD heb gyrraedd, felly anfonais e-bost at Radio Cymru
9/11/05 - GOBAITH - Derbyn neges gan ymchwilydd i Radio Cymru'n dweud:Haia Rhys
Mae'n ddrwg iawn gen i am hyn. Nai weld be sydd gynnom fan hyn a'i yrru cyn gynted a phosib.
13/12/05 - SIOM - Dim golwg o'r CD
13/2/06 - DICTER - Dim CD nag ymateb