Mwy o wyrddni o Gymru
8.2.06

Mae cwmni Glo4Life o Rydaman yn cwmni arall o Gymru sy'n argraffu ar grysau-T organig fel Howies o Aberteifi, ac mae eu crysau hefyd ar gael yn Oyster. Dwi'n hoffi eu dyluniadau nhw, er mae'r un isod yn edrych fel yr Incredible Hulk yn cael codiad mewn coedwig!

Hefyd, maen't yn cynnal blog (un da hefyd) o'r enw Minimum Impact.
Gan bod eu logo nhw eitha snazy a'r ffaith mod i'n hoffi synaidaeth y cwmni, dyma fi'n ei osod gyda logo sebon, oyster a gwales fel hysbysebion ar fy mlog Saesneg. Tra'n mynd trwy fy ystadegau ymwelwyr, dyma fi'n dod ar draws tudalen ystadegau ymwelwyr Glo4Life, ac o fewn y 48 awr ers i mi osod eu logo ar fy mlog, roeddent wedi derbyn (o leiaf) 24 ymweliad trwy fy mlog!
siopa teg, glo4life, blogio, hysbysebu
Generated By Technorati Tag Generator