Bwyta'r ddinas
10.2.06
Mae twf aruthrol economi Tseina, ac awydd llywodraeth y wlad i'w foderneiddio wedi golygu bod rhannau helaeth o hen rannau dinasoedd mawrion yn cael eu clirio'n gyfangwbwl i wneud lle ar gyfer datblygiadau modern gorllewinol. O ganlyniad fe golli'r sawl cymdogaeth a chwali'r cymunedau cyfan, heb sôn am golli elfennau diwyllianol a phensaerniol sy'n unigryw i'r wlad.
Un sy'n pryderu llawer am y golled hyn yw Song Dong (dim jôcs dwl plis), artist o Beijing. Mae wedi dyfeisio ffordd unigryw o godi ymwybyddiaeth o'r broses.
It takes him about 10 days to build a city, zoned into business, cultural and traditional Asian areas, and then the public is invited to nibble away.
Anghofiais i ddweud, mae'n adeiladu'r dinasoedd allan o fisgedi! Mae darn diweddaraf ei brosietc 'Eating the City' i'w weld yn Selfridges Llundain (oes na un arall?) rhwng y 15fed a'r 22ain o'r mis hwn.
Trwy Treehugger
Tra'n sôn am ddinasoedd anferth, dyma gasgliad anhygoel o Mexico City o'r awyr.
Trwy Chwadan.