<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gwobrau Moesegol The Observer 2006

13.2.06

Dwi heb brynnu'r papur ers rhai misoedd rwan, felly doeddwn ddim yn ymwybodol o'r The Observer Ethical Awards 2006. Er nad oes llawer o fynedd gyda fi mewn gwobrau o'r fath fel rheol, ond mae angen codi ymwybyddiaeth pobl o'r opsiynnau sydd ar gael os ydych eisiau prynu'n foesegol.
Protecting the planet has never been so vital. But who's campaigning hardest to save the biosphere? Which building leaves the lightest ecological footprint? And which retailer is the best for sustainable shopping? Here, in our first ever ethical awards, we bring together leading experts, famous campaigners and you, the readers, to decide.

Mae 6 categori:
1. Manwerthwr y flwyddyn

2. Ymgyrchwr y flwyddyn

3. Ymgyrchwr ifanc y flwyddyn (dan 16)

4. Gwobr DIY
(efallai mi wnai enwebu fy hun am fy nhome compost yn defnyddio pren o hen silffoedd a sgipaiu lleol)

5. Arloesedd y flwyddyn

6. Adeilad y flwyddyn

Y broblem yw, dwi heb ddefnyddio dim o'r manwerthwyr sydd ar y rhestr, efallai bydd rhaid i mi enwebu siopau bychain Caerdydd, a mond Jamie Oliver a Bob Geldof dwi wedi clywed amdanynt o'r rhestr ymgyrchwyr, ond nid yw hynny'n golygu eu bod wedi cyflawni mwy nag rhai eraill ar y rhest.

Mae modd ennill gwobrau hefyd wrth bleidleisio ac mae modd enwebu cwmniau, unigolion eich hunan.

Yn eironig am gystadleuaeth sy'n hyrwyddo cynaladwyaeth, hysbyseb Easyjet oedd yn ymddangos ar ei ochr ar y wefan, ond mae papurau newydd mewn sefyllfa anodd gan eu bod ar un llaw yn ceisio codi ymwybyddiaeth pobl am faterion fel cynhesu byd-eang ond ar y llaw arall yn ddibynnol ar arian hysbysebu gan gwmniau cerbydau gyriant 4 olwyn ac hefyd cwmniau trefnu gwyliau mewn gwledydd pell.

,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:32 pm

0 sylw:

Gadawa sylw