<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Cwrw a Llyfr

21.2.06

Dwi fel arfer yn yfed gwin a gwirod yn y tŷ a chwrw pan yn y dafarn, ond nawr ac yn man dwi'n prynnu potel o gwrw i'w yfed adref, yn arbennig rhai dwi heb eu blasu o'r blaen. Am ryw reswm dwi'm yn mwynhau yfed cwrw o botel cymaint ag o'r pwmp, ond mi aeth y chwerw Albanaidd Innis & Gunn lawr y lôn goch yn gyflym iawn. Mae blas unigryw iawn arno, ag os coeliwch chi'r marchnata, mae hyn oherwydd iddo aeddfedu mewn casgeni derw arbennig. Mae'n ddrytach na chwerw arferol ac yn dod mewn poteli 330ml sy'n llai na'r arfer, ond da o beth efallai gan fod ganddo gryfder o 6.6%.

Mae cryn amser di bod ers i mi ddarllen nofel ffuglen (Rhwng Nefoedd a Las Vagas oedd y diwethaf tu blwyddyn yn ôl) ond perswadiodd Sarah i mi ddarllen nofel oedd hi newydd orffen sef The colour of a dog running away gan awdur Cymreig o'r enw Richard Gwyn. Tra dwi wedi darllen sawl nofel gwell mi wnes ei fwynhau, mae'n debyg i nofelau ffuglen Iain Banks. Dyma ddisgrifiad cryno o'r nofel:
A contemporary mystery set in the bohemian under-belly of Barecelona. This novel skillfully combines a gothic tale of a 13th century Carthar cult with an urban thriller.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:06 pm

0 sylw:

Gadawa sylw