Cadwa at dy air, Rhodri!
27.2.06
Mae'r hen ddyn yn ffwndro, fel y gwelwyd ar y teledu'n ddiweddar, felly mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynd i'r braffeth o atgoffa Rhodri Morgan o'i eiriau ei hun pan drafodwyd y Mesur Iaith yn 1993. Dyma eiriad y bilfwrdd:
"People in Wales want rights... That is why it is important to confer these rights on the Welsh language, the speakers of the Welsh language, and those who may not be Welsh-speaking themselves, but want their children to be educated in Welsh as a matter of right.
We want... a genuine Welsh Language Bill ...That will be done when we revisit the question of a Welsh language measure when we are in government."
Mwy
3 sylw:
Ga i ofyn pa mor fawr ydi'r poster yma, a lle yn union mae o wedi cael ei roi? Syniad da iawn :-D
sylw gan Lili Lwyd, 2:01 pm
Sgynai'm yr union dimensions ond mae'n ANFERTH ac wedi ei leoli ar hysbysfwrdd drws nesaf i Siambr y Cynulliad, ar gefn Canolfan y Mileniwm ac mae'n amhosib i'w osgoi!
Mae'r poster ychydig dros 6 metr ar draws a 3 metr o uchder, ac wedi'i leoli ger ddrws cefn y Cynulliad (drws y swyddfeydd, lle mae'r gweithwyr ac aelodau yn mynd i fewn), ar ochr Canolfan y Mileniwm. Es i lawr i'w weld noson o'r blaen, ac mae'n reit drawiadol -- ar gyffordd prysur, ac amhosib ei osgoi os wyt ti ar dy ffordd i fewn i'r Cynulliad!
,