<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Mae gen i flog tri colofn,
Tri colofn sydd i'm blog...

8.2.06

Fel chi'n gweld, mond dau golofn sydd yma ar hyn o bryd, ond dwi wedi bod yn potsian gyda'r efaillflog, ac wedi llwyddo cael colofn ychwanegol, i'w lenwi gyda mwy o sothach.

Dyma fi'n 'benthyg' côd gan Basil, ond hefyd mae Thur wedi addasu rhai o batrymluniau poblogaidd blogger i rai 3 colofn ac mae ganddo tipyn o tips ar bethau eraill. Mae patrymluniau Thur yn rai 'glân' hynny yw nid côd blog penodol ydynt, yn wahanol i rai Basil sy'n cynnwys côd patrymuniau ei flog ei hun sy'n edrych yn fler, ond allwch ddod dros hyn mae golwg y blog gorffenedig yn edrych yn daclusach.










SynwyRhys
Sebon
Cerddoriaeth diweddaraf o Gymru - dim corau na country yma sori, triwch Virgin
Delyn Locksmiths
Gwasanaeth lleol am bris teg


Hefyd dwi wedi meistrioli (wel benthyg ac addasu eto) tablau, er mwyn gwneud table RhySense (sef hysbysebion am ddim i bobl ffein) - gobeithio wnaiff Gŵgl ddim mynd a fi i'r llys, neu gwaeth fyth cau'r blog i lawr!
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:15 pm

3 sylw:

Dwn im os di hwn da i rwbath i chdi, ond dyma fo eniwe.

http://www.collylogic.com/

Mae'r drydedd golofn yn diflannu os yw lled ffenestr y porwr yn llai na 800 picsel. Reit cwl i ddeud y gwir.
sylw gan Blogger Mei, 7:03 am  

Dyna'r peth diwethaf oeddwn eisiau ei weld! Blog arall gyda dolenni at 10'au a mwy o flogaiu eraill gyda pob math o dips ar sut i newid patrymluniau blogs. Mae rhai'n edrych yn hyfryd.

Dwi'n novice llwyr ar bethau fel CSS, a does dim profiad HTML gyda fi hyd yn oed, ond mae Blogger mor hyblyg dwi'n teimlo'n ddigon hyderus i botsian heb boeni'n ormodol am wneud llanast (cyn belled dwi'n arbed copi o'r patrymlun o flaen llaw).
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:09 am  

Wedi sylwi tydi'r patrymlun ddim mor wych ag oeddwn yn feddwl

tydi nifer y sylwadau ddim yn ymddangos yn gywir o dan pob post, er maen't i gyd i'w gweld wedi agor y blwch

mae'n amhosib dewis un post yn unig i ymddangos ar dudalen

yn drydydd, er nad yw'n effeithio ar fy mlog i, wedi mwy o ddarllen mae'n debyg mai o flog asgell dde gwerinaiethol ges i'r côd.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:39 pm  

Gadawa sylw