<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Galw am ddillad 'moesol' ar gynnydd

30.1.06

Dwi'n teimlo fatha Huw Edwards, wedi ymddangos ar raglenni megis Sgorio (gwefan wych), Hacio a sawl un arall ddim gyda teitl yn diweddu gyda -io ar S4C, dyma fi heddiw'n ymddangos ar BBC Breakfast. Nid cael fy ngwahodd er mwyn rhannu fy marn holl bwysig oeddwn i ond er mwyn...modelu!. Mae gobaith i chi gyd.

Dwi eisioes wedi blogio am siop Oyster yng Nghaerdydd, a bore heddiw roedd un o ohebwyr BBC Breakfast yn darlledu o'r siop i gyd-fynd ag eitem am Marks & Spencers yn cyflwyno dillad masnach deg. Tydi'r cwmni (M&S hynny yw) ddim wedi bod yn gwneud yn rhy dda mewn rhifynnau diweddar o The Good Shopping Guide, ond gobeithio bydd yn fwy na ymgais ar Greenwashing, yn wir mae adborth gan eu cwsmeriaid wedi dangos bod y cyhoedd yn poeni am darddiad y cynyrch maen't yn brynnu.
Meanwhile, a survey commissioned by M&S showed almost a third of shoppers had put clothes back on the rails amid concerns about their origins.

It also found 78% of shoppers wanted to know more about the way clothes were made, including use of chemicals and conditions in factories producing the goods.

On the food front, one in five shoppers had left goods on the shelves as a result of concerns about where they had come from or how it was made, the poll discovered.

Ta beth, roedd yn gyhoeddusrwydd gwych i Oyster, sy'n siop bach neis a chyfeillgar yng nghanol Caerdydd. Mae nhw newydd ddechrau gwerthu trainers, sy'n newyddion da i fi - efallai gallai eu perswadio i werthu rhai New Balance, sy'n cael eu cynhyrchu yn y DG.

, , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:23 am | dolen | 0 sylw |

Peidiwch difetha'ch brecwast.

27.1.06

Efallai efallai efallai byddai'n ymddangos ar BBC Breakfast fore Llun, ac efallai fyddai ddim. Os gai gyfle nai gadarnhau dros y penwythnos. Eitem am male models fydd o a sut llywddais i'w gwneud hi mewn diwydiant mor galed a di-drugaredd - dwi'n meddwl ta beth, roedd y manylion braidd yn scetchy. Wrach cawsant y person anghywir.


Diweddariad

Mae'n debyg y byddai ar y bocs yfory wedi'r cwbwl. Tra fydd y gweddill ohonoch yn driblan lawr eich pillow yn breuddwydio am Gymru Rydd, mi fyddai i yn Arcêd y Castell yn malu cach am fasnach teg.
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:39 pm | dolen | 2 sylw |

"Du bist Deutschland"

Mae Technorati yn cynnal rhyw fath o flog eu hunain, sy'n beth cyffredin iawn (ac amlwg braidd) gan wefannau sy'n cynnig gwasaneth i flogwyr. Fel rhywun sy'n blogio mewn iaith lleafrifol, mae'n ddiddorol weithiau gweld sut mae Blogger, Technorati a Bloglines, sydd unai'n Saesneg yn unig, neu efallai mewn 1 neu 2 iaith arall, yn 'ymdopi' (os dyna yw'r gair), neu'n ymateb i'r 100'edd o ieithoedd eraill mae pobl yn flogio ynddynt.

Mae wedi dod i sylw Technorati mai'r term sy'n cael ei ymchwilio amlaf ar hyn o bryd yw "Du bist Deutschland", sef 'Ti yw Yr Almaen' (yn Almaeneg os nad ydych wedi dyfalu). Beth yw ydi slogan sy'n cael ei ddefnyddio mewn ymgyrch marchanta os liciwch chi yn yr Almaen ar hyn o bryd i geisio ysgogi'r genedl. Iawn medde chi, ond mae mwy i'r stori, sef darganfyddiad* bod y slogan yma hefyd wedi cael ei ddefnyddio gan y Natsiaid yn y 30'au, ac felly mae wedi achosi tipyn o storm.

*Mae mymryn o amheuaeth yngln a'r dilysrwydd y dystiolaeth, ond mae'n stori gweddol ddiddorol ta beth. Mae'r llun yn edrych braidd yn iffi.

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:15 pm | dolen | 0 sylw |

Gwefan y Wrexham 2

Pwy yw'r Wrexham 2?

2 gefnogwr brwd o'r clwb (un yn teithio'n rheolaidd o Ddinbych y Pysgod i fynychu gemau cartref!) sydd wedi llwyddo tapio sgyrsiau rhyngddynt a Mark Guterman, y cachwr di-egwyddo a brynnodd y clwb ar ran y cachwr arall Alex Hamilton. Does neb (oni bai am 'Guiltyman', y Wrexham 2 a'r Western Mail) yn gwybod cynnwys y tapiau hyn, ond mae'r cynnwys yn bwysig iawn i'r frwydr i ad-ennill y clwb ac mae gwaharddeb llys yn erbyn datgelu'r cynnwys.
On 15th April 2005 the High Court in Manchester served an injunction on the Western Mail newspaper and two Wrexham FC supporters, Ken Pemberton and Lindsay Jones, preventing them from distributing or otherwise publishing details of taped conversations with the former club chairman Mark Guterman.

The gagging order relates to over 10 hours of conversations between Mr Pemberton and Mr Guterman.

Doeddwn ddim yn ymwybodol tan heddiw fod y Western Mail wedi cael gafael ar y tapiau, ond siomedig yw darllen iddynt setlo allan o'r llys yr wythnos wedi'r gwaharddeb.
During the week following the serving of the injunction solicitors representing the Western Mail cut a deal with Mr Guterman's solicitors in which they received their costs in return for giving an undertaking never to publish the details of the tapes.

Oherwydd yr holl bwysau a'r oblygiadau arianol, mae Lindsey Jones hefyd wedi'w orfodi i setlo, gan nad oedd eisiau'r ansicrwydd o golli ei gartref os colli. Mae hyn yn gadael Ken Pemberton i ddal ymlaen ar ben ei hun.
Mae'n werth darllen y wefan i gael y stori i gyd achos amhosib i'w ei grynhoi, ond hyd yn oed wedyn darn bach yn unig yw hyn o'r saga sy'n peryglu dyfodol Clwb Pêl-Droed Wrecsam.

Os y gallwch, plîs cyfrannwch at gostau y Wrexham 2 ac arwyddo'r ddeiseb.


Alex Hamilton ar Wikipedia


, , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:27 pm | dolen | 2 sylw |

Ewro 2008

Wrthi'n gwrando ar yr enwau'n dod o'r het ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2008
Mae Cymru yng ngrŵp D gyda:

San Marino
Cyprus
Gweriniaeth Iwerddon
Slofacia
Yr Almaen
Gweriniaeth Siec

Bydd yn dipyn o gamp gorffen yn ail, ond petai Cymru'n gorffen yn 3ydd byddai'n gwneud lles i hyder y tîm a'u lleoliad yn y detholion. A phwysicach fyth, ambell leoliad cyfleus i deithio iddo a gemau deiniadol i ddenu'r tofreydd.

, , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:30 am | dolen | 0 sylw |

Lle ti'n dodo?

26.1.06

Do, es i i Ysgol Glan Clwyd, ond o ble daeth fy nghyfennw? Wel mae'n debyg mai o'r gair/enw 'Gwyn'. Mae ambell un eisioes wedi blogio am wefan Surname Profiler, ond gyda'r holl gyhoeddusrwydd mae wedi bod yn brysur, a dim ond rwan gellir ei ddefnyddio'n ddi-draferth. Mae'r gwefan yn dangos sut mae pobl â'r un cyfenw wedi eu gwasgaru ar draws Prydain.
Dyma ddau fap ar gyfer WYNNE (1881 ar y chwith a 1998 ar y dde)


Dwi hefyd wedi bod yn edrych ar darddiad cyfenw fy nghariad, sef BITHELL.

Fydd tad Sarah ddim yn blesd o'r digrifiad fel enw Saesneg, gan mae'n debyg o'r hen enw ap Ithell y daw, ac mae'r mapiau isod yn awgrymu mai enw Cymreig ydi o hefyd.
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:07 pm | dolen | 0 sylw |

Oriel Washington

23.1.06


Es i a Sarah i Oriel Washington ym Mhenarth ar y penwythnos i weld arddangosfa gan Richard Strachan sy'n gweithio rhan amser yn y llyfregell gyda Sarah. Mae ei waith yn cael ei ddylanwadu gan ffurf, siapau a golau o fewn adeiladau, ac mae'nt yn ddymunol iawn. Efallai eich bod wedi dyfalu erbyn hyn nad ydyw i'n critic celf proffesiynnol, felly stopia i yn fana.
Mae yna hefyd arddangosfa o'r enw ReWorked, sef cystadleuaeth creu gwaith celf yn defnyddio sbwriel. Mae stori tu cefn i nifer o'r gwaith fel pethau oedd un artist yn ei weld o'r bws i'w gawith, ac roedd wedyn yn mynd yn ôl a'u casglu wedyn.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:23 pm | dolen | 0 sylw |

Dell yn arwain y ffordd gyda hyrwyddo'r Gymraeg

O PhotoshopNews.com

Dwi weithiau'n meddwl petai sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru'n danfon gohebiaeth allan yn Gymraeg yn unig ac yna'n cynnig fersiwn Saesneg os ydych eisiau un (yn lle'r ffordd arall rownd) byddai'n ffordd da o fesur y gwir alw am wasanaeth Cymraeg - a gwneud i'r di-Gymraeg yng Nghymru brofi sut wasaneth mae siaradwyr Cymraeg yn dderbyn. Yn amlwg byddai hyn yn codi gwrychyn llawer.

Wel, mae'r cwmni Dell wedi gwneud dechreuad ta beth (er yn ddi-arwybod mae'n siwr) drwy anfon cyfrifiaduron allan i bobl gyda'r fersiwn Cymraeg o Windows wedi ei rag-osod. Ac mae hyn wedi achosi problemau (yn ogystal a'r amlwg):
Dell computers sold in the UK as of late 2005 ship with a new Windows XP SP2 OEM version, which has the language set to Welsh by default. This setting causes Photoshop and the Editor of Photoshop Elements to freeze.

Er bod yn stori digon doniol ac yn broblem hawdd i'w datrys, mae'n codi'r cwestiwn sawl rhaglen gyfrifiadur sydd ddim yn mynd i weithio'n iawn gyda'r fersiwn Cymraeg o XP?
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:21 am | dolen | 0 sylw |

Graffiti yn y 'dogaeth


Yn ddiweddar dwi wedi sylwi ar gyfres o graffiti (cyfreithlon) o gwmpas Treganna a Phontcanna. Mae'n ddeiniadol iawn ac wrth un mae cyferiad gwefan www.peacefullprogress.co.uk. Mae'r wefan yma'n llawn o engrheifftiau graffiti gan wahanol artistiaid sydd wedi eu lleoli yn ne Cymru, ac un dwi'n hoff iawn ohono yw gwaith Grow.
Mae rhai o'r artistiaid (neu BBoys) wedi ymddangos ar Uned 5!

, , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:53 am | dolen | 0 sylw |

Yn ddwfn yn y sdwff Brown

Efallai bydd Gordon Brown yn cael bach o sioc yn yr etholiad nesaf. Yn y Sunday Times mae erthygl gan Paul Lamarra, ble mae'n treulio dydd yn mynd o gwmpas trefi yn etholaeth y Canghellor yn gwisgo crys-T gyda Jack yr Undeb arno er mwyn mesur agwedd y trigolion. Oes rhaid dweud nad oedd yr ymatebion yn rhai cwrtais?

Trwy doctorvee

, , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:32 am | dolen | 0 sylw |

Rhy ddiog i dagio? (Technorati Tag Generator)

20.1.06

Dwi wedi bod yn defnyddio Technorati ers sbel, ond i fod yn onest dwi'n gweld ei broses tagio bach o sdrach. Yn aml iawn dwi'n unai anghofio, neu ddim yn trafferthu. Gan nad oes modd gosod categoriau gyda Blogger, dwi wedi dechrau defnyddio rhyw hanner dwsin o dagiau poblogaidd fel categori (gwelwer ar y dde), felly byddai'n gwneud synnwyr tagio'n rheolaidd ond diogyn ydw i.

Diolch byth nad yw pob Rhys Wynne yn y byd mor ddiwerth a fi, ac mae'r Rhys Wynne yma wedi dylunio tecyln bach o'r enw'r Technorati Tag Generator. Mae'n hawdd iawn i'w lawrwytho ac mae hefyd yn hawdd i'w ddefnyddio. Cwbwl rydych yn wneud yw:
-agor y rhaglen
-teipio mewn cymaint o dagiau a hoffech mewn blwch
-gwasgu 'Generate'
-gwasgu 'Copy to clipboard'
-yna rydych yn gludo'r côd wedyn ble bynnag hoffech iddo ymddangos ar ei post (ar y gwalod fel arfer)

a Robat yw eich ewythyr

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:35 pm | dolen | 8 sylw |

Y Bontfaen a Nash Point

16.1.06


Ar ddydd Gwener aeth Sarah a mi i'r Bontfaen. Doedd yr un ohonom wedi bod yno o'r blaen er fod y lle mor agos i Gaerdydd, dim ond gyrru heibio ar y ffordd i'r arfordir. Dyna ble oeddem yn mynd eto, ond gan ei fod yn benblwydd a'r Sarah ag ei adduned blwyddyn newydd yw bwyta allan yn amlach, dyma ni'n galw mewn i'r dref.

Roedd hi'n brysur dros ben yno ac roedd y maes parcio'n or-lawn - roeddwn yn ffodus o gale lle i barcio ar ochr ffordd. Mae'r Bontfaen yn dref bach llewyrchus iawn yr olwg yn llawn bwytai a siopau bach annibynol, er tydio ddim y math o le i hel neges (neges yw gair fy mam am siopa wythnosol), mwy o le ar gyfer pethau arbennigol ac anrhegion. Sôn am anrhegion, dyma fi'n llwyddo prynnu dwy gôt i mi fy hunan er mai penblwydd Sarah oedd hi! Roedd sêl hanner pris yn siop o'r enw Pebble.

Cawsom bryd o fwyd blasus ym mwyty Oscars. Roedd yn le wedi ei addurno'n fodern ond ddim rhy intimidating. Mae lle ar agor yn hwyr hefyd gyda bwydlen fîn nôs arbennig.

Aethom ymlaen wedyn i Nash Point [lluniau], sydd gêr Llanilltud Fawr. Rhaid gyrru trwy bentraf Marcroes i gyrraedd yno, ble mae tafarn y Plough and Harrow sy'n gweini bwyd (da, yn ôl Sarah a fu yno hebddaf un tro) a sy'n gwerthu cwrw go iawn. Mae yna hefyd eglwys hynafol yn y pentref sy'n dyddio o'r 12G. Efallai caf gyfle i'w ymweld pan awn i Nash Point eto.

Wrth i ni gyrraedd y maes parcio uwchben clogwyni Nash point (rhaid talu £1 yn ystod tymor ymwelwyr) cyrhaeddodd fan transit gyda www.wewalkyourdog.com ar yr ochr. Neidiodd tua 7/8 ci mawr o'r cefn a penderfynom ni gerdded i'r cyfeiriad arall. Does dim gyda fi'n erbyn cŵn ond pan aeth Sarah a fi lawr i'r traeth nes ymlaen rhuthrodd dau neu dri ci atom (pob un wedi bod yn y môr) gan gyfarth, ond yn ffodus ni neidiodd run arnom a'n gwlychu - byddwn wedi bod yn pissed off a dweud y lleiaf. Roedd y carcwyr cŵn ger llawn, ond wnaethon nhw ddim ceisio eu rheoli nag ymddiheuro. Grrrr

Awyrlun o fryngaer (oes haearn) yn Nash Point

Sôn am gŵn, mae rhieni Sarah wedi anfon pentwr o DVD's atom sydd wedi dod am ddim gyda'r papurau Sul. Dyma ni'n gwylio'r cyntaf o'r rhain sef My life as a dog dros y penwythnos. Stori ydyw am fachgen o'r enw Ingemar, wedi ei leoli yn Sweden ar ddiwedd y 50'au. Mae ei fam sengl yn dioddef o salwch meddyliol a chorfforol, ac mae'n rhaid iddo fynd i fyw gyda perthnasau yn y gogledd. Mae'n stori drist ond hefyd mae'n dod a gwên i'r wyneb, gyda actio da iawn gan rai mor ifanc.

, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:31 pm | dolen | 4 sylw |

Blog Gweledol Gwallgof

Dwi wedi clywed am flogiau clywedol (neu llafarflogio fel sydd well gyda fi), ond doeddwn heb glywed am vlog (video blog) o'r blaen. Dwi ddim yn siwr pa mor boblogaidd ydynt, ond ymddengys ei fod yn fwy poblogaidd (wrth reswm) ymysg y byddar. Ar ei flog Gwallgofi, mae JGJones yn arwyddo am addysg dwyieithog a thairieithog i blant byddar.

Beth fyddai term Cymraeg addas am vlog? Post Gweledol neu Gweledolflog (neu glog!)
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:25 pm | dolen | 0 sylw |

Wel helo.......Mam?

9.1.06

Efallai bod hwn yn hen newyddion erbyn hyn, ond os ddim dyma stori i'ch hatgoffa o beryglon y rhithfyd:
Skirt-chasing playboy Daniel Anceneaux spent weeks talking with a sensual woman on the Internet before arranging a romantic rendezvous at a remote beach — and discovering that his on-line sweetie of six months was his own mother!

Sôn am gywilydd.
Daniel admits he and his mother could do little but stammer and stutter around each other for days after their cyberspace exploits came to light. And his father Paul -- Nicole's husband of 27 years -- wasn't too happy when the story hit the news and his beer-drinking buddies made him the butt of their jokes.

"Dad was ticked for a while and he forbid Mom to talk to anybody on the Internet ever again," said embarrassed Daniel.

Taw a deud!

Bydda i'n llawer mwy gwyliadwrus tro nesaf a'i ar Pishyn.com dwi'n meddwl.

Trwy doctorvee
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:55 pm | dolen | 0 sylw |

Rali CYIG, Caerdydd 2/1/06

6.1.06


Mae diwrnod Calan wedi dod yn ddiwrnod Rali yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn erbyn hyn, a doedd eleni ddim gwahanol. Daeth criw mawr iawn i glywed yr areithiau yn galw am ddeddf iaith newydd ac i gymeryd ymweld âg ychydig o'r siopau ar y stryd fawr. Roedd y Gymdeithas wedi cynhyrchu nifer o daflenni dwyieithog yn esbonio yr alwad am Ddeddf Iaith newydd ac roedd yr ymateb gan siopwyr di-Gymraeg yn hynod bositif a chefnogol.

Rhagor o luniau

Tagiau: , , , ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:58 pm | dolen | 0 sylw |

Mwy o enwogrwydd, Big Issue y tro hwn

4.1.06

Diolch i Greg am roi mensh i'r efaill-flog yn ei erthygl yn The Big Issue Cymru am flogio'n gyffredinol ac am flogiau am/o Gymru. Cofodd BlogCymru.com ei enwi hefyd.


Tagiau: , ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:15 pm | dolen | 1 sylw |