<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Y Bontfaen a Nash Point

16.1.06


Ar ddydd Gwener aeth Sarah a mi i'r Bontfaen. Doedd yr un ohonom wedi bod yno o'r blaen er fod y lle mor agos i Gaerdydd, dim ond gyrru heibio ar y ffordd i'r arfordir. Dyna ble oeddem yn mynd eto, ond gan ei fod yn benblwydd a'r Sarah ag ei adduned blwyddyn newydd yw bwyta allan yn amlach, dyma ni'n galw mewn i'r dref.

Roedd hi'n brysur dros ben yno ac roedd y maes parcio'n or-lawn - roeddwn yn ffodus o gale lle i barcio ar ochr ffordd. Mae'r Bontfaen yn dref bach llewyrchus iawn yr olwg yn llawn bwytai a siopau bach annibynol, er tydio ddim y math o le i hel neges (neges yw gair fy mam am siopa wythnosol), mwy o le ar gyfer pethau arbennigol ac anrhegion. Sôn am anrhegion, dyma fi'n llwyddo prynnu dwy gôt i mi fy hunan er mai penblwydd Sarah oedd hi! Roedd sêl hanner pris yn siop o'r enw Pebble.

Cawsom bryd o fwyd blasus ym mwyty Oscars. Roedd yn le wedi ei addurno'n fodern ond ddim rhy intimidating. Mae lle ar agor yn hwyr hefyd gyda bwydlen fîn nôs arbennig.

Aethom ymlaen wedyn i Nash Point [lluniau], sydd gêr Llanilltud Fawr. Rhaid gyrru trwy bentraf Marcroes i gyrraedd yno, ble mae tafarn y Plough and Harrow sy'n gweini bwyd (da, yn ôl Sarah a fu yno hebddaf un tro) a sy'n gwerthu cwrw go iawn. Mae yna hefyd eglwys hynafol yn y pentref sy'n dyddio o'r 12G. Efallai caf gyfle i'w ymweld pan awn i Nash Point eto.

Wrth i ni gyrraedd y maes parcio uwchben clogwyni Nash point (rhaid talu £1 yn ystod tymor ymwelwyr) cyrhaeddodd fan transit gyda www.wewalkyourdog.com ar yr ochr. Neidiodd tua 7/8 ci mawr o'r cefn a penderfynom ni gerdded i'r cyfeiriad arall. Does dim gyda fi'n erbyn cŵn ond pan aeth Sarah a fi lawr i'r traeth nes ymlaen rhuthrodd dau neu dri ci atom (pob un wedi bod yn y môr) gan gyfarth, ond yn ffodus ni neidiodd run arnom a'n gwlychu - byddwn wedi bod yn pissed off a dweud y lleiaf. Roedd y carcwyr cŵn ger llawn, ond wnaethon nhw ddim ceisio eu rheoli nag ymddiheuro. Grrrr

Awyrlun o fryngaer (oes haearn) yn Nash Point

Sôn am gŵn, mae rhieni Sarah wedi anfon pentwr o DVD's atom sydd wedi dod am ddim gyda'r papurau Sul. Dyma ni'n gwylio'r cyntaf o'r rhain sef My life as a dog dros y penwythnos. Stori ydyw am fachgen o'r enw Ingemar, wedi ei leoli yn Sweden ar ddiwedd y 50'au. Mae ei fam sengl yn dioddef o salwch meddyliol a chorfforol, ac mae'n rhaid iddo fynd i fyw gyda perthnasau yn y gogledd. Mae'n stori drist ond hefyd mae'n dod a gwên i'r wyneb, gyda actio da iawn gan rai mor ifanc.

, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:31 pm

4 sylw:

Ma Tafarn y Plough and Harrow yn hyfryd, dewis gwych o gwrw a ma'r bwyd yn dda iawn 'fyd. Mi oedd un o'm ffrindie coleg yn byw yn ardal Nash Point, ty cownsil ynghanol unman gyda golygfa berffaith o'r môr o'r llawr uchaf.

Heb fod i'r Bontfaen ers dyddiau ysgol, ond ma gen i deulu yn byw yn Llanilltud Fawr, lle cafodd y Nhad i eni a lle ces i fy enw cyntaf - Illtud.
Gai ofyn cwestiwn (braidd yn od) i ti Illtud? Feus ti'n gweithio i HSBC erioed?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:53 pm  

OK, fe fydda i'n ychwanegu Pontfaen i'r fy rhestr o lleoedd i ymweld pan dw i'n symud i Cymru...
sylw gan Blogger Chris Cope, 3:25 am  

Rhys, na fu'm i byth yn gweithio i HSBC. Doedd math's ddim yn un o'm hoff byncie yn yr ysgol, dim gobeth da fi gael jobyn mewn banc.

Gadawa sylw