Peidiwch difetha'ch brecwast.
27.1.06
Efallai efallai efallai byddai'n ymddangos ar BBC Breakfast fore Llun, ac efallai fyddai ddim. Os gai gyfle nai gadarnhau dros y penwythnos. Eitem am male models fydd o a sut llywddais i'w gwneud hi mewn diwydiant mor galed a di-drugaredd - dwi'n meddwl ta beth, roedd y manylion braidd yn scetchy. Wrach cawsant y person anghywir.
Diweddariad
Mae'n debyg y byddai ar y bocs yfory wedi'r cwbwl. Tra fydd y gweddill ohonoch yn driblan lawr eich pillow yn breuddwydio am Gymru Rydd, mi fyddai i yn Arcêd y Castell yn malu cach am fasnach teg.

2 sylw:
Weles i'r eitem (tua 8:40) ond wnes i'm dy weld di. Siom! Oeddet ti mlaen yn gynharach?
sylw gan
Dafydd Tomos, 1:13 pm

Ar ôl bod yna ar gyfer 6:20, dyma fi'n ymddangos ar ddau slot tua 7:30 a tua 8:20