Rhy ddiog i dagio? (Technorati Tag Generator)
20.1.06
Dwi wedi bod yn defnyddio Technorati ers sbel, ond i fod yn onest dwi'n gweld ei broses tagio bach o sdrach. Yn aml iawn dwi'n unai anghofio, neu ddim yn trafferthu. Gan nad oes modd gosod categoriau gyda Blogger, dwi wedi dechrau defnyddio rhyw hanner dwsin o dagiau poblogaidd fel categori (gwelwer ar y dde), felly byddai'n gwneud synnwyr tagio'n rheolaidd ond diogyn ydw i.
Diolch byth nad yw pob Rhys Wynne yn y byd mor ddiwerth a fi, ac mae'r Rhys Wynne yma wedi dylunio tecyln bach o'r enw'r Technorati Tag Generator. Mae'n hawdd iawn i'w lawrwytho ac mae hefyd yn hawdd i'w ddefnyddio. Cwbwl rydych yn wneud yw:
a Robat yw eich ewythyr
blogio, tagio, technorati
Generated By Technorati Tag Generator

-agor y rhaglen
-teipio mewn cymaint o dagiau a hoffech mewn blwch
-gwasgu 'Generate'
-gwasgu 'Copy to clipboard'
-yna rydych yn gludo'r côd wedyn ble bynnag hoffech iddo ymddangos ar ei post (ar y gwalod fel arfer)
a Robat yw eich ewythyr
blogio, tagio, technorati
Generated By Technorati Tag Generator
8 sylw:
sylw gan Sarah Stevenson, 3:12 am
Cywir. Yn gyntaf rhaid cofrestru gyda Technorati, yna rhaid 'hawlio' (claim) pob blog yn unigol (os oes mwy nag un blog gyda chi).
Wedyn gelli'r defnyddio'r Tag Generator er mwyn hwylusdod i chi.
O ran defnyddio Technorati i sefydlu categoriau ar Blogger, efallai byddai'n syniad gosod blwch ymchwilio fel sydd gyda fi ar y chwith ar gyfer Technorati.
Be wnes i oedd rhoi 'Pél-Droed' yn y blwch a dewis 'chwilio y blog yma', yna defnyddio 'url' y canlyniad ymchwilio (search result) fel categori. Gwneud synnwyr???

Fy Cymraeg i ydy ddim yn dda, sori i ti ddim yn dallt fi.
Diolch am beth ti'n dweud am Technorati Tag Generator, dwi'n hapus ti'n hoffi o ac yn meddwl o ydy defnyddiol. :)
Diolch am beth ti'n dweud am Technorati Tag Generator, dwi'n hapus ti'n hoffi o ac yn meddwl o ydy defnyddiol. :)
Na, diolch i ti :-)
....hefyd, wyt ti wedi clywed am BlogCymru.com? Mae'n cynnwys blogiau gan pobl o Gymru.
....also, have you heard of BlogCymru? It's an aggregator of blogs by Welsh folk.
....also, have you heard of BlogCymru? It's an aggregator of blogs by Welsh folk.
ie, dwi wedi glywed am Blogcymru, rhaid i mi ysgryfennu e-bost efo linciau i fy blog i mynd am blogcymru.
Diolch, Rhys, mae hynny'n helpu. Ond nawr mae cwestiwn arall 'da fi. Pan mae Technorati yn ymchwilio postiau ar y blog, ydy e'n ymchwilio'r tags ar waelod y post, neu ydy e'n jyst ymchwilio geiriau yn y post ei hun? Neu'r ddau??
Weeeel, dwi'n meddwl mai cyfuniad o'r ddau. Mae cael tagiau yn ei wneud yn haws i Technorati dod o hyd i rhywbeth (dwi'n meddwl), ond mae weithiau'n dod o hyd i pyst sydd jyst yn digwydd cynnwys y gair hefyd.
Dw i wedi bod yn eisiau, na, chwennych tagiau ar gyfer categoriau ar fy mlog i, ond does dim ohonyn nhw ar Blogger.