<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Pôl opiniwm i ddewis enw cyd-flog saesneg newydd i flogwyr y Rhithfro

29.11.05

Dwi ac eraill wedi blogio am hyn eisioes. Mae pôl opiniwn ar faes-e ar hyn o bryd (am 7 diwrnod) i bleidleisio am enw i'r blog newydd hwn.

Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:05 pm | dolen | 0 sylw |

Streic cyntaf Starbucks

23.11.05

Oddi ar Red Star Coven
Cafwyd streic cyntaf Starbucks heddiw yn Aotearoa (Seland Newydd).
Starbucks, the international chain that has revolutionised coffee drinking, experienced its first strike today, in New Zealand. The company, which tries to portray itself as friendly, laid back and ethically responsible, pays close to minimum wage to its 80 000 workers worldwide and is generally anti-union. Here is a video of the picket line.

Starbucks workers were joined on the picket line by workers from KFC and Pizza Hut.

Diddorol gweld bod gweithwyr o KFC a Pizza Hut wedi ymuno, allai ddim gweld hyn yn digwydd yma. Mae isafswm cyflog yn Aotearoa, ac pan oeddwn yno, roedd yna ddeddf wedi ei basio ble roedd yr isafswm yn codi ar wyliau banc. Gan fod economi'r wlad yn dibynnu cymaint ar y diwidiant ymwelwyr, mae canran sylweddol yn gweithio yn y sector gwasanaethau ac ar gyflogau isel, felly mae'r ddeddf hyn yn effeithio ar nifer fawr o fusnesau. Roedd arwyddion i fyny bron ymhob bwyty a ymwelais yn dweud bod prisiau yn 15% uwch ar wyliau banc oherwydd bod costau cyflogau yn 15% yn uwch. Mae hyn yn dderbyniol yn fy marn i.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:54 pm | dolen | 0 sylw |

Pwy sy'n ariannu pwy?

21.11.05

Dioch i Peter Black am ddolen at adran Party Watch oddi ar wefan New Politics Network.
Mae'n dangos pwy sydd wedi bod yn cyfrannu'n ariannol at pa bleidiau. Efallai byddai gan rai ddiddordeb gwybod bod y Co-operative Group (CWS), sy'n berchen ar y Co-operative Bank yn rhoi arian i'r Co-operative Party, sy'n rhoi arian i'r Blaid Lafur.

Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:00 am | dolen | 0 sylw |

Ble rwyt ti rhwng?

17.11.05

Dio ddim yn orfodol, ond byddai'n flin iawn os newch chi wrthod. Ewch i'r map yma a rhoi pin i ddweud ble chi'n byw.

Map aelodau maes-e
Map defnydiwyr Firefox
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:13 pm | dolen | 2 sylw |

Arweinydd Fine Gael am weld y Wyddeleg yn bwnc dewisiol

Darllenais am hyn yn gyntaf ar Eurolang. Mae sylwadau fel hyn yn cael eu gwneud am y Gymraeg hefyd, dyma oedd gan y dyn i'w ddweud am y ffaith byd y Wyddeleg yn bwnc 'gorfodol' (casau'r gair yna mewn cyd-destyn pynciau):
Compulsion is a blunt tool. Forcing students to learn Irish is not working and is actually driving many young people away from a real engagement with this beautiful language.

Mae hyn yn ddadl gwbwl wirion. Petai plant hyn ddim yn cael gwersi Gwyddeleg, byddant ddim yn cael dim engagemnt gyda'r iaith o gwbwl. Aeth ymlaen i ddweud:
After the Junior Cert young people should have a choice whether they want to continue to learn Irish. Those who decide to continue will share classes with those who want to be there, learning Irish, rather than those who wish they weresomewhere else, learning something else.

Ond gellir ddim dweud hyn am unrhyw bwnc yn yr ysgol? Yn hytrach na atal y cyfle i blant a phobl ifanc ddod i ddeall mwy am eu hiaith, a thrwy hynny dod i wybod mwy am eu hanes, beth am geisio gwneud mwy i wneud yr iaith ymddangos yn berthnasol yn eu bywydau pob dydd?

Mae gan Irish Eagle, wrth flogio am y pwnc, awgrymiadau ar sut i wneud gwell defnydd o sgiliau ieithyddol y rhai sydd wedi bod trwy'r sustem addysg yn barod, sef bod cwmseriaid yn cael dewis defnyddio'r Wyddeleg pan yn cysylltu gyda canolfan alwadu - syniad da yn wir!

Bu gwrthydstio tu allan i swyddfa Fine Gael.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:51 am | dolen | 2 sylw |

Petawn yn un am briodi

16.11.05

..byddwn yn cael Brecwast Priodas fel Tartan Red, cefnogwr Wrecsam sydd nawr yn byw yn ucheldiroedd yr Alban. Dyma'r post am ei briodas:
Following a small ceremony at Inverness Registry Office, our guests joined Rachael and I for a buffet lunch at Pizza Hut.

Dosbarth!
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:27 pm | dolen | 0 sylw |

Ffa Coffi Pawb


Er nad ydw i'n meddwl llawer o'i DJ'o, rhaid dweud bod gan Kevin Davies gaffi bach digon del o'r enw Ffa yn Radyr. Mae'n dda gweld y Gymraeg yn cael blaenoraeth ac hefyd ble arall yn ne ddwyrain Cymru (neu Gymru gyfan erbyn meddwl) y mae copi o Golwg, Y Cymro a'r papur bro lleol ar gael i'w ddarllen tra'n yfed eich coffi? O, a mae'r bwyd yn dda hefyd. Bechod nad yw yn agos i ganol y ddinas.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:09 pm | dolen | 0 sylw |

Ffair Nadolig Menter Iaith Sir Caerffili 26/11/06

15.11.05

Eleni am y tro cyntaf, mae fy mos wedi fy mherswadio i gyd-drefnu'r canlynol:

Ar y dechrau roeddwn yn ansicr o'r syniad gan nad oedd y busnesau gyda siaradwyr Cymraeg roeddwn wedi dod i gyswllt gyda y math o rai fyddai eisiau stondin, ond rwyf wedi dod ar draws un neu ddau newydd ac mae rhai eraill o'r stondiwyr wedi dangos diddordeb mewn defnyddio mwy o Gymraeg. Yn anorfod mae rhai o'r stondinwyr yn dod o du allan i'r sir, ond oni bai am un cwmni o Rydaman, mae nhw i gyd unai o sir Caerffili neu sir cyfagos.

Newydd gael cadarnhad heddiw y bydd Roy Noble yn agor y Ffair, ac yn ogystal a'r stondinau bydd hefyd modd gwrando ar y telynor gwerin gwych CARWYN FOWLER.

Y gobaith y erbyn diwedd yr wythnos bydd 27 stondin llawn gyda ni. Mae 24 wedi eu llenwi erbyn hyn.

Dyma rai o'r stondinwyr fydd yno (sydd gyda presenoldeb ar y wê):
Siop y Bont (Siop lyfrau Cymraeg)
Gwynt y Ddraig (Seidr Cymreig)
Gwynfor Roberts (Arlunydd)
Cuddlezoo (Dillad Plant)
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:24 pm | dolen | 1 sylw |

Dau-Dim i'r Basdad Tew

14.11.05

..oedd bloedd y criw sylweddol o gefnogwyr Wrecsam a deithiodd i Rydychen dydd Sadwrn ar ôl i Lee McEvilly sgrio ei ail gôl ac ail y tim hefyd. Roedd hyn mewn ymateb i unig floedd cefnogwyr Rhydychen drwy'r pnawn o 'You Fat Bastard' wedi iddo fethu cyfle hanner ffordd trwy'r hanner cyntaf pan oedd y gêm yn ddi-sgôr. Sgôr terfynol y gêm oedd 3-0 i Wrecsam, a pha gwell well ganlyniad i daith cyntaf Cochion Caerdydd na gweld y tim yn cael eu buddigoliaeth cyntaf oddi-cartref o'r tymor.
Gyrrais i fws mini â 12 cefnogwr arall i Rydychen, ac roedd yn siwrnai di-drafferth a gymerodd 2 awr union. Dyma fi'n llwyddo parcio ochr ffordd yn hytrach na gorfod poeni am gael y bws mini i flwch parcio bychan ac yna bod yn sownd yn y maes parcio am hydoedd wedi'r gêm. Fydde hyna ddim wedi bod yn broblem gan i'r maes parcio wagio gyda chwarter awr o'r gêm yn weddill wrth i hanner cefnogwyr y tim cartref adael yn gynnar. Cyn y gêm buom i dafarn cyfeillgar o'r enw'r Priory sydd o fewn tafliad carreg i'r maes.
postiwyd gan Rhys Wynne, 4:45 pm | dolen | 0 sylw |

Anthony Lewis (1937 -2005)

11.11.05

Mae ysgrif goffa yn yr Independent heddiw am Tony Lewis, cenedlaetholwr o Frynbuga. I gymharu a chymeriadau lliwgar eraill y mudiad Gwerinaethol yng Nghymru, nid yw mor adnabyddus a gwyr fel Cayo, Dennis Cosslett a Harri Webb, ond ymddengys ei fod wedi bod yn berson blaenllaw mewn sawl grŵp.
Brought up in a working-class home in Usk, a very anglicised town, and kept ignorant of things Welsh at school, he now grew aware that he had a country with its own history and language. He once told me he had suddenly realised the depth of his feelings as a Welshman after being called Taffy by English officers and taunted by other squaddies on account of his accent.

But he was attracted to a stronger brew than what constitutional nationalism had to offer: living in Cwmbran, a New Town in Monmouthshire not noted for its Welsh identity or the vigour of its cultural life, he formed a unit of like-minded friends and they called themselves the Patriotic Front. They even had their own social club, the "Patriot's Rest", until Plaid Cymru outlawed the group in 1966. Lewis designed the Front's uniforms, and its symbol - devised by the poet Harri Webb and based on the White Eagle of Snowdonia - he made into cap-badges. It was not long before slogans began appearing on walls the length and breadth of Wales that were accompanied by this potent piece of symbolism.

Dwi'n hoffi'r synaid o'r Patriot's Rest a gyfeirir ato uchod. Ysgwn i beth fyddai Tony Lewis yn feddwl o'r dafarn hon o'r enw The Patriot yn Crumlin?
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:44 am | dolen | 6 sylw |

Blogiau'r Ieithoedd Celtaidd

9.11.05

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:49 pm | dolen | 5 sylw |

Tafarn, Tafod, Nos Da

8.11.05

Tafarn, Tafod a NosDa
Gobeithio mod i wedi cael y trefn yn gywir. Gwefan newydd ar gyfer Gwesty'r Riverbank, yn ardal Glan-yr-afon, Caerdydd. Mae nosweithiau 'Tafodiaeth' ar ddydd Mercher yn swnio'n addawol;

Nos Fercher
TAFODIAITH
'Gwnewch bopeth yn Gymraeg/eig'! Nos Sadwrn fach yng nghanol yr wythnos i ddathlu'r clasuron a'r newydd o'n storfa gyfoethog o gerddoriaeth cartref!


Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:36 pm | dolen | 2 sylw |

Wikablog

Wikablog. Gweithiwch o allan eich hunan.

Trwy Peter Black
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:34 pm | dolen | 0 sylw |

Hen lyfrau Cymraeg o'r 19G

Newydd ddod ar draws Old Welsh Books. Gŵr o Awstralia yn cyfieithu hen lyfrau Cymraeg i'r Saesneg. Mae'n anelu cyfieithu 5 llyfr, i gyd i wenud a theithio i'r 'Byd Newydd' hyd y gwela i, ac mae wedi cwbwhau y cyntaf sef Hanes Mordaith o amgylch y Ddaear.
There are a great many 19th century and earlier books/texts in the beautiful Welsh language which as far as I know have never been made available to the public in a decent English translation. Many of these I believe could be of some interest to at least a few modern readers.

On this site I'm (very slowly) constructing translations of a few such texts (the original Welsh is included). They're far from perfect, but I hope they're at least readable.
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:11 pm | dolen | 0 sylw |

Nofel o'r Hofel (wel, cyflwyniad i'm taith i Aotearoa)

7.11.05

Mae na 10 mis ers i mi ddychwelyd o Sealand Newydd ble aeth Sarah a mi draw am y tro cyntaf i ymweld â'i brawd Nic ac i fynychu ei briodas gyda Michelle. Y bwriad oedd y byddwn yn blogio am y daith. Roeddwn wedi cadw dyddiadur/nodiadau bras (uffernol) ar gyfer pob dydd, ond ar ôl dechrau'n dda gyda traethawd am y diwrnod cyntaf (allan o 24) dyma fi'n colli fy llyfr nodiadau. I ddweud y gwir, un diog ydw i felly roeddwn yn ddigon hapus i gael esgus fel hyn, roedd yn rhy debyg i waith cartref. Beth bynnag daeth y llyfryn bach i'r golwg rhai wythnosau'n ôl ac mae Iwan fy nghefnder ar fin mynd ar ei wyliau i Seland Newydd. Dwi eisioes wedi benthyg fy llyfr Rough Guide iddo ac mi ffoniodd noson o'r blaen am fwy o gyngor. Oherwydd gor-ddefnydd o'r gwyrdd tra'n y brifysgol mae fy nghof yn uffernol felly roeddwn y sgwrs bron yn ddi-werth. Ta waeth dwi am roi ail-dro ar sgwenu rhyw fath o dyddiadur gyda'm nodiadau vauge, mewn llaw ysgrifen anarllenadwy a'm côf gereatrig. Bydd pob pyst yn cynnwys 4-5 diwrnod.

Dyma ychydig o'r hen stwff ddecreuais sgwennu fel rhagarweniad (rhagarweiniad - pwy ffwc mae'r ma'n meddwl ydi o?)
Yn ogystal a'r briodas, aeth Sarah a minnau o gwmpas rhan ogleddol ynys y gogledd. Dwi am gyfnodi ar fy mlog fy ngwyliau achos dwi mor anghofus, ond er tegwch i chwi sy'n ymweld â'm blog, dwi am geisio fy ngorau i'w wneud yn ddiddorol ac yn rhywbeth bach mwy na 'mond rhestr o lefydd a wnes i ymweld. Y bwriad yw sôn am, ac efallai rhoi sylwadau ar bethau oeddd yn digwydd bod ar y newyddion tro oeddwn yno, pethau yn ymwnud a diwyllaint Maori, agwedd poblogaeth croenwyd at y Moari, materion cymdeithasol ac amgylcheddol a oedd yn dod i'r amlwg. Roedd llawer o bethau'n mynd ymlaen yno ar y pryd gan ei fod yn agosau at etholiad cyffredinol, roedd dathliadau blynyddol Diwrnod Waitangi ar fin bod, ac hefyd mae economi'r wlad yn gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd sydd ddim o reidrwydd yn creu sgil effeithiau manteisiol i bawb. Byddaf hefyd yn nodi pa diodydd 'brodorol' a brofais a pha fandiau o'r wlad a glywais am y tro cyntaf. Gobeithio y mwynhewch.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:38 pm | dolen | 0 sylw |

Defnydd a agweddau at y Wyddeleg: Arolwg defnyddwyr gwefan swyddi

Dwi'n cytuno gyda Raiméis bod y canlynaidau canlynol i arolwg am y Wyddeleg ar wefan dwyieithog sy'n hysbysebu swyddi yn rhai calonogol. Dyma oedd ymatebion defnyddwyr Irishjobs.ie:
-88% wedi dysgu'r iaith yn yr ysgol

-O ran defnydd, roedd 40% yn ei ddefnyddio'n gymdeithasol, 36% yn y cartref, 28% yn y gwaith a 29% ar-lein. Yn anffodus doedd 39% ddim yn defnyddio'r iaith o gwbwl. Roedd 47% yn honni eu bod yn gallu cyfathrebu'n gyfforddus yn y iaith Wyddeleg.

- Yn arwyddocaol efallai, pan ofynwyd os dylai'r Wyddeleg fod yn orfodol mewn ysgolion dywedodd 59% y dylai fod yn orfodol, tra dim ond 26% ddywedodd na.

-O'r 321 a ymatebod, dim ond 10% a wnaeth yn Wyddeleg.


Gan fod y wefan yma'n unigryw fel gwefan sy'n hysbysebu swyddi'n ddwyieithog, gall fod y % sy'n gefnogol i'r iaith yn uwch na'r arfer, ac hefyd oherwydd mai pobl sy'n chwilio am swyddi yw'r rhain, efallai bod rhai'n ateb ychydig yn wahanol i sut fasent fel arfer rhag ofn eu bod yn cyfri yn eu herbyn rhywsut lawr y lein petai nhw eisiau mynd am swydd ble roedd y Wyddeleg yn orfodol.

Byddwn yn hoffi gweld arolwg tebyg yn cael ei wneud yma yng Nghymru at agweddau at a lefel defnydd yr iaith Gymraeg. Fel mae'n digwydd, mae'r cwmni sydd berchen Irishjobs.ie hefyd yn berchen ar wefan swyddi WelshJobs.com*, sgwn i os oes cynlluniau gyda nhw i holi ymgwiswyr swyddi yma felly.

*suddais fy nghalon braidd wrth weld hwn achos dwi wedi bod yn gweithio'n araf bach (rhy araf) ar wefan swyddi Cymraeg fy hunan.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:34 pm | dolen | 0 sylw |

Cuddiwch

..cyn i mi ddifetha eich hwyl chi. Mae na grŵp o fobl sy'n gwgu ar 4x4's, bwyd cyflym, teithiau tramor, ar term amdanynt yw New Puritans.
According to the Future Foundation, we are increasingly curbing our enthusiasm for profligate consumption, and health and environment-threatening behaviours. Gone is the guilt-free pleasure-seeker, to be replaced by the model well-meaning citizen, the New Puritan - a tag interchangeable with neo-Cromwellian, if you really want to seal its 17th century origins - who thinks through the consequences of activities previously thought of as pleasurable and invariably elects to live without them. Think of it as the dieticians' favourite adage, 'a moment on the lips, a lifetime on the hips' given socio-economic resonance.

....

Part of the New Puritan brief is to penalise those who make poor choices on behalf of the rest of society - in this case the gas-guzzling, emissions-generating Montessori wagons that choke our town centres.


Beryg mod i'n un ohonynt.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:47 am | dolen | 3 sylw |

Wont tŵ imprŵf iôr Inglish? (Cyfieithu pyst i'r Saesneg)

4.11.05

Yn dilyn trafodaeth am flogio'n Saesneg ar morfablog ac addewid PledgeBank llwyddianus (y cyntaf yn Gymraeg?) mae criw o flogwyr y Rhithfro wedi penderfynnu cyfieithu rhai o'u pyst i'r Saesneg.

Pam meddai chi?, wel gan ein bod yn teimlo nad yw rhai pethau sy'n ymwneud a'r iaith Gymraeg yn cael eu trafod yn Saesneg, ac fel mae Mr Pugh yn ein hatgoffa'n feunyddiol mae angen i'r di-Gymraeg fod on-side, rhaid felly i ni wneud yn siwr eu bod yn gweld ein safbwyntiau ni. Dyna oedd fy rheswm i dros ddechrau Smiling under Buses, a dwi wedi darllen ambell i beth ar flogiau Cymraeg ac ar dudalennau bARN ac wedi meddwl "petai'r di-Gymraeg ond yn gallu darllen hyn bydden't yn deall ychydig yn well".

Y cam nesaf fydd i mi sefydlu blog newydd a fydd sawl person yn medru cyfrannu ato, gan ddefnyddio Blogger. Yna gall unrhywun sydd eisiau bod yn gyfrannwr fy e-bostio i ar: rhys AT sgwarnog.com er mwyn i mi anfon gwahoddiad i chi.

Does dim rheol ar pa byst cewch neu ddylech gyfieithu, ond y prif bwynt yw cael trafodaeth am yr iaith. Yn bersonol bwriadaf hefyd gyfieithu blogiau am ieithoedd lleafrifol a chenhedloedd di-wladwriaeth. Beth fyddai'n dda fyddai profiadau dysgwyr, a chredaf fod Sarah'n un o'r addewidwyr.

OND, rhaid yn gyntaf dewis enw addas i'r blog. Sdim eisiau treulio gormod o amser ar hyn hoffwn i chi awgrymmu un neu ddau a chawn pôl opiniwn (efallai a'r maes-e?) o fewn ychydig ddyddiau. Postiwch eich awgrymiadau yn y blwch sylwadau.

Fy rhai i yw:

What are they on about?

Thin Talk (cyfeirio ar yr iaith fain)

Thin Blog (ditto)
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:51 pm | dolen | 12 sylw |

Gwefan 'Cardiff Pubs'

3.11.05

Newydd ddod ar draws gwefan annibynol o'r enw Cardiff Pubs. Mae na sawl gwefan tebyg, ond mae hwn yn un neis gan eich bod yn medru archwilio yn ôl ardaloedd gwahanol y ddinas ac hefyd yn ôl pethau fel ble cynhelir cwisiau tafarn, oes mannau dim ysmygu, a werthi'r real ales ayyb.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:08 pm | dolen | 2 sylw |

Y Gwir Refferendwm

2.11.05



Gallwch bleidleisio dros y wê neu drwy neges destun os ydych yn cytuno neu'n anghytuno gyda'r cwestiwn canlynol:

A DDYLAI CYMRU GAEL SENEDD DDEDDFWRIAETHOL EI HUN?


Ymgyrch gan cymruX (Plaid Cymru Ifanc).
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:14 am | dolen | 0 sylw |