Nofel o'r Hofel (wel, cyflwyniad i'm taith i Aotearoa)
7.11.05
Mae na 10 mis ers i mi ddychwelyd o Sealand Newydd ble aeth Sarah a mi draw am y tro cyntaf i ymweld â'i brawd Nic ac i fynychu ei briodas gyda Michelle. Y bwriad oedd y byddwn yn blogio am y daith. Roeddwn wedi cadw dyddiadur/nodiadau bras (uffernol) ar gyfer pob dydd, ond ar ôl dechrau'n dda gyda traethawd am y diwrnod cyntaf (allan o 24) dyma fi'n colli fy llyfr nodiadau. I ddweud y gwir, un diog ydw i felly roeddwn yn ddigon hapus i gael esgus fel hyn, roedd yn rhy debyg i waith cartref. Beth bynnag daeth y llyfryn bach i'r golwg rhai wythnosau'n ôl ac mae Iwan fy nghefnder ar fin mynd ar ei wyliau i Seland Newydd. Dwi eisioes wedi benthyg fy llyfr Rough Guide iddo ac mi ffoniodd noson o'r blaen am fwy o gyngor. Oherwydd gor-ddefnydd o'r gwyrdd tra'n y brifysgol mae fy nghof yn uffernol felly roeddwn y sgwrs bron yn ddi-werth. Ta waeth dwi am roi ail-dro ar sgwenu rhyw fath o dyddiadur gyda'm nodiadau vauge, mewn llaw ysgrifen anarllenadwy a'm côf gereatrig. Bydd pob pyst yn cynnwys 4-5 diwrnod.
Dyma ychydig o'r hen stwff ddecreuais sgwennu fel rhagarweniad (rhagarweiniad - pwy ffwc mae'r ma'n meddwl ydi o?)
Dyma ychydig o'r hen stwff ddecreuais sgwennu fel rhagarweniad (rhagarweiniad - pwy ffwc mae'r ma'n meddwl ydi o?)
Yn ogystal a'r briodas, aeth Sarah a minnau o gwmpas rhan ogleddol ynys y gogledd. Dwi am gyfnodi ar fy mlog fy ngwyliau achos dwi mor anghofus, ond er tegwch i chwi sy'n ymweld â'm blog, dwi am geisio fy ngorau i'w wneud yn ddiddorol ac yn rhywbeth bach mwy na 'mond rhestr o lefydd a wnes i ymweld. Y bwriad yw sôn am, ac efallai rhoi sylwadau ar bethau oeddd yn digwydd bod ar y newyddion tro oeddwn yno, pethau yn ymwnud a diwyllaint Maori, agwedd poblogaeth croenwyd at y Moari, materion cymdeithasol ac amgylcheddol a oedd yn dod i'r amlwg. Roedd llawer o bethau'n mynd ymlaen yno ar y pryd gan ei fod yn agosau at etholiad cyffredinol, roedd dathliadau blynyddol Diwrnod Waitangi ar fin bod, ac hefyd mae economi'r wlad yn gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd sydd ddim o reidrwydd yn creu sgil effeithiau manteisiol i bawb. Byddaf hefyd yn nodi pa diodydd 'brodorol' a brofais a pha fandiau o'r wlad a glywais am y tro cyntaf. Gobeithio y mwynhewch.