<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dau-Dim i'r Basdad Tew

14.11.05

..oedd bloedd y criw sylweddol o gefnogwyr Wrecsam a deithiodd i Rydychen dydd Sadwrn ar ôl i Lee McEvilly sgrio ei ail gôl ac ail y tim hefyd. Roedd hyn mewn ymateb i unig floedd cefnogwyr Rhydychen drwy'r pnawn o 'You Fat Bastard' wedi iddo fethu cyfle hanner ffordd trwy'r hanner cyntaf pan oedd y gêm yn ddi-sgôr. Sgôr terfynol y gêm oedd 3-0 i Wrecsam, a pha gwell well ganlyniad i daith cyntaf Cochion Caerdydd na gweld y tim yn cael eu buddigoliaeth cyntaf oddi-cartref o'r tymor.
Gyrrais i fws mini â 12 cefnogwr arall i Rydychen, ac roedd yn siwrnai di-drafferth a gymerodd 2 awr union. Dyma fi'n llwyddo parcio ochr ffordd yn hytrach na gorfod poeni am gael y bws mini i flwch parcio bychan ac yna bod yn sownd yn y maes parcio am hydoedd wedi'r gêm. Fydde hyna ddim wedi bod yn broblem gan i'r maes parcio wagio gyda chwarter awr o'r gêm yn weddill wrth i hanner cefnogwyr y tim cartref adael yn gynnar. Cyn y gêm buom i dafarn cyfeillgar o'r enw'r Priory sydd o fewn tafliad carreg i'r maes.
postiwyd gan Rhys Wynne, 4:45 pm

0 sylw:

Gadawa sylw