Gwefan 'Cardiff Pubs'
3.11.05
Newydd ddod ar draws gwefan annibynol o'r enw Cardiff Pubs. Mae na sawl gwefan tebyg, ond mae hwn yn un neis gan eich bod yn medru archwilio yn ôl ardaloedd gwahanol y ddinas ac hefyd yn ôl pethau fel ble cynhelir cwisiau tafarn, oes mannau dim ysmygu, a werthi'r real ales ayyb.
2 sylw:
Ond 'sgennyn nhw ddim categori am pa ohonyn nhw sy'n siarad Cymraeg.
sylw gan
Tom Parsons, 9:09 pm

Roeddn i'n meddwl am hynny fy hun hefyd. Efallai na wnaeth groesi meddwl y boi, ond yn sicr byddwn i eisiau gwybod.
Y broblem yw gyda natur staff mewn tafarndai, byddai'n anodd cadw trac o'r peth wrth i fobl adael.
Mi alla i feddwl am o leaif hanner dwsin o dafarndai yn y brif ddinas ble dwi wedi cael fy ngweini'n Gymraeg, ac mae'n siwr dwi wedi cael fy ngweini gan rhywun sy'n siarad Cymraeg yn ddiarwybod i'r ddau ohonom.
Dyma pam mae gwisgo bathdynnau 'Iaith Gwaith' Bwrdd yr Iath Gymraeg yn ddefnydiol.