<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Wont tŵ imprŵf iôr Inglish? (Cyfieithu pyst i'r Saesneg)

4.11.05

Yn dilyn trafodaeth am flogio'n Saesneg ar morfablog ac addewid PledgeBank llwyddianus (y cyntaf yn Gymraeg?) mae criw o flogwyr y Rhithfro wedi penderfynnu cyfieithu rhai o'u pyst i'r Saesneg.

Pam meddai chi?, wel gan ein bod yn teimlo nad yw rhai pethau sy'n ymwneud a'r iaith Gymraeg yn cael eu trafod yn Saesneg, ac fel mae Mr Pugh yn ein hatgoffa'n feunyddiol mae angen i'r di-Gymraeg fod on-side, rhaid felly i ni wneud yn siwr eu bod yn gweld ein safbwyntiau ni. Dyna oedd fy rheswm i dros ddechrau Smiling under Buses, a dwi wedi darllen ambell i beth ar flogiau Cymraeg ac ar dudalennau bARN ac wedi meddwl "petai'r di-Gymraeg ond yn gallu darllen hyn bydden't yn deall ychydig yn well".

Y cam nesaf fydd i mi sefydlu blog newydd a fydd sawl person yn medru cyfrannu ato, gan ddefnyddio Blogger. Yna gall unrhywun sydd eisiau bod yn gyfrannwr fy e-bostio i ar: rhys AT sgwarnog.com er mwyn i mi anfon gwahoddiad i chi.

Does dim rheol ar pa byst cewch neu ddylech gyfieithu, ond y prif bwynt yw cael trafodaeth am yr iaith. Yn bersonol bwriadaf hefyd gyfieithu blogiau am ieithoedd lleafrifol a chenhedloedd di-wladwriaeth. Beth fyddai'n dda fyddai profiadau dysgwyr, a chredaf fod Sarah'n un o'r addewidwyr.

OND, rhaid yn gyntaf dewis enw addas i'r blog. Sdim eisiau treulio gormod o amser ar hyn hoffwn i chi awgrymmu un neu ddau a chawn pôl opiniwn (efallai a'r maes-e?) o fewn ychydig ddyddiau. Postiwch eich awgrymiadau yn y blwch sylwadau.

Fy rhai i yw:

What are they on about?

Thin Talk (cyfeirio ar yr iaith fain)

Thin Blog (ditto)
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:51 pm

12 sylw:

They All Speak English?

Dead Tongues

Sori, wedi blino, methu meddwl am fwy.
sylw gan Blogger Nic, 7:13 pm  

They All Speak English?

Licio hwnna
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 5:56 pm  

Living Off Welsh Cakes
Gobeithio bod pawb wedi derbyn ebost oddi wrtha i trwy PledgeBank. Dw i wedi cyfeirio at y cofnod hwn fel y lle gorau i ni drafod pethau, ond wedi meddwl a fyddai'n werth cael cell fach breifat ar y maes?
sylw gan Blogger Nic, 10:40 am  

Efallai, er dyw Sarah, sef un o'r rhai wnaeth gynnig cyfieithu pyst ddim yn aelod hyd y gwyddwn i, er gall fod yn aelod yn ddiarwybod i mi.

Enwau arall feddylies i am oedd

'Buried Alive' neu 'Whispers from the Grave'

Mae'r ddau yn swnio braidd yn morbid, ond cyfeirio ydw i at rywbeth ddywedodd Ifan mewn blwch sylwadau rhyw flog oedd yn dweud bod y Gymraeg yn iaith marw. Dywedodd bod clywed pobl yn dweud hyn fel cael eich claddu'n fyw a mae'n ddisgrifiad da dwi'n meddwl + maen't yn fath o enwau fyddai'n denu sylw.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:17 am  

Hm, i barhau a'r thema morbid be am
Cries From a Death Bed
Beyond The Grave

neu, gan nad ydym cweit wedi marw eto, ba am *drumroll*.............

One Foot in the Grave

Dwi'n licio hwnna a byddai'n cael sylw a dipyn o google hits dybia i.
sylw gan Blogger Aled, 2:15 pm  

Braidd yn negyddol ti'm yn meddwl? ;-)

un neu ddau arall wedyn rown ni i bleidlais

(ond synaid sneeky yw'r un OFITG)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 2:36 pm  

The Dragon's Roar !

Taff Talk

English Out !

Burn All The Holiday Homes ! Burn Them I Say !

Johnny Foreigner's British Blog

Cambrian Clarion
sylw gan Blogger Blewyn, 3:42 pm  

Come Home To A Real Fire....
sylw gan Blogger Blewyn, 3:49 pm  

Ddim cweit yn cyfleu'r neges yn fy marn i. :-O
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:57 pm  

What Are They For ?

Vox Cambrensis
sylw gan Blogger Blewyn, 7:01 pm  

Licio hwnna'n fawr, ond braidd yn debyg i deitl y blog newydd yma What Is Wales And What Is It For? (sy'n un reit da hefyd gyda llaw).


Oce, beth am i mi ddewis un awgrym am deitl gan bawb fan hyn ac yna i ti Nic ei roi i bleidlais ar yr edefyn yma
ar maes-e?

Gadael o am 2-3 diwrnod, yna unwaith bydd enw wedi'w ddewis, mi sefydla i flog a dechrau di Gylch ar faes-e (bydd yn esgus i Sarah ymuno os nad yw wedi'n barod). Nai ddangos y blog i chi gyd cyn ei ollwng ar y byd.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:06 pm  

Gadawa sylw