<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Defnydd a agweddau at y Wyddeleg: Arolwg defnyddwyr gwefan swyddi

7.11.05

Dwi'n cytuno gyda Raiméis bod y canlynaidau canlynol i arolwg am y Wyddeleg ar wefan dwyieithog sy'n hysbysebu swyddi yn rhai calonogol. Dyma oedd ymatebion defnyddwyr Irishjobs.ie:
-88% wedi dysgu'r iaith yn yr ysgol

-O ran defnydd, roedd 40% yn ei ddefnyddio'n gymdeithasol, 36% yn y cartref, 28% yn y gwaith a 29% ar-lein. Yn anffodus doedd 39% ddim yn defnyddio'r iaith o gwbwl. Roedd 47% yn honni eu bod yn gallu cyfathrebu'n gyfforddus yn y iaith Wyddeleg.

- Yn arwyddocaol efallai, pan ofynwyd os dylai'r Wyddeleg fod yn orfodol mewn ysgolion dywedodd 59% y dylai fod yn orfodol, tra dim ond 26% ddywedodd na.

-O'r 321 a ymatebod, dim ond 10% a wnaeth yn Wyddeleg.


Gan fod y wefan yma'n unigryw fel gwefan sy'n hysbysebu swyddi'n ddwyieithog, gall fod y % sy'n gefnogol i'r iaith yn uwch na'r arfer, ac hefyd oherwydd mai pobl sy'n chwilio am swyddi yw'r rhain, efallai bod rhai'n ateb ychydig yn wahanol i sut fasent fel arfer rhag ofn eu bod yn cyfri yn eu herbyn rhywsut lawr y lein petai nhw eisiau mynd am swydd ble roedd y Wyddeleg yn orfodol.

Byddwn yn hoffi gweld arolwg tebyg yn cael ei wneud yma yng Nghymru at agweddau at a lefel defnydd yr iaith Gymraeg. Fel mae'n digwydd, mae'r cwmni sydd berchen Irishjobs.ie hefyd yn berchen ar wefan swyddi WelshJobs.com*, sgwn i os oes cynlluniau gyda nhw i holi ymgwiswyr swyddi yma felly.

*suddais fy nghalon braidd wrth weld hwn achos dwi wedi bod yn gweithio'n araf bach (rhy araf) ar wefan swyddi Cymraeg fy hunan.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:34 pm

0 sylw:

Gadawa sylw