Taith hanesyddol 'Pubs and Pews'
30.8.05
Dwi'n cofio gwrando ar Radio Wales rhyw noson a chlywed rhywun yn siarad am hanes tafarndai tref Dinbych, gan gynnwys set o risiau hynafol iawn yn Nhafarn yr Eryrod, yn Back row oedd yn duddio nol i'r 17G.
Roedd erthygl yn y Western Mail heddiw (do, prynnais gopi heddiw) yn sôn am Pubs and Pews Trail, sy'n cynnwys tri tafarn a thri eglwys hynafol y ardal Dinbych a'r cyffuniau. Doedd dim modd dod o hyd i wybodaeth pellach ar y wê, dyma'r neges a gafwyd ar wefan cyngor sir Ddinbych:
A doedd dim manylion ar wefan (mwy neu lai uniaith Saesneg) Visit Denbigh
Ond trwy lwc dyma fi'n dod ar draws y wefan (uniaith Saesneg) The Denbigh Heritage Pub Trail.
Tagiau: Crwydro, Dinbych, Hanes

Tydi gwefan arferol Cyngor Sir Ddinbych ddim ar gael ar hyn o bryd oherwydd gwaith trydanol sy'n cymryd lle dros penwythnos 26-30 o Awst
A doedd dim manylion ar wefan (mwy neu lai uniaith Saesneg) Visit Denbigh
Ond trwy lwc dyma fi'n dod ar draws y wefan (uniaith Saesneg) The Denbigh Heritage Pub Trail.
Tagiau: Crwydro, Dinbych, Hanes
Gosod esiampl
Roedd edefyn defnyddiol ar maes-e yn ddiweddar am Linellau Cymorth Cymraeg gwahanol, ac mae erthygl erthygl perthnasol i hyn yn y Western Mail heddiw am staff canolfan alw Dŵr Cymru yn cael hyfforddiant tuag at gymhwyster mewn gweithio yn y Gymraeg.
mae'n gam positif iawn yn fy marn i a da o beth fyddai i nifer o asiantaethau cyhoeddus ddilyn arweiniad y cwmni preifat hwn.
Mae'n fy atgoffa o fy nghyfnod ar Linell Gymordd Cyflogwyr gyda Chyllid y Wlad. Roeddwn i yn un o dua 200 o staff wedi eu lleoli yng Nghaerdydd a 200 arall yn East Kilbride yn yr Alban. Gan ein bod yn derbyn galwadau o rhyw dri llinell cymorth gwahanol beth bynnag, dyma fi'n cynnig i reolwr y ganolfan alwadau y gellid cynnig opsiwn Cymraeg ac y byddwn i'n derby y galwadau (roedd tu hanner dwsin o gyn-ddisgyblion ysgolion cyfrwng Cymreag y cymoedd ybo hefyd a fyddai efallai wedi bod yn fodlon rhannu galwadau). Ymateb y rheolwr oedd nad oedd rhaid darparu gwasaneth Cymraeg gan ein bod yn derbyn galwadau o ardraws y DG i gyd. Er nad ydw i'n gwybod o ffaith bod yn ddim yn wir, byddwn yn synnu os oedd beth oedd e'n ei ddweud yn gywir. A hyd yn oed os oedd o'n iawn, bydda'i wedi golygu gwell gwasanaeth i'r cwsmer beth bynnag.
Weithiau pan oeddwn yn siarad gyda cyflogwyr gallwn synhwyro eu bod yn siaradwr Cymraeg o'u hacen a byddaf yn cynnig parhau y sgwrs yn Gymraeg. Oni bai am untro, roedd yn well gan y galwr barhau yn Gymraeg. Yn y tair blynedd bues yno amcangyfrifaf (yn geidwadol) bod hyn wedi digwydd tua 50 o weithiau, ac efallai bod o leiaf 50 siaradwr Cymraeg arall wedi'm ffonio ond yn ddi-wybod i mi. Os felly, ac o feddwl bod 400 ohonom yn gewithio ar y llinell rhwng y ddau ganolfan yng Nghaerdydd ac East Kilbride, gell fod hyd at 40,000 (100 x 400) o alwadau wedi dod gan siaradwyr Cymraeg. Gwerthfawrogaf unrhyw gywiriadau i fy maths.

Prydain ac olew
26.8.05
Dychmygwch bod mynediad Prydain i olew yn cael ei bygwth, a gyda chymorth America eu bod yn ceisio gorfodi Reigime Change ar bobl gwlad sofran yn y dwyrain canol. Mae'n swnio braidd yn far-fetched dwi'n gwbod, ond dyna'n union ddigwyddodd yn 1953, pan ddaeth llywodraeth newydd genedlaetholgar poblogaidd i rym yn Iran a gwladoli y cwmniau olew o oedd wedi bod yn berchen i gwmniau Prydeinig. Yn rhyfedd ddigon roedd yr UDA yn hoff o'r drefn newydd, ond fe'u perswadwyd/twyllwyd i gymeryd rhan yn y coup gan Brydain drwy honni fod y wlad yn debygol o droi'n gomiwnyddol. Chwaraeodd y BBC parchus rhan flaenllaw [dolen dros dro 'beryg] yn yr holl beth.
Cofnod or coup Wikipedia
Cofnod or coup Wikipedia
Annibynol Annobeithiol
24.8.05
Ar ôl rhoi'r gorau i'r Guardian, dyma obeithio am well gan yr Independent, ond na mae'r papur hwn yn euog o'r un newyddiaduraeth diog, nawddoglyd, a pwysicach fyth ANGHYWIR. Y tro hwn lol llwyr am y Ddeddf Iaith, sydd mwy na thebyg wedi deillio a rwtsh yn ein papur 'cenedlaethol' ni.
Un gair, 'Ymchwil'? Ond os chi'n meddwl bod o'n wael bod papur o Lundain yn dod i fyny gyda'r crap yma (fase chi'n disgwyl dim gwell gan y WM), mae'n siomedig gweld Aelod o'r Cynulliad yn bod mor anwybodus.
letters@independent.co.uk os hoffer eu cywiro
When Britain's top spook, Eliza Manningham-Buller, decided to open an MI5 office in Cardiff, she was blissfully unaware of the petty demands of Welsh bureaucracy.
She won't be any more. For MI5 has just been told that - under the Welsh Language Act - all documents produced there must first be written in Welsh, before being translated into English.
"It'll be a hell of a challenge for them to find someone who speaks, say, Arabic and Welsh," says local MP David Davis.
"To cap it off, the nationalist pressure group Cymdeithas yr Iaith Gymraeg has advised its supporters not to apply for jobs there. Apparently, it reckons MI5's a tool of the English superstate. You couldn't make it up!"
Un gair, 'Ymchwil'? Ond os chi'n meddwl bod o'n wael bod papur o Lundain yn dod i fyny gyda'r crap yma (fase chi'n disgwyl dim gwell gan y WM), mae'n siomedig gweld Aelod o'r Cynulliad yn bod mor anwybodus.
letters@independent.co.uk os hoffer eu cywiro
Gruff a Bunf yn yr Independent
22.8.05
Dioch i Sarah am fy nghyfeirio at gyfweliad rhwng Gruff Rhys a Huw Bunford a'r Independent yn sôn am eu halbwm newydd. Mae'n erthygl da gyda dim o'r ystrdebau arferol o baputr o Lundain ac mae sawl disgrifiad doniol ohonynt. Mae'r cyfwelydd yn gwnud tipyn o'u safbwyntiau gwleidyddol.
Bu'r band yn recordio ym Mrasil ac yn Catalonia
Allai'm credu'r peth, ond dwi'n anghytuno gyda barn Gruff Rhys am rhywbeth.
Sut all o ddweud huna am Dali?
O leiaf mae ein safbwyntiau ar Killer Coke yr un mor gryf.
Tagiau Technorati: Super Furry Animals, SFA, Gruff Rhys, Huw Bunford, Killer Coke
Politics aside, anger isn't an emotion one would readily associate with Rhys. Sparkly of eye and beatific of smile, he and SFA's guitarist Huw "Bunf" Bunford seem to approach life with all the urgency of geriatric sloths.
Bu'r band yn recordio ym Mrasil ac yn Catalonia
"Yeah, we didn't want to go to Brazil and plagiarise their culture," chips in Bunford. "We're five guys from Wales who haven't seen enough sun to be able to samba legally."
Allai'm credu'r peth, ond dwi'n anghytuno gyda barn Gruff Rhys am rhywbeth.
Naturally, they also found time to visit the city's Salvador Dali museum. "I think his work's pretty tacky, but he led an interesting life," opines Rhys. "I suppose he was the Tracey Emin of his day."
Sut all o ddweud huna am Dali?
O leiaf mae ein safbwyntiau ar Killer Coke yr un mor gryf.
But even when Coca-Cola doubled its offer to seven figures, the band declined to let the multinational use their music in a worldwide advert. This was principled stuff, certainly, but couldn't they have taken the cash and put it to a number of philanthropic uses?
"Possibly," says Rhys, "but ultimately you've got to hear your own voice on telly selling a product that you hate, you know?
Tagiau Technorati: Super Furry Animals, SFA, Gruff Rhys, Huw Bunford, Killer Coke
Effaith gemau Olympaidd ar Gymru
Pan gyhoeddwyd bod Llundain am gynnal gemau Olympaidd 2012, meddyliais mai'r unig effaith y cai hyn ar Gymru y bydde'n trethi ni'n mynd i dalu amdano. Ond mae'n debyg y gall fod yn fwy pellgyrhaeddol ac o bosib yn niweidiol.
Mae blog Irish Eagle yn rhoi dolen at erthygl yn y Guardian o dan y teitl No-play zones set for 2012. Yn ôl y blog, mae llwyodraeth y Cynulliad wedi gaddo na fydd gemau cystadleuol o unrhyw gamp yn cael eu cynnal ar yr un pryd a'r gemau. Mae'n difynnu rhan o gais Llundain.
Efallai ar hyn o bryd tydi hyn ddim yn edrych yn ddifrifol ofnadwy, ond meddwl ydw i petai Uwchgyngrhair Pêl-droed Cymru yn penderfynnu newid i chwarae yn y haf, a hefyd mae gemau rowndiau cynnar y Gwpan Intertoto a Chynrhair y Pencampwyr yn disgyn o fewn y dyddiadau uchod.

London's candidate file, the document that outlines arrangements for the 2012 games, states that "no important national or international events will take place in London or the vicinity of any of the other competition sites during the games or in the week before or following the games".
The London Olympics are scheduled to run from July 25 to August 12, which means the affected period would stretch from July 18 to August 19, and covers events in London's boroughs, local authorities outside the capital's hosting venues and the devolved administrations of Wales, Northern Ireland and Scotland, all of which have agreed to honour the commitment.
Efallai ar hyn o bryd tydi hyn ddim yn edrych yn ddifrifol ofnadwy, ond meddwl ydw i petai Uwchgyngrhair Pêl-droed Cymru yn penderfynnu newid i chwarae yn y haf, a hefyd mae gemau rowndiau cynnar y Gwpan Intertoto a Chynrhair y Pencampwyr yn disgyn o fewn y dyddiadau uchod.
Political Correctness Watch
18.8.05
Blog arall i'w gynnwys at y rhest maith o rhywbeth-neu-gilyddWatch.
Fel rhan un post sy'n eistedd gyfochr a stori am ferch 14 oed yn cael ei threisio, mae erthygl am yr iaith Gymraeg sydd wedi ei gymeryd (yn ei gyfanrwydd dwi'n gymeryd o'r Economist) o dan y teitl:
THE CORRECTNESS OF WELSH
Discrimination in favour of Welsh-speakers is rampant
I ddweud y gwir tydi'r erthygl ddim yn rhy wael, ac thra mae'n dechrau i ffwrdd gyda'r spin positif y ceir am adfywiad yr erthygl mae hefyd yn defnyddio ffeithiau dwi'n gymeryd mae wedi ei ddefnyddio gan Cymuned am ddirywiad y iaith mewn ardaloedd traddodiadol. Er mae yna un neu ddau osodiad anghywir fel:
Pam bod unrhywbeth drwy gyfrwng yn gorfod bod yn genedlaetholgar? Gwir mae gan fudaidau a phleidiau gwleidyddol (o bob lliw) bresenoldeb yno, ond rhan fechan o'r holl sioe yw hyn.
Dwi ddim yn aelod o Cymuned ond dwi'n siwr nad yw hyn eriod wedi bod yn rhan o'u gweledigaeth.
O ia, does dim modd gadael sylw ar y blog hwn chaith.

Scarcely a word of English was uttered last week in Faenol, a grand estate that hosted the Eisteddfod, a sort of nationalistic arts festival for Wales.
Pam bod unrhywbeth drwy gyfrwng yn gorfod bod yn genedlaetholgar? Gwir mae gan fudaidau a phleidiau gwleidyddol (o bob lliw) bresenoldeb yno, ond rhan fechan o'r holl sioe yw hyn.
Cymuned believes still more drastic measures are needed. It wants independence for the Welsh-speaking heartlands.
Dwi ddim yn aelod o Cymuned ond dwi'n siwr nad yw hyn eriod wedi bod yn rhan o'u gweledigaeth.
Welsh-speakers tend to be middle managers or small-business owners. They are less likely to be found in the highest ranks of business and the professions, but they are also much less likely to be unemployed than monoglot English speakers.Efallai bod yn rhan gyntaf ar olaf yn gywir, ond o'm mhrofiad i mae canran uchel iawn o Gymry Cymraeg yn y De dwyrain ynarbennig yn gweithio yn y proffesiynnau fel cyfreithwyr a chfrifwyr ayyb.
O ia, does dim modd gadael sylw ar y blog hwn chaith.
Rhannu a rheoli
Wel, oreit, allai'm beio'r awdurdodau Imperialaidd am hyn, ond es i'r Morfa Newydd (dwi ddim yn hoffi'r enw 'The New Stadium') i wylio Cymru'n erbyn Slofenia. Er mai gêm gyfeillgar oedd hwn yn erbyn gwlad, sydd gyda phob parch ddim yn enw mawr, roeddwn yn edrych ymlaen am gael teithio i Abertawe ac ymweld â maes pêl-droed newydd.
Rhaid dweud mae'r stadiwm yn gyfforddus iawn ac yn edrych yn dda, ond yr un awyrgylch tawel oedd yna i'r gêm fel ceir yn Stadiwm y Mileniwm. Newidiodd hyn jyst cyn hanner amser pan dechreuodd yna weiddi uchel ddod o'r gornel chwith i ble roeddym yn eistedd. Ond nid bloeddio am Gymru oedd rhain ond cefnogwyr Abertawe a Chaerdydd yn gwawdio eu gilydd. Sylwais bod dau linell o heddweision a gofod o seddi gwag yn gwahanu'r ddau garfan o gefnogwyr.
Ymddengys bod tocynnau wedi cael eu dosbaerthu yn ôl côd post mewn ymgais i wahanu'r cefnogwyr, ond mae'n debyg drwy glystyru cefnogwyr Caerdydd gyda'i gilydd a'r un fath gyda rhai Abertawe, mae hyn yn ei wneud yn fwy tebygol y byddant yn dechrau 'canu' caneuon eu clybiau.
Petai'r cefnogwr hyn yn rhoi cymaint o ymdrech i ganu caneuon Cymru, byddai awyrgylch gemau rhyngladol Cymru'n llawer gwell. Peth trist arall yw mai'r unig fleodd sy'n debygol o gael pawb yn ymuno mewn yw 'Stand up if you hate England', sy'n ein gwneud i edrych fel gwlad fach sy'n gyson yng nghysgod ein cymdogion mwy. Gwastraff amser llwyr yn canu caneuon fel hyn (oni bai ein bod yn chwarae Lloegr wrth gwrs!).
Wedi dweud hyn oll, anodd yw peidio gwennu wrth glywed am golled Lloegr o 4 gôl i un yn erbyn Denmarc. Mae'n debyd mai dyma eu colled trymaf ers i Gymru eu curo o'r un sgôr yn ol yn yr wythdegau. Ysgwn i sawl gwaith y caiff y ffaith yna ei ail-adrodd yn y wasg Seisnig/Brydeinig heddiw? Dim mae'n siwr os oedd papur Guardian ddoe yn unrhyw ffon mesur.
Mae'n ddigon i wneud i chi sefyll i fyny a chanu 'Stand up...'

1. Ni welsant buddigoliaeth tîm dan-21 Cymru yn erbyn Malta y noson gynt ddigon pwysig ei gynnwys yn eu rhestr canlyniadau, er bod canlyniadau timau dan-21 gwledydd eraill wedi eu cynnwys.
2. Yn y darn teledu, pan yn trafod pa gemau fyddai'n cael eu dangos soniwyd am gêm Lloegr, y gêm rhwng Iran a rhywun ond dim sôn bod gem Cymru ymlaen yn fyw.
3. Wrth drafod i gemau, roedd treuan colofn yr un i gêm Cymru ac un yr Alban, ond cafwyd 3 erthygl llawn gwahanol i drafod gêm Lloegr er mai gêm gyfeillgar o'r un pwysigrwydd oedd eu gêm nhw.
Mae'n ddigon i wneud i chi sefyll i fyny a chanu 'Stand up...'
Heddlu'n defnyddio bwledi plastig ar brotestwyr Basgeg
17.8.05
Defnyddiodd yr heddlu fwledi plastig yn erbyn mynychwr rali waharddiedig yn San Sebastian. Roedd y blaid Batasuna wedi trefnu'r rali i ddangos anfodlonrwydd am y ffaith nad ydynt yn rhan o drafodaethau pleidiau eraill Gwlad y Basg a llywodraeth Sbaen ynglyn â dyfodol Gwlad y Basg.
Trwy Balrog
Mwo o Berria
Trwy Balrog
Mwo o Berria
Cymru'n arwain (am unwaith?)
Erthygl yn y Guardian heddiw gyda'r teitl Rarebit in the spotlight am sut mae safon ac hefyd syniad pobl am fwyd Prydain wedi newid yn sylweddol a bod y diwydiant ymwelwyr yn elwa o hyn.
Mae'r is-bennawd/paragraff cyntaf yn darllen fel hyn:
Mae llawer o'r clod yn cael ei roi i'r Awdurdod Datblygu a rhaid cyfaddef ei fod yn anodd mynd i unrhyw ffair neu wyl heb weld y logo Cymru Y Gwir Flas ac arddangosfeydd o beth elli'r ei gyflawni dwry ddenfyddio cynnyrch Cymreig o ansawdd.
Rhaid dweud allai'n coelio honiad yr erthygl bod;
Cefais ddolen hynod ddefnyddiol o'r erthygl at Big Barn, sef gwefan ble allwch roi eich côd post a bydd yn rhoi rhestr o gynhyrchwyr lleol a chysylltiadau defnyddiol i chi. Mae yna hefyd nifer o erthyglau am ansawdd cig, ffrwythau a llysiau archfarchnadoedd ar gyfer pobl twp sy'n dal i brynnu'r pethau hyn o'r archfarchnod.
*Yn dod yn fuan i Gwenu dan Fysiau; Rhestr Siopa Rhys

For so long the butt of culinary jokes, British food is now attracting gastro-tourists. But why is Wales doing so much better than middle England?
Mae llawer o'r clod yn cael ei roi i'r Awdurdod Datblygu a rhaid cyfaddef ei fod yn anodd mynd i unrhyw ffair neu wyl heb weld y logo Cymru Y Gwir Flas ac arddangosfeydd o beth elli'r ei gyflawni dwry ddenfyddio cynnyrch Cymreig o ansawdd.
Rhaid dweud allai'n coelio honiad yr erthygl bod;
Apparently, two-thirds of Brits would consider holidaying at home just because of the food and drink on offer.2 o bod tri o ddarllenwyr Y Guardian efallai ond ddim y boblogaeth gyfan siwr.
Cefais ddolen hynod ddefnyddiol o'r erthygl at Big Barn, sef gwefan ble allwch roi eich côd post a bydd yn rhoi rhestr o gynhyrchwyr lleol a chysylltiadau defnyddiol i chi. Mae yna hefyd nifer o erthyglau am ansawdd cig, ffrwythau a llysiau archfarchnadoedd ar gyfer pobl twp sy'n dal i brynnu'r pethau hyn o'r archfarchnod.
*Yn dod yn fuan i Gwenu dan Fysiau; Rhestr Siopa Rhys
Blogiau newydd
Dwi'n meddwl bod trwythbwynt (saturation point?) gyda faint o flogia sydd ar blogroll rhywun, ond dwi'n dal i ychwanegu rhai newydd.
Ffolder Blogiau Cymraeg
Dau flog gan Americanwyr (ifanc) sy'n dysgu Cymraeg. Er mai yn Saesneg mae'r ddau flog yn cael eu ysgrifennu, dwi am eu gosod yn fy ffolder 'Blogiau Cymraeg' oherwydd efallai y gwna nhw newid i rhai dwyieithog neu Cymraeg gyda annogaeth.
Welsh Speaking
Tyddyn Eira (er dwi ddim yn siwr am frawddeg I wasn't worried about the second investment property I was trying to buy yn ei bost am ei ymweliad á Gwynedd.)
Ffolder Gwleidyddol/Gwleidyddion
Dau flog gyda gogwydd cenedlaetholgar Cymreig
Welsh Comment
Welsh Brits Watch
Ffolder CPD Wrecsam
Dwi heb ddod ar draws llawer o flogiau am ddilyn CPD Wrecsam yn anffodus. Hoffwn weld mwy.
Sarah's Wrexham FC World

Undeb Athrawon America a Wal-Mart
11.8.05
Mae erthygl yn y Telegraph am Undeb Athrawon yn yr UDA sy'n annog rhieni eu disgyblion i beidio siopa yn Wal-Mart oherwydd honiadau eu bod yn defnyddio llafur plant (child labour).
Mae'n siwr bod sawl rheswm da arall dros beidio siopa yno hehyd.
Trwy Tim Worstall.
Da fyddai gweld undebau athrawon yn Mhrydain ac undebau eraill yn gwneud safiad tebyg yn erbyn Asda ac hefyd Tesco. Dyma gyfle da i mi bostio dolen at Tecopoly, a ddois ar draws ar wefan Mei.
In a co-ordinated series of press events yesterday, the National Education Association and the American Federation of Teachers joined other union officials and civic leaders in a campaign called "Send Wal-Mart Back to School".
The retailer has been attacked by critics who believe the company has contravened child labour laws. Earlier this year, Wal-Mart agreed to pay $135,540 to settle federal charges that it broke US child labour laws, including those preventing minors from operating "dangerous machinery".
Mae'n siwr bod sawl rheswm da arall dros beidio siopa yno hehyd.
Trwy Tim Worstall.
Da fyddai gweld undebau athrawon yn Mhrydain ac undebau eraill yn gwneud safiad tebyg yn erbyn Asda ac hefyd Tesco. Dyma gyfle da i mi bostio dolen at Tecopoly, a ddois ar draws ar wefan Mei.
Enwogrwydd o'r diwedd
10.8.05
Mae gennyf flog Saesneg ble dwi'n cyfieithu rhai o'm pyst[?] mwy diddorol[???]. Rhyw 3-4 person sy'n ymwled yn ddyddiol fel rheol, ond bu 17 a 18 ymwelydd echddoe a'r diwrnod cynt (pethau bach fel hyn sy'n plesio fi chi'n gweld). Mae modd gweld sut mae pobl yn cyrraedd eich blog trwy'r dudalen hon. Yn ddiweddar bu'r mwyafrif yn ymweld ar ôl ymchwilio am 'Welsh Crazy Frog' neu debyg, ond mae'r ymweliadau diweddara wedi dod o ddolen gan flog Ymgyrch Senedd i Loegr o bob man. Dwi'n tybio oherwydd cafodd y post am 'Fap 100 cenedl Ewrop' ei bostio ar flog Independance (i'r Alban).

I fod yn onest dwi heb roi fawr o ystyriaeth i Senedd i Loegr. Dwi'n deall bod oblygiadau i Loegr fel cenedl yn sgil datganoli i Gymru a'r Alban, ond roeddwn wedi meddwl y byddai'n ei atgynerthu (ar draul synaid Prydeindod) yn hytrach nai danseilio. Yn y dyddiau cyn datganoli roeddwn yn frwd dros ddatganoli am ddau reswm
Yn amlwg ar ôl tynnu poblogaethau Cymru, Yr Alban (a Gogledd Iwerddon) allan o gyfanswm poblogaeth y DG mae hyn yn gadael uned sy'n rhy fawr i'w reoli'n effeithlon os ydych yn credu mewn datganoli. Byddai rhannu'r uned hwn i rambarthau pellach yn fygythiad i ymdeimlad Saesnig?

1. Yn amlwg fel cenedlaetholwr byddai cael ein llywodareathu gan SENEDD (nid y llanast presenol) wedi ei hethol gan pobl Cymru yn well i ateb dyheadau a phroblemau ein cenedl bychan. Gyda'r bwriad gorau yn y byd ni fyddai prif weinidog yn Llundain byth yn rhoi buddiannau 3 miliwn o bobl Cymru o flaen rhai 48 milliwn (?) Lloegr.
2. Mae poblogaeth Cymru o 3 miliwn (a 5 miliwn yr Alban) yn ffigwr addas ar gyfer gweinyddu, ac yn cymharu gyda rhanbarthau datganoledig gwledydd Ewrop a rhai o Dalieithau lleiaf yr UDA.
Yn amlwg ar ôl tynnu poblogaethau Cymru, Yr Alban (a Gogledd Iwerddon) allan o gyfanswm poblogaeth y DG mae hyn yn gadael uned sy'n rhy fawr i'w reoli'n effeithlon os ydych yn credu mewn datganoli. Byddai rhannu'r uned hwn i rambarthau pellach yn fygythiad i ymdeimlad Saesnig?
Roeddwn arfer ei hoffi
9.8.05
The British dream: we must all speak the same language
Dyna yw teitl erthygl gan Boris Johnson yn y Torygraph, oes angen dweud mwy? Yn amlwg rhaid darllen yr erthygl gyfan ond dyma ambell berl dwi wedi pigo allan.

We should all feel the same mysterious pang at the sight of the Queen.
....
We should teach English, and we should teach in English. We should teach British history. We should think again about the jilbab, with the signals of apartness that it sends out, and we should probably scrap faith schools. We should forbid the imams from preaching sermons in anything but English; because if you want to build a society where everyone feels included, and where everyone shares in the national story, we cannot continue with the multicultural apartheid.
Yr Wythnos (wythnos yr Eisteddfod)
ers rhai blynyddoedd rwan dwi wedi trefnu fy ngwyliau haf o amgylch yr Eisteddfod (heblaw am llynedd pan oedd a fy stepen drws born yng Nghasnewydd ac yn 2001 pan oedd edrych mlaen at steddfod yn Nimbych fy nhref enedigol a finnau ar faglau).
Eleni roeddwn wedi cynllunio'r wythnos i gynnwys taith fyny gorllewin fyddai'n diweddu yn ardal y steddfod.
Dydd Sadwrn.
False start, jibiais i a Sarah gan ei bod yn bwrw cymaint. Doeddwn i ddim yn fodlon gwlychu'n codi pabell, ond roeddwn yn fodlon sefyll yn y glaw tu allan i Neuadd y Ddinas, Caerdydd mewn rali gwrth-hiliaeth.
Dydd Sul.
Dachrau o'r diwedd a mynd a Sarah am ei hymweliad cyntaf â'r Ganolfan Dechnoleg Amgen, ger Corris. Y bwriad oedd gwersylla yn Nolgellau, ond roedd hi'n glawio'n drwm yno, felly dyma ni'n gyrru tua'r arfordir i Ddyffryn Ardudwy sef ardal genedigol fy nhad. Roedd y tywydd yn well yno ond roedd canoedd o scally's (geiriau Sarah nid fi) ar eu gywliau ym mhobman, felly aethon ni ymlaen i Lanbedr a gwersylla yno.
Dydd Llun
Codi'n gynnar a hel ein pac cyn brecwast (roedd rhywun wedi anghofio pacio'r stôf nwy) a mynd yn y car i'r tir mynydd uwch ben Ardudwy ac wedyn o amgylch cromlechi yn Nyffryn Ardudwy. Ymlaen wedyn i Llwyngwril ble bu tad Sarah er ei wyliau pan yn blentyn a cawsom ni baned a chacen yn yr Oriel Grefft. Aethom weydn i raeadr Dolgoch, Castell y Bere ac i Eglwys Llanfihangel Y Pennant (ble mae arddangosfa Mari Jones). Cawsom frechdan a chacen (arall) blasus a rhesymol ar falconi Caffi'r Ceunant sy'n rhan o ganolfan gymunedol newydd Abergynolwyn. Adre i dŷ fy rhieni wedyn am fwyd a noson neu ddwy call o gwsg.
Dydd Mawrth
Mynd i weld Nain a'm dau ewythyr ar fferm Deunant, ac ar ôl cinio aeth Sarah a mi am dro i ben Mynydd Tryfan sydd rhwng Y Groes a Llansannan. Yn y nos aethom i dafarn y Plough yn Llanelwy i gwrdd â Dafydd, hen ffrind o'r brifysgol oeddwn wedi dod i ail-gysylltiad a fo, a chwrdd a'i wraig newydd.
Dydd Mercher
Hel hi am ochrau Bangor gan fod gennyf docyn i weld Gruff Rhys yn gig Cymdeithas yr Iaith yn Amser. Roedd rhaid codi'r pabell yn rhywle yng gyntaf a gan nad oeddem eisiau aros yn Maes-B am sawl rheswm amlwg a mod i heb wneud dim trefniadau eraill dyma ni'n glanio ar fferm Tros y Waun ger Pentir. Dynes weddw Cymraeg clên a'i merch a'i wyrion oedd yn rhedeg y lle, ond dyna'r unig Cymry oedd yno. Pobl o ogledd orllewin Lloegr oedd pawb oedd yn carafanio a gwersylla yno, ond yn ffodus iawn mond bau peg pabell gafodd ei ddwyn dros y dair noson buom yno. Cefais beint gyda hen ffrind arall o'r brifysgol sef Osian yn y Belle View cyn mynd lawr i amser. Roedd Winabego a Gruff yn dda iawn roedd yn twats Cymraeg yno'n mynnu siarad trwy set Yr Arglwydd Rhys a surodd y noson ychydig i mi.
Dydd Iau
Codi'n hwyr felly wneathom ni ddim cyrraedd y maes tan tua 11:30 ond doedd dim traffig chwarae teg. Llwyddais i beidio prynnu dim llyfr na Chrys-T (ond roedd hyn yn rhannol achos doeddwn ddim wedi sylweddoli bod peiriant twll yn wal di-dal tan ddiwedd y dydd). Llwyddais i wario ar CD's Linux ac OpenOffice o stondin Meddal (dwi'n gobeithio am wyrth a bydd fy PC yn atgyfodi). Gwrandawom ar Cofi Bach a Tew Shady ym mhabell y Dysgwyr ac eto wedyn yn y gig yn yr hwyr - roeddynt yn dda iawn y ddau dro. Ar ôl cwis aflwyddianus arall dyma fi a Sarah'n mynd i'r Harp am bryd o fwyd cyn gig Aweledig et al yn Amser. Cefais fy siomi ar yr ochr orau gyda'r bwyd. Roedd yna ddewis da o fwyd llysieuol i Sarah ac roedd y fwydlen yn fwy diddorol na mond sglodion a byrgers. Ces i gyw iar mewn cig moch gyda saws caws a thatws stwns garlleg. Braf oedd clywed y cogydd yn archebu cig tros y ffôn yn Gymraegg gan fy argyhoeddi mai cig lleol sy'n cael ei ddefnyddio yno (nes i Dewi ddweud mai efallai ei bod hi'n archebu cig o'r Ariannyn).
Dydd Gwener
Aethom i Gaernarfon yn y bore a ymweld â'r Galeri am y tro cyntaf. Roedd arddangosfa o waith myfyrwyr yno. Yna aethom nol i'r maes pabyll i ddiogi am weddill y prynhawn.
Aethom i Herbs am bryd o fwyd cyn y gig, ond nid oedd y bwyd na'r gwasaneth hanner cystal a'r noson gynt yn yr Harp. Roedd y gig yn dda unwaith eto, roeddwn yn edrych ymlaen i glywed Swci Boscawen ac er roeddynt yn dda, dwi'n maeddwl aeth y band i ffwrdd mewn hyff cyn gorffen eu set am fod y dorf braidd yn dawel. Cywirwch fi os dwi'n anghywir.
Dydd Sadwrn
Ffa Pôb a Madarch i frecwast gan i mi gael benthyg stof nwy fy rhieni yna tynny'r tent i lawr cyn anelu am Wrecsam am gêm cyntaf y tymor newydd. Dwi fel arfer yn sefyll ar y Kop ond gan fy mod yn cwrdd â Osian (arall) sy'n gweithio fel cogydd yn y dydd ac mewn garej 24 awr yn y nos i glirio'i ddyledion, dyma fi'n cytuno i eistedd yn eisteddle Pryce Griffiths. Rhaid cyfaddef mae'r eisteddle'n wych gyda golwg da o'r maes. Dyma Wrecsam yn ennill yn gyfforddus o 2 i 0 felly roedd yn ddiweddglo hapus dros ben i wythnos o wyliau braf.
eisteddfod, eisteddfod2005
Generated By Technorati Tag Generator

Baneri go iawn
Meet the World. Casgliad o faneri wedi eu haddasu ychydig gan artisitiad o Frasil i adlewyrchu poblogaethau y gwahanol wledydd.

trwy Morfablog

trwy Morfablog
Lleisiau
Rhan newydd o wefan BBC Cymru o'r enw Lleisiau ble cewch ddarllen am wahanol dafodieithau Cymru a hanes profiadau unigiolion.
Gol.
Dwi newydd ddod ar draws Labordy Iaith o fewn y wefan lleisiau.
Map Geiriau Cymraeg: Gallwch gyfrannu geiriau tafodiaethol.
World Map (Saesneg yn unig): Cymeryd rhan mewn arolwg o broffil ieithyddol y DG

Nestlé a chaethweisiaeth
Yn ôl erthygl ar Timesleader.com mae tri unigolyn yn honni bod Nestlé a thri cwmni arall wedi bod yn defnyddio cwmniau cocoa o Affrica sy'n defnyddio llafur caeth (Slave labour) a bod y cwmniau hyn yn ymwybodael bod hyn y cymeryd lle.
Yn amlwg honiadau yn unig yw y rhain, ond gyda'r cyfunaid o hanesion eraill am Nestlé, mae'n debydg bod mwy na gronyn o wirionedd yn y peth.
O'r Bitter Greens Journal
LOS ANGELES - Three citizens of the West African nation of Mali are suing Nestle SA, Archer Daniels Midland Co., and Cargill Inc., alleging the firms and their subsidiaries benefited from child slave labor at cocoa bean plantations in Ivory Coast.
.....
The companies, the lawsuit contends, are directly liable for knowingly providing "financial support, supplies, training" that could have been use to support the cocoa bean cooperatives' alleged use of child slave labor.
"It is unconscionable that Nestle, ADM and Cargill have ignored repeated and well-documented warnings over the past several years that the farms they were using to grow cocoa employed child slave laborers," said ILRF attorney Natacha Thys. "They could have put a stop to it years ago, but chose to look the other way. We had to go to court as a last resort."
Yn amlwg honiadau yn unig yw y rhain, ond gyda'r cyfunaid o hanesion eraill am Nestlé, mae'n debydg bod mwy na gronyn o wirionedd yn y peth.
O'r Bitter Greens Journal
Popeth ar unwaith
8.8.05
Newydd weld ar Ping Wales bod cynhadledd blynyddol UKUUG wedi bod yn Abertawe eleni. Bechod ei fod wedi bod run pryd a'r Eisteddfod gan fod cymaint o feddalwedd rhydd ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd, byddai wedi bod yn gyfle gwych i godi proffil yr iaith.