<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Yr Wythnos (wythnos yr Eisteddfod)

9.8.05

ers rhai blynyddoedd rwan dwi wedi trefnu fy ngwyliau haf o amgylch yr Eisteddfod (heblaw am llynedd pan oedd a fy stepen drws born yng Nghasnewydd ac yn 2001 pan oedd edrych mlaen at steddfod yn Nimbych fy nhref enedigol a finnau ar faglau).
Eleni roeddwn wedi cynllunio'r wythnos i gynnwys taith fyny gorllewin fyddai'n diweddu yn ardal y steddfod.
Dydd Sadwrn.
False start, jibiais i a Sarah gan ei bod yn bwrw cymaint. Doeddwn i ddim yn fodlon gwlychu'n codi pabell, ond roeddwn yn fodlon sefyll yn y glaw tu allan i Neuadd y Ddinas, Caerdydd mewn rali gwrth-hiliaeth.
Dydd Sul.
Dachrau o'r diwedd a mynd a Sarah am ei hymweliad cyntaf â'r Ganolfan Dechnoleg Amgen, ger Corris. Y bwriad oedd gwersylla yn Nolgellau, ond roedd hi'n glawio'n drwm yno, felly dyma ni'n gyrru tua'r arfordir i Ddyffryn Ardudwy sef ardal genedigol fy nhad. Roedd y tywydd yn well yno ond roedd canoedd o scally's (geiriau Sarah nid fi) ar eu gywliau ym mhobman, felly aethon ni ymlaen i Lanbedr a gwersylla yno.
Dydd Llun
Codi'n gynnar a hel ein pac cyn brecwast (roedd rhywun wedi anghofio pacio'r stôf nwy) a mynd yn y car i'r tir mynydd uwch ben Ardudwy ac wedyn o amgylch cromlechi yn Nyffryn Ardudwy. Ymlaen wedyn i Llwyngwril ble bu tad Sarah er ei wyliau pan yn blentyn a cawsom ni baned a chacen yn yr Oriel Grefft. Aethom weydn i raeadr Dolgoch, Castell y Bere ac i Eglwys Llanfihangel Y Pennant (ble mae arddangosfa Mari Jones). Cawsom frechdan a chacen (arall) blasus a rhesymol ar falconi Caffi'r Ceunant sy'n rhan o ganolfan gymunedol newydd Abergynolwyn. Adre i dŷ fy rhieni wedyn am fwyd a noson neu ddwy call o gwsg.
Dydd Mawrth
Mynd i weld Nain a'm dau ewythyr ar fferm Deunant, ac ar ôl cinio aeth Sarah a mi am dro i ben Mynydd Tryfan sydd rhwng Y Groes a Llansannan. Yn y nos aethom i dafarn y Plough yn Llanelwy i gwrdd â Dafydd, hen ffrind o'r brifysgol oeddwn wedi dod i ail-gysylltiad a fo, a chwrdd a'i wraig newydd.
Dydd Mercher
Hel hi am ochrau Bangor gan fod gennyf docyn i weld Gruff Rhys yn gig Cymdeithas yr Iaith yn Amser. Roedd rhaid codi'r pabell yn rhywle yng gyntaf a gan nad oeddem eisiau aros yn Maes-B am sawl rheswm amlwg a mod i heb wneud dim trefniadau eraill dyma ni'n glanio ar fferm Tros y Waun ger Pentir. Dynes weddw Cymraeg clên a'i merch a'i wyrion oedd yn rhedeg y lle, ond dyna'r unig Cymry oedd yno. Pobl o ogledd orllewin Lloegr oedd pawb oedd yn carafanio a gwersylla yno, ond yn ffodus iawn mond bau peg pabell gafodd ei ddwyn dros y dair noson buom yno. Cefais beint gyda hen ffrind arall o'r brifysgol sef Osian yn y Belle View cyn mynd lawr i amser. Roedd Winabego a Gruff yn dda iawn roedd yn twats Cymraeg yno'n mynnu siarad trwy set Yr Arglwydd Rhys a surodd y noson ychydig i mi.
Dydd Iau
Codi'n hwyr felly wneathom ni ddim cyrraedd y maes tan tua 11:30 ond doedd dim traffig chwarae teg. Llwyddais i beidio prynnu dim llyfr na Chrys-T (ond roedd hyn yn rhannol achos doeddwn ddim wedi sylweddoli bod peiriant twll yn wal di-dal tan ddiwedd y dydd). Llwyddais i wario ar CD's Linux ac OpenOffice o stondin Meddal (dwi'n gobeithio am wyrth a bydd fy PC yn atgyfodi). Gwrandawom ar Cofi Bach a Tew Shady ym mhabell y Dysgwyr ac eto wedyn yn y gig yn yr hwyr - roeddynt yn dda iawn y ddau dro. Ar ôl cwis aflwyddianus arall dyma fi a Sarah'n mynd i'r Harp am bryd o fwyd cyn gig Aweledig et al yn Amser. Cefais fy siomi ar yr ochr orau gyda'r bwyd. Roedd yna ddewis da o fwyd llysieuol i Sarah ac roedd y fwydlen yn fwy diddorol na mond sglodion a byrgers. Ces i gyw iar mewn cig moch gyda saws caws a thatws stwns garlleg. Braf oedd clywed y cogydd yn archebu cig tros y ffôn yn Gymraegg gan fy argyhoeddi mai cig lleol sy'n cael ei ddefnyddio yno (nes i Dewi ddweud mai efallai ei bod hi'n archebu cig o'r Ariannyn).
Dydd Gwener
Aethom i Gaernarfon yn y bore a ymweld â'r Galeri am y tro cyntaf. Roedd arddangosfa o waith myfyrwyr yno. Yna aethom nol i'r maes pabyll i ddiogi am weddill y prynhawn.
Aethom i Herbs am bryd o fwyd cyn y gig, ond nid oedd y bwyd na'r gwasaneth hanner cystal a'r noson gynt yn yr Harp. Roedd y gig yn dda unwaith eto, roeddwn yn edrych ymlaen i glywed Swci Boscawen ac er roeddynt yn dda, dwi'n maeddwl aeth y band i ffwrdd mewn hyff cyn gorffen eu set am fod y dorf braidd yn dawel. Cywirwch fi os dwi'n anghywir.
Dydd Sadwrn
Ffa Pôb a Madarch i frecwast gan i mi gael benthyg stof nwy fy rhieni yna tynny'r tent i lawr cyn anelu am Wrecsam am gêm cyntaf y tymor newydd. Dwi fel arfer yn sefyll ar y Kop ond gan fy mod yn cwrdd â Osian (arall) sy'n gweithio fel cogydd yn y dydd ac mewn garej 24 awr yn y nos i glirio'i ddyledion, dyma fi'n cytuno i eistedd yn eisteddle Pryce Griffiths. Rhaid cyfaddef mae'r eisteddle'n wych gyda golwg da o'r maes. Dyma Wrecsam yn ennill yn gyfforddus o 2 i 0 felly roedd yn ddiweddglo hapus dros ben i wythnos o wyliau braf.

,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:32 pm

0 sylw:

Gadawa sylw