<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Rhannu a rheoli

18.8.05

Wel, oreit, allai'm beio'r awdurdodau Imperialaidd am hyn, ond es i'r Morfa Newydd (dwi ddim yn hoffi'r enw 'The New Stadium') i wylio Cymru'n erbyn Slofenia. Er mai gêm gyfeillgar oedd hwn yn erbyn gwlad, sydd gyda phob parch ddim yn enw mawr, roeddwn yn edrych ymlaen am gael teithio i Abertawe ac ymweld â maes pêl-droed newydd.

Rhaid dweud mae'r stadiwm yn gyfforddus iawn ac yn edrych yn dda, ond yr un awyrgylch tawel oedd yna i'r gêm fel ceir yn Stadiwm y Mileniwm. Newidiodd hyn jyst cyn hanner amser pan dechreuodd yna weiddi uchel ddod o'r gornel chwith i ble roeddym yn eistedd. Ond nid bloeddio am Gymru oedd rhain ond cefnogwyr Abertawe a Chaerdydd yn gwawdio eu gilydd. Sylwais bod dau linell o heddweision a gofod o seddi gwag yn gwahanu'r ddau garfan o gefnogwyr.

Ymddengys bod tocynnau wedi cael eu dosbaerthu yn ôl côd post mewn ymgais i wahanu'r cefnogwyr, ond mae'n debyg drwy glystyru cefnogwyr Caerdydd gyda'i gilydd a'r un fath gyda rhai Abertawe, mae hyn yn ei wneud yn fwy tebygol y byddant yn dechrau 'canu' caneuon eu clybiau.

Petai'r cefnogwr hyn yn rhoi cymaint o ymdrech i ganu caneuon Cymru, byddai awyrgylch gemau rhyngladol Cymru'n llawer gwell. Peth trist arall yw mai'r unig fleodd sy'n debygol o gael pawb yn ymuno mewn yw 'Stand up if you hate England', sy'n ein gwneud i edrych fel gwlad fach sy'n gyson yng nghysgod ein cymdogion mwy. Gwastraff amser llwyr yn canu caneuon fel hyn (oni bai ein bod yn chwarae Lloegr wrth gwrs!).

Wedi dweud hyn oll, anodd yw peidio gwennu wrth glywed am golled Lloegr o 4 gôl i un yn erbyn Denmarc. Mae'n debyd mai dyma eu colled trymaf ers i Gymru eu curo o'r un sgôr yn ol yn yr wythdegau. Ysgwn i sawl gwaith y caiff y ffaith yna ei ail-adrodd yn y wasg Seisnig/Brydeinig heddiw? Dim mae'n siwr os oedd papur Guardian ddoe yn unrhyw ffon mesur.
1. Ni welsant buddigoliaeth tîm dan-21 Cymru yn erbyn Malta y noson gynt ddigon pwysig ei gynnwys yn eu rhestr canlyniadau, er bod canlyniadau timau dan-21 gwledydd eraill wedi eu cynnwys.
2. Yn y darn teledu, pan yn trafod pa gemau fyddai'n cael eu dangos soniwyd am gêm Lloegr, y gêm rhwng Iran a rhywun ond dim sôn bod gem Cymru ymlaen yn fyw.
3. Wrth drafod i gemau, roedd treuan colofn yr un i gêm Cymru ac un yr Alban, ond cafwyd 3 erthygl llawn gwahanol i drafod gêm Lloegr er mai gêm gyfeillgar o'r un pwysigrwydd oedd eu gêm nhw.

Mae'n ddigon i wneud i chi sefyll i fyny a chanu 'Stand up...'
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:28 am

0 sylw:

Gadawa sylw