<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Prydain ac olew

26.8.05

Dychmygwch bod mynediad Prydain i olew yn cael ei bygwth, a gyda chymorth America eu bod yn ceisio gorfodi Reigime Change ar bobl gwlad sofran yn y dwyrain canol. Mae'n swnio braidd yn far-fetched dwi'n gwbod, ond dyna'n union ddigwyddodd yn 1953, pan ddaeth llywodraeth newydd genedlaetholgar poblogaidd i rym yn Iran a gwladoli y cwmniau olew o oedd wedi bod yn berchen i gwmniau Prydeinig. Yn rhyfedd ddigon roedd yr UDA yn hoff o'r drefn newydd, ond fe'u perswadwyd/twyllwyd i gymeryd rhan yn y coup gan Brydain drwy honni fod y wlad yn debygol o droi'n gomiwnyddol. Chwaraeodd y BBC parchus rhan flaenllaw [dolen dros dro 'beryg] yn yr holl beth.

Cofnod or coup Wikipedia
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:23 am

1 sylw:

Glywes i'r stori yma ar Today wsnos yma..shocking stuff yn wir.
sylw gan Blogger Mari, 5:41 pm  

Gadawa sylw