<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gosod esiampl

30.8.05

Roedd edefyn defnyddiol ar maes-e yn ddiweddar am Linellau Cymorth Cymraeg gwahanol, ac mae erthygl erthygl perthnasol i hyn yn y Western Mail heddiw am staff canolfan alw Dŵr Cymru yn cael hyfforddiant tuag at gymhwyster mewn gweithio yn y Gymraeg.
mae'n gam positif iawn yn fy marn i a da o beth fyddai i nifer o asiantaethau cyhoeddus ddilyn arweiniad y cwmni preifat hwn.

Mae'n fy atgoffa o fy nghyfnod ar Linell Gymordd Cyflogwyr gyda Chyllid y Wlad. Roeddwn i yn un o dua 200 o staff wedi eu lleoli yng Nghaerdydd a 200 arall yn East Kilbride yn yr Alban. Gan ein bod yn derbyn galwadau o rhyw dri llinell cymorth gwahanol beth bynnag, dyma fi'n cynnig i reolwr y ganolfan alwadau y gellid cynnig opsiwn Cymraeg ac y byddwn i'n derby y galwadau (roedd tu hanner dwsin o gyn-ddisgyblion ysgolion cyfrwng Cymreag y cymoedd ybo hefyd a fyddai efallai wedi bod yn fodlon rhannu galwadau). Ymateb y rheolwr oedd nad oedd rhaid darparu gwasaneth Cymraeg gan ein bod yn derbyn galwadau o ardraws y DG i gyd. Er nad ydw i'n gwybod o ffaith bod yn ddim yn wir, byddwn yn synnu os oedd beth oedd e'n ei ddweud yn gywir. A hyd yn oed os oedd o'n iawn, bydda'i wedi golygu gwell gwasanaeth i'r cwsmer beth bynnag.

Weithiau pan oeddwn yn siarad gyda cyflogwyr gallwn synhwyro eu bod yn siaradwr Cymraeg o'u hacen a byddaf yn cynnig parhau y sgwrs yn Gymraeg. Oni bai am untro, roedd yn well gan y galwr barhau yn Gymraeg. Yn y tair blynedd bues yno amcangyfrifaf (yn geidwadol) bod hyn wedi digwydd tua 50 o weithiau, ac efallai bod o leiaf 50 siaradwr Cymraeg arall wedi'm ffonio ond yn ddi-wybod i mi. Os felly, ac o feddwl bod 400 ohonom yn gewithio ar y llinell rhwng y ddau ganolfan yng Nghaerdydd ac East Kilbride, gell fod hyd at 40,000 (100 x 400) o alwadau wedi dod gan siaradwyr Cymraeg. Gwerthfawrogaf unrhyw gywiriadau i fy maths.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:06 am

0 sylw:

Gadawa sylw