<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Political Correctness Watch

18.8.05

Blog arall i'w gynnwys at y rhest maith o rhywbeth-neu-gilyddWatch.

Fel rhan un post sy'n eistedd gyfochr a stori am ferch 14 oed yn cael ei threisio, mae erthygl am yr iaith Gymraeg sydd wedi ei gymeryd (yn ei gyfanrwydd dwi'n gymeryd o'r Economist) o dan y teitl:

THE CORRECTNESS OF WELSH
Discrimination in favour of Welsh-speakers is rampant
I ddweud y gwir tydi'r erthygl ddim yn rhy wael, ac thra mae'n dechrau i ffwrdd gyda'r spin positif y ceir am adfywiad yr erthygl mae hefyd yn defnyddio ffeithiau dwi'n gymeryd mae wedi ei ddefnyddio gan Cymuned am ddirywiad y iaith mewn ardaloedd traddodiadol. Er mae yna un neu ddau osodiad anghywir fel:
Scarcely a word of English was uttered last week in Faenol, a grand estate that hosted the Eisteddfod, a sort of nationalistic arts festival for Wales.

Pam bod unrhywbeth drwy gyfrwng yn gorfod bod yn genedlaetholgar? Gwir mae gan fudaidau a phleidiau gwleidyddol (o bob lliw) bresenoldeb yno, ond rhan fechan o'r holl sioe yw hyn.
Cymuned believes still more drastic measures are needed. It wants independence for the Welsh-speaking heartlands.

Dwi ddim yn aelod o Cymuned ond dwi'n siwr nad yw hyn eriod wedi bod yn rhan o'u gweledigaeth.
Welsh-speakers tend to be middle managers or small-business owners. They are less likely to be found in the highest ranks of business and the professions, but they are also much less likely to be unemployed than monoglot English speakers.
Efallai bod yn rhan gyntaf ar olaf yn gywir, ond o'm mhrofiad i mae canran uchel iawn o Gymry Cymraeg yn y De dwyrain ynarbennig yn gweithio yn y proffesiynnau fel cyfreithwyr a chfrifwyr ayyb.

O ia, does dim modd gadael sylw ar y blog hwn chaith.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:10 am

4 sylw:

Ie ddarllenes i'r erthygl yn yr Economist. Er fod ymchwil y cylchgrawn yn dda ar ei erthyglau hir roedd hwn yn eitem 'newyddion' byr a braidd yn anwybodus.

Newydd ddeall beth ddiawl yw 'Caead Maelfa' hefyd.. 'Closed Shop'.. y twpsod wedi defnyddio geiriadur Mark Nodine i'w gyfiethu!
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 1:03 pm  

Am ryw reswm doeddwn ddim yn gallu gweld yr erthygl gyfan ar y ddoln at yr Economist gynne, ond dwi'n weld o rwan.

'Caeda Maelfa'? Geiriadur Mark Nodine? A'i dyma beth sy'n gyfrifol am yr holl wallau cyfieithu ar draws Gymru felly.

Mae'r siart yn cymharu % o siaradwyr Cymraeg ymhob maes i'w gymharu â'r boblogaeth gyfan yn ddiddorol iawn. Dwi wastad wedi meddwl bod % llawer uwch o siaradwyr Cymraeg yn mynd ymlaen i astudio. Ndd bod hyn yn golygu bod nhw ddim mwy galluog chwaith, mond yn adlewyrchu cefndiroedd/agweddau teuluoedd Cymry Cymraeg dybiwn i.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:25 pm  

Y bolocs anwybodol arferol o'r wasg Seisnig, och.
sylw gan Blogger Nic, 5:57 pm  

Os yw rhywun yn gwglo am 'welsh dictionary' mae nhw'n darganfod geiriadur Mark Nodine fel arfer, ac er fod yna waith da wedi mynd mewn i hyn dros y blynyddoedd mae'n dangos canlyniadau ychydig yn 'anarferol' os nad yw rhywun yn gwybod be mae nhw'n wneud.
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 6:17 pm  

Gadawa sylw