<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Cymru'n arwain (am unwaith?)

17.8.05

Erthygl yn y Guardian heddiw gyda'r teitl Rarebit in the spotlight am sut mae safon ac hefyd syniad pobl am fwyd Prydain wedi newid yn sylweddol a bod y diwydiant ymwelwyr yn elwa o hyn.
Mae'r is-bennawd/paragraff cyntaf yn darllen fel hyn:
For so long the butt of culinary jokes, British food is now attracting gastro-tourists. But why is Wales doing so much better than middle England?

Mae llawer o'r clod yn cael ei roi i'r Awdurdod Datblygu a rhaid cyfaddef ei fod yn anodd mynd i unrhyw ffair neu wyl heb weld y logo Cymru Y Gwir Flas ac arddangosfeydd o beth elli'r ei gyflawni dwry ddenfyddio cynnyrch Cymreig o ansawdd.
Rhaid dweud allai'n coelio honiad yr erthygl bod;
Apparently, two-thirds of Brits would consider holidaying at home just because of the food and drink on offer.
2 o bod tri o ddarllenwyr Y Guardian efallai ond ddim y boblogaeth gyfan siwr.
Cefais ddolen hynod ddefnyddiol o'r erthygl at Big Barn, sef gwefan ble allwch roi eich côd post a bydd yn rhoi rhestr o gynhyrchwyr lleol a chysylltiadau defnyddiol i chi. Mae yna hefyd nifer o erthyglau am ansawdd cig, ffrwythau a llysiau archfarchnadoedd ar gyfer pobl twp sy'n dal i brynnu'r pethau hyn o'r archfarchnod.

*Yn dod yn fuan i Gwenu dan Fysiau; Rhestr Siopa Rhys
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:48 am

0 sylw:

Gadawa sylw