<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Enwogrwydd o'r diwedd

10.8.05

Mae gennyf flog Saesneg ble dwi'n cyfieithu rhai o'm pyst[?] mwy diddorol[???]. Rhyw 3-4 person sy'n ymwled yn ddyddiol fel rheol, ond bu 17 a 18 ymwelydd echddoe a'r diwrnod cynt (pethau bach fel hyn sy'n plesio fi chi'n gweld). Mae modd gweld sut mae pobl yn cyrraedd eich blog trwy'r dudalen hon. Yn ddiweddar bu'r mwyafrif yn ymweld ar ôl ymchwilio am 'Welsh Crazy Frog' neu debyg, ond mae'r ymweliadau diweddara wedi dod o ddolen gan flog Ymgyrch Senedd i Loegr o bob man. Dwi'n tybio oherwydd cafodd y post am 'Fap 100 cenedl Ewrop' ei bostio ar flog Independance (i'r Alban).


I fod yn onest dwi heb roi fawr o ystyriaeth i Senedd i Loegr. Dwi'n deall bod oblygiadau i Loegr fel cenedl yn sgil datganoli i Gymru a'r Alban, ond roeddwn wedi meddwl y byddai'n ei atgynerthu (ar draul synaid Prydeindod) yn hytrach nai danseilio. Yn y dyddiau cyn datganoli roeddwn yn frwd dros ddatganoli am ddau reswm
1. Yn amlwg fel cenedlaetholwr byddai cael ein llywodareathu gan SENEDD (nid y llanast presenol) wedi ei hethol gan pobl Cymru yn well i ateb dyheadau a phroblemau ein cenedl bychan. Gyda'r bwriad gorau yn y byd ni fyddai prif weinidog yn Llundain byth yn rhoi buddiannau 3 miliwn o bobl Cymru o flaen rhai 48 milliwn (?) Lloegr.
2. Mae poblogaeth Cymru o 3 miliwn (a 5 miliwn yr Alban) yn ffigwr addas ar gyfer gweinyddu, ac yn cymharu gyda rhanbarthau datganoledig gwledydd Ewrop a rhai o Dalieithau lleiaf yr UDA.

Yn amlwg ar ôl tynnu poblogaethau Cymru, Yr Alban (a Gogledd Iwerddon) allan o gyfanswm poblogaeth y DG mae hyn yn gadael uned sy'n rhy fawr i'w reoli'n effeithlon os ydych yn credu mewn datganoli. Byddai rhannu'r uned hwn i rambarthau pellach yn fygythiad i ymdeimlad Saesnig?
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:06 am

0 sylw:

Gadawa sylw