<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Sawl iaith yn eich casgliad cerddoriaeth?

30.6.05

Mae un fi'n ddigon di-nod, felly dwi heb bostio arno, mond yn cynnwys:
Cymraeg
Susneg
Ffrangeg


Efallai bydd gan rhai ohonoch ddiddordeb.

Ambell un ar y rhestr wedi dweud Cymraeg (SFA a Catatonia yn bennaf).

Oddi ar Kottke.org , drwy Infundibulum (sydd hefyd gyda Datblygu yn ei gasgliad)
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:38 am | dolen | 2 sylw |

Gobaith i'r Galisiaid

o Eurolang
Yn yr etholiad diweddar mae Plaid Sosialaidd Sbaen a phlaid cenedlaetholgar Bloque Nacionalista Galego (BNG) wedi cael cyfanswm uwch o seddi na'r Blaid Asgell Dde yn Galisia sydd wedi bod yn rheoli ers 16 mlynedd. Os bydd clymblaid, gobeithi'r y gellir gwrthdroi y dirywiad yn nefnydd yr iaith. Dyma rhai o awgrymaidau gan y blaid genedlaetholgar BNG:
To promote Galician, BNG are demanding that corporations and institutions receiving grants from A Xunta (the Galician government) commit themselves to using Galician. Other measures proposed by BNG are for a 40% minimum quota of Galician on the TV and radio and an increase in cultural contacts with Portuguese-speaking countries. Portuguese and Galician were the same language in the Middle Ages and remain closely related.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:13 am | dolen | 0 sylw |

Map o 100 cenedl Ewrop

29.6.05

Dwi wedi derbyn e-bost gan Eurominority yn hysbysebu diweddariad o'u Map o Ewrop sy'n dangos pob cenedl yn hytrach na gwladwriaethau. Dim ond €10, bargen.

Gol.
Rhoddais i y ddolen www.eurominority.org uchod ond wedi clicio arno cefais fy nghyfeirio yn awtomatig at
www.eurominority.org/version/cym/ sef y fersiwn Cymraeg - Gwych. Dwi'n cymeryd mai oherwydd mod i'n defnyddio Firefox Cymraeg yw hyn a bod y gosodiad iaith 'cy' wedi ei osod arno'n awtomatig. All rhywun gadarnhau hyn?
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:15 pm | dolen | 2 sylw |

Yr Ynys Werdd? O, America ti'n feddwl?

Fel y gwyr pob Cymro (a Chymraes) dwi'n siwr, mae bod dramor neu siarad gyda rhywun o dramor a cheisio esbonio ble chi'n byw/dod o yn gallu bod yn waith caled. Braf fyddai petai Cymru a'r Cymry mor adnabyddus ag Iwerddon a'r Gywddelod meddae chi, wel nid felly yw hi yn ôl Mick Fealty o Slugger O'Toole.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:04 pm | dolen | 0 sylw |

Cael y Cae Râs yn ôl

28.6.05

O'r BBC
Mae'r gweinyddwyr or diwedd am wenud cais i gael perchnogaeth Y Cae Râs, sef maes pêl-droed CPD Wrecsam yn ôl i berchnogaeth y clwb. Dwi ddim yn credu fod y modd y trosglwyddwyd y maes i eiddo un o gwmniau eraill y perchennog presenol Alex Hamilton yn gyfreithlon beth bynnag a gobeithio bydd mynd ar peth i'r llys fel hyn yn profi hynny.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:56 am | dolen | 0 sylw |

Bar CLONC

27.6.05

Yn wrth deithio drwy ardaloedd Y Rhath a Chathays yng Nghaerdydd, dwi'n teimlo'n genfigenus o'r hoff dai coffi trendi sydd yna, yn arbennig ar hyd Whichurch Road a Woodville Road. Dwi wedi meddwl ers amser bod bwlch yn y farchnad am rai tebyg yn ardal Treganna ac or diwedd mae yna un wedi agor a braf yw gweld fod ganddo enw Cymraeg a bod y fwydlen yn ddwieithog. Er mod i'n ymwydolol o Bar CLONC (gwefan yn cael ei hadeiladu) ers tua mis, doeddwn heb fod iddo nes dydd Gwener diwethaf. Cefais Caramel Slice bendigedig i gyd-fynd â fy nghoffi.

Ar y cownter oedd dau rifyn o gylchrawn newydd i mi o'r enw CFUK sef cylchrawn (neu litzine) am lenyddiaeth o Gymru, sy'n cael ei gyhoeddi gan Parthian. Does dim gwefan yn arbennig ar gyfer y cylchgawn eto (mond dau rifyn sydd wedi bod) logo aflwyddiannus Consrevative Future wedi ceisio defnyddio, sydd braidd yn anffodus. Ffocws y cylchgrawn yw llenyddiaeth Cymreig cyfrwng Saesneg ac roedd cynnwys y rhifyn cyntaf yn trafod hanas traddodiad ysgriffenu 'Urban' Cymreig gan sôn am lyfrau ac awduron o'r 80'au a'r 90'au nad oeddwn wedi clywed amdanynt or blaen.
Dyma rai awduron a theitlau:
Christopher Meredith - Shifts (1985)
Work, Sex & Rugby - Lewis Davies
Wales Half Welsh - Amrywiol (gol. John Williams)

Tagiau Technorati:



postiwyd gan Rhys Wynne, 11:33 am | dolen | 0 sylw |

Arddangosfa Pensaerniaeth 'City to World'

Mae 'City to World' sef arddangosfa blynyddol o waith myfyrwyr Ysgol Pensaerniaeth Cymru ymlaen ar hyn o bryd. Dwi heb fod eto ond dwi am fynd gobeithio.

Tagiau Technorati:


postiwyd gan Rhys Wynne, 11:13 am | dolen | 0 sylw |

Grŵp Freecycle Caerdydd

23.6.05


Newyddion da, mae yna grŵp Freecycle wedi ei sefydlu yng Nghaerydd. Ymunwch yma.

Tagiau Technorati:




postiwyd gan Rhys Wynne, 2:49 pm | dolen | 0 sylw |

Acenion ar enwau parth

22.6.05

Yn ôl erthygl yn y Guardian, mae Nominet, sef cwmni di-elw sy'n cofrestru enwau parth yn y DG yn ystyried ei gwneud hi'n bosib defnyddio llythrennau gyda acenion neu ddefnyddio llythrennau o wyddorau Groegaidd ac Arabig.

Newyddion da i Tŷ bach Twt
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:26 am | dolen | 0 sylw |

Brodorion America'n dysgu Basgeg i'r Ffrancwyr

21.6.05

Stori fach ddiddorol oddi ar livejournal David Librik.

Mae'n sôn am erthygl ddarllenodd am lwythi y Mi'kmaq a Montagnais a ddaeth i gysylltiad gyda'r Ewropeaid cyntaf (honedig!) a gyrraeddodd gogledd America. Gan fod nifer fawr o'r morwyr o Wlad y Basg, dyma'r brodorion yn dysgu tipyn o iaith y Basg er mwyn cyfnewid nwyddau. Pan gyrraeddodd cenhadwyr o Ffrainc tua canrif yn ddiweddarach (y 1600'au) dyma'r brodorion yn dechrau siarad Basgeg gyda nhw gan dybio mai dyma oedd pob dyn gwyn yn ei siarad. Roedd y Ffrancwyr wedi synnu gyda'r iaith ryfedd hon a dyma nhw'n ei astudio'n fanwl, heb blincin sylwi mai iaith oedd yn cael ei siarad o fewn ffiniau eu gwlad eu hunain ydoedd. Lembo's.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:58 am | dolen | 0 sylw |

Moniar caredig yn prynnu crys neu 92

16.6.05

Bydd rhaid i mi gymeryd popeth câs dwi wedi ddweud am bobl Ynys Môn yn ôl, wedi i berchennog cwmni adeiladu dalu £13,000 am gasgliad o grysau pêl-droed i godi arian tuag at CPD Wrecsam.
O wefan y BBC
A builder is paying £13,000 for a unique collection of 92 signed soccer shirts with the proceeds going to help save Wrexham Football Club.

Beth sy'n gwneud hyn yn fwy anhygoel y nad yw'n gefnogwr Wrecsam, ond gan ei fod yn gefnogwr rygbi brwd mae'n sylweddoli bydd colli'r Cae Râs yn golygu dim mwy o gemau rygbi safon cyntaf yn y gogledd.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:55 am | dolen | 0 sylw |

Eich ôl-traed ecolegol

Yn feunyddiol bron dwi'n pryderu am yr effaith mae fy mhatrwm byw yn ei gael ar ein planed. Ar flog Dogfael mae dolen at Ecological Footprint Quiz. Cefais tipyn o fraw wrth weld fy nghanlyniadau, gan fy mod yn ystyried fy hun yn fwy Gwyrdd na llawer o gymdeithas yn gyffredinol, dyma fy nghanlyniad:

TOTAL FOOTPRINT 4.1 Global Hectaers

IN COMPARISON, THE AVERAGE ECOLOGICAL FOOTPRINT IN YOUR COUNTRY IS 5.3 GLOBAL HECTARES PER PERSON.

WORLDWIDE, THERE EXIST 1.8 BIOLOGICALLY PRODUCTIVE GLOBAL HECTARES PER PERSON.

IF EVERYONE LIVED LIKE YOU, WE WOULD NEED 2.3 PLANETS.

Dwi'n meddwl mai'r ffaith fy mod yn teithio i'm gwaith sydd bron i 20 milltir i ffwrdd ar ben fy hun sy'n broblem. Dwi eisioes wedi cofrestru ar Liftshare a Freewheelers heb ddim lwc, ac ar fin ceisio gwefan newydd o'r enw SEWTAcarshare.

Os ydych am wneud y prawf eich hun (dwi'n awgrymmu eich bod chi), mae'n werth cofio bod 1 milltir = 1.6 KM
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:54 am | dolen | 0 sylw |

AC'au Ceidwadol yn profi'n positif i brawf cyffuriau

Cannabis test 'positive' for AMs
A Welsh assembly member who called for his colleagues to volunteer to try out a new drug detection machine has tested "positive" for cannabis himself.

Ocê, wrth ddarllen yr erthygl gyfan ar wefan y BBC, mae'n dod yn amlwg mae'n debyg mai drwy gyffwrdd handlen drws neu arain y cawsant eu 'llygru', sy'n codi'r cwestiwn o werth y peiriant yn y lle cyntaf.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:57 am | dolen | 0 sylw |

Microsoft yn helpu llywodraeth Tseina i atal blogwyr

15.6.05

O flog Leighton Andrews
Pa mor isel all cwmni Microsoft suddo? Mae erthygl yn y Guardian am sut mae Microsoft wedi datblygu meddalwedd sy'n rhwystro blogwyr yn Tseina rhag defnyddio rhai geiriau penodol a fyddai'n creu embaras i'r llywodraeth gormesol yno.
Microsoft helps China to censor bloggers

....

The American company is helping censors remove "freedom" and "democracy" from the net in China with a software package that prevents bloggers from using these and other politically sensitive words on their websites.

.....

Users who try to include such terms in subject lines are warned: "This topic contains forbidden words. Please delete them."

Geiriau eraill sy'n cael eu gwahardd yw: E "communism", "socialism", "capitalism" "Taiwanese independence", "Tibet", "Dalai Lama", "Falun Gong", "terrorism" "massacre", "demonstration", "democracy", "Tiananmen". Ni chaiff hyd yn oed enw eu Arlywydd gael ei ddefnyddio, er mae'n iawn crybwyll Tony Blair.

Erthygl yn llawn yma.

Mae'n gwneud i mi deimlo'n flin fy mod yn postio hwn ar gyfrifiadur sydd wedi ei bweru gan Microsoft, er o leiaf dwi'n defnyddio Firefox i bori'r we.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:22 am | dolen | 0 sylw |

Deddf Iaith, pa Ddeddf Iaith?

14.6.05

O wefan y BBC
Mae fel patai gwendid Deddf Iaith 1993 yn amlygu ei hun fwyfwy yn ddyddiol. Y diweddara yw anfodlonrwydd Adran Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon y Llywodaraeth canolog i ddarparu ffurflenni Trwyddedu Cymraeg. Mae eu rhesymau fel rhywbeth fyddech yn ddisgwyl eu clywed yn dod o fedd yr Arglwydd Tonypandy:
Mewn datganiad, dywedodd Adran Diwylliant San Steffan eu bod "yn ystyried cynhyrchu ffurflenni Cymraeg" ond bod "problemau ymarferol ynglŷn â sut y gall pobl ddi-Gymraeg ddeall cais Cymraeg".

Chwarae teg i dafarnwyr fel John Les Tomos, sy'n cadw tafarn Y Dderwen yn Yr Hendre, ger Yr Wyddgrug, a thafarn cymunedol o Lanuwchlyn sy'n mynd i wrthod llenwi'r ffurflen uniaith Saesneg.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:57 am | dolen | 0 sylw |

Brie o Gymru

13.6.05

Dwi ddim yn fentrus ofnadwy pan mae'n dod i gaws ond dwi'n hoff iawn o Brie. Gan fy mod yn ceisio peidio prynnu bwydydd o dramor, fy unig opsiwn oedd Brie o Wlad yr Haf sydd ar gael mewn archfarchnadoedd, hynny yw tan ddoe. Tra'n straffaglu trwy ganol Caerdydd pnawn ddoe yn chwilio am babell newydd, y peth diwethaf oeddwn angen ar ôl bolied o Gyri ym Marchnad Glan-yr-afon oedd cawr o ddyn yn myneddfa Duke Arcade yn gofyn os hoffem flasu caws o'i siop newydd sef Madame Fromage. Dwi'n rhagweld bydd Sarah yn gwario llawer iawn o'n harian yma, ond roeddwn yn falch o ddarganfod Perl Wen sef caws organig tebyg i Brie o Gymru.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:01 am | dolen | 1 sylw |

Arolwg blogiau

10.6.05

Wedi derbyn e-bost heddiw gan foi o'r enw Mark Brady. Tua mis yn ôl roedd neges ar flog Sue Charman yn gofyn i flogwyr gymeryd rhan yn arolwg Mark Brady, sy'n fyfyriwr. Dyma'n fras yw disgrifiad yr arolwg.
My name is Mark Brady and I'm currently undertaking a PhD at the University of Essex. I'm interesting in blogging and how reputation spreads in the blogosphere. To that end, I've constructed this online questionnaire to gather a first wave of data. The questionnaire should take no more than 20 minutes, and you need to be a blogger to answer it. Please email the URL of the questionnaire to any other bloggers you know, or even post the URL on your own blog.

Dwi wedi cwbwlhau'r arolwg ac mae'n cymeryd llai na 5 munud mewn gwirionedd. Mae opsiwn gennych i fod yn ddi-enw, neu gallwch roi eich cyfeiriad e-bost os ydych yn fodlon cymeryd rhan mewn arolwg pellach.

Dyma ddolen at yr arlowg:
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:14 pm | dolen | 0 sylw |

Welshpedia

Er bod croeso i unrhywun o Gymru gyfrannu at y Wikipedia Saesneg, dwi wastad wedi meddwl ei fod yn llai tebygol o gael pwyslais Cymreig na Wicipedia. Ta beth ymddengys bod ffasiwn beth a Welshpedia.

oddi ar A Welsh View
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:51 am | dolen | 0 sylw |

Tîm Pêl-Droed Prydeinig

O wefan y BBC
Wales mindful of GB football team

Wales have given a guarded response to British Olympic officials' plans to field a combined British football team if the 2012 Games are held in London.

The FA of Wales says its position is closer to that of Scotland, who fear a British team could lose the "national identity" of the home nations.

FAW secretary general David Collins said: "We would obviously wish to protect the four British positions.

"We will cross that bridge if London or Paris' Olympic bid is successful."

The Welsh, like the Scots, are worried that a British team would threaten the position of the individual home nations within world football.

Does dim diddordeb gyda fi yn yr Olympics gan nad yw Cymru'n cael cystadlu fel cenedl, a hefyd does dim llawer o ddiddordeb gyda fi yn y campau beth bynnag. Pêl-droed yw fy hoff chwaraeon o bell ffordd ac mae'r syniad o dim Prydeinig yn fy mhoeni er mai dim ond ar gyfer un cystadleuaeth y bydd o.

Dwi newydd feddwl, pam fod Gogledd Iwerddon yn rhan o dim Prydain Fawr? Mae Gogledd Iwerddon yn dechnegol yn rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Yn amlwg ni chaiff Cymru gystadlu nes mae'n rhydd, onid felly dylsai tîm sy'n cynnwys Cymru, Yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon ddim cael ei alw'n 'Tîm IwCê' yn hytrach na 'Tîm JîBî? Sôn am ddryswch!
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:08 am | dolen | 0 sylw |

Uncyclopedia

9.6.05

Wedi cael digon ar ddarllen ffeithiau diflas a chywir Wicipedia? Os felly hwyrach bydd Uncyclopedia at eich dant. Mae'n gweithio yn union fel Wicipedia ond mae cynnwys yr erthyglau yn 'wahanol' ac ychydig bach yn tafod mewn boch.

Am Gymru
Historicaly Wales was a suburb of Atlantis that was founded by illiterate whale worshippers, wanting to name their new land after these giants of the sea but been beaten by the fact that they were illiterate. Wales was once a small collection of about 18 smaller states, the two most important being Dadlau and Rhyfel however these two state were joined together in the year 486 Since its creation the denizens of Wales have evolved from worshipping whales to worshipping Goblins and sheep instead.


Am y Cymry
Type of people having characteristics making them look like a well. Derived from 'Wellish,' because people are lazy and like using as few letters as possible. If it continues on as such, will be known as 'Welh' within 45 years.


Diolch (dwi'n meddwl) i Stuart Dickson
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:47 pm | dolen | 0 sylw |

Blogaiu Cymraeg yn cael eu crybwyll

1.6.05

Mae yna erthygl am Flogio yng Nghymru yn rhifyn diwethaf o Agenda, sef cylchgrawn Sefydliad Materion Cymreig. Yn anffodus nid yw'n bosib darllen yr erthygl ar y we ac mae'n rhaid talu £5 am gopi caled. Yn ffodus mae modd darllen rhannau o'r erthygl ar flog Peter Black AC. Er nad ydw i wedi darllen yr erthygl gyfan, dwi'n tueddu i gytuno â sylwadau'r awdur ynglyn a chynnwys blogiau Cymraeg eu hiaith o'u cymharu a blogiau Cymreig Saesneg eu hiaith, sef fod y rhai Cymraeg eu hiaith yn fwy gwleidyddol, neu'n gyffredinol yn trafod mwy ar wleidyddiaeth/pynciau llosg. Rhaid cymeryd i ystyriaeth ein sefyllfa ni fel siaradwyr Cymraeg a'r ffaith fod hyd yn oed y rhai lleiaf gwleidyddol ohonom yn gorfod brwydro'n ddyddiol bron er mwyn defnyddio'u hiaith a bod hyn yn mynd i lywio ein safbwyntiau.

[Diweddariad]

Dwi wedi derbyn copi electroneg ar ffurf PDF drwy e-bost. Os oes rhywun eisiau i mi ei anfon ymlaen atoch, anfonwch e-bost at rhyswynne [at] sgwranog [dot] com
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:28 pm | dolen | 0 sylw |