Map o 100 cenedl Ewrop
29.6.05
Dwi wedi derbyn e-bost gan Eurominority yn hysbysebu diweddariad o'u Map o Ewrop sy'n dangos pob cenedl yn hytrach na gwladwriaethau. Dim ond €10, bargen.
Gol.
Rhoddais i y ddolen www.eurominority.org uchod ond wedi clicio arno cefais fy nghyfeirio yn awtomatig at
www.eurominority.org/version/cym/ sef y fersiwn Cymraeg - Gwych. Dwi'n cymeryd mai oherwydd mod i'n defnyddio Firefox Cymraeg yw hyn a bod y gosodiad iaith 'cy' wedi ei osod arno'n awtomatig. All rhywun gadarnhau hyn?

2 sylw:
sylw gan Dafydd Tomos, 11:08 pm
Reit, dwi'n meddwl mod in dallt, petawn i ddim gyda'r opsiwn i newid fy mhorwr (Firefox, mozilla ayyb) neu fy sustem windows i'r Gymraeg (neu fy mod heb foddran gwneud) ond fy mod wedi newid fy gosodiad dewis iaith i 'cy', bydda'in dal i ymdangos yn Saesneg. Os felly, y script mae Eurominority sydd ar fai? Mae'n amlwg bod nhw wedi ceisio ei osod fel bod y darllenwr yn gweld y dudalen yn ei dewis iaith ond ddim cweit wedi llwyddo. Ydi o werth i rhywun (sy'n dallt y dalltins) sôn wrthynt?
Mae'n gweithio'n weddol ond dyw e ddim yn edrych ar y gosodiad dewis iaith mae'r defnyddiwr yn gallu newid, os er enghraifft, ydych chi'n styc ar Windows saesneg ac yn rhoi [cy] ar ben eich rhestr.