<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Nick Yarris

26.9.06

Ar raglen The Choice bore heddiw roedd Americanwr o'r enw Nick Yarris yn adrodd ei brofiadau o fod ar death row wedi iddo gael ei gyhuddo ar gam o dresio a llofruddio dynes. Mae'n debyg bod llawer wedi bod ac yn parhau i fod yn yr un sefyllfa ond ddim wedi bod mor lwcus a'r dyn hwn i gael ei ryddhau.

Dechreuodd yr holl beth yn ôl yn 1981 pan gafodd ei ddal gan yr heddlu'n gyrru o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol. Oherwydd nad oedd yn ei lawn bwyll dyma fo'n ymladd gyda'r heddwas a rhywust achosodd i dryll yr heddwas gael ei danio, ond yn ffodus ni chafodd neb eu hanafu. Roedd mewn tipyn o drwbwl wrth reswm, a thra yn y ddalfa, gyda'i ben dal ar chwal, dyma fo'n honni i'r heddlu bod ganddo wybodaeth am lofruddiaeth roedd newydd ddarllen amdano yn y papur newydd. Cyn pen dim roedd yr heddlu wedi ei gyhuddo o'r llofruddiaeth a cafodd ei ddarganfod yn euog gan reithgor er bod dim tystiolaeth cadarn i brofi'r peth. Bu yn y carchar am 22 mlynedd nes llwyddodd brofi ei fod yn ddi-euog yn dilyn datblygiad mewn techneg DNA, ond hyd yn oed wedyn gorfodwyd iddo aros yn y carchar am 6 mis arall.

Mae modd ail-wrando'r cyfweliad radio yma. Mae'n stori rhyfeddol am sut lwyddodd i gadw ei hun rhag mynd yn wallgof ac esiampl o'r anghyfiawnder mae cymaint yn eu gwynebu.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:18 am | dolen | 0 sylw |

Dolenni dros y môr

20.9.06

Ychydig o ddolenni i chi, dau ar gyfer blogiau dwi newydd ddod ar eu traws ac un am flog sydd newydd newid lleoliad.

Yn gyntaf blog Robert Humphries. Dwi eisioes wedi blogio amdano ar Dysgwyr De Ddwyrain, ond mae'n werth ei grybwyll yma rhag ofn nad ydych yn darllen y blog hwnnw. Cafodd Robert ei eni yng Nghasnewydd ond symudodd i'r UDA pan oedd yn 14 oed a fel dwi'n deall mae wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Mae safon ei Gymraeg yn wych ac mae'n blogio am bynciau diddorol fel ymfudo cynnar y Cymry i'r UDA ac hefyd ei gysylltiadau ef gyda'r pensaer Frank Lloyd Wright.

Ddoe dyma fi'n darganfod blog Osian yn Japan. Fel y gallwch ddychmygu, mae am Gymro o'r enw Osian sy'n byw yn Siapan. Mae darllen am ei brofiadau o ddysgu Saesneg i disgyblion ysgol a byw yn Siapan yn gyffredinol yn fy atgoffa o hen flog Cynog - blog teithio arall (yn Ohio, UDA) y mwynheais i'n fawr iawn.

Yn olaf, mae Americanes o'r enw Zoe (oedd arfer bod ar LiveJournal) yn mynd yn ôl i'r brifysgol, ac mae wrthi'n paratoi ei gwaith ymchwil. Dwi'n siwr bydd hi'n gwerthfawrogi eich sylwadau:
Broadly, I am interested in the use of communication in the creation, evolution, and control of online social spaces. With regards to the multilingual Internet generally, and Welsh specifically,...
, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:58 pm | dolen | 5 sylw |

Foel-fras

Foel-fras
Foel-fras,
llun gwreiddiol gan andy mcr.
Newydd ddod ar dras y llun yma yn set Eryri ar Flickr. Yn amlwg mae yna luniau tirlun llawer mwy trawiadol ond hoffais y llun hwn.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:49 pm | dolen | 0 sylw |

Drama am Frodorion Awstralia

19.9.06

Wedi ei gymeryd o North East Wales Weblog
A group of Aboriginal actors will kick-off a special Australia festival at Llangollen Royal International Pavilion.

The Yanagai! actors tell the story [Saturday, September 23, 8pm] of their people’s fight to reclaim land rights after the longest running case in Australian legal history.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:19 am | dolen | 0 sylw |

Sgwennodd y Cymry erioed unrhywbeth?

15.9.06

Dyna fydd cwestiwn estroniaid (aliens nid Saeson!) pan wnawn nhw lanio ar ein planed mewn rhai blynyddoedd wedi i ni gyd ddiflannu oherwydd rhyfel, llwgu, heintiau, boddi, crasu.......

Os bydd yna unrhywbeth o Gaedydd ar ôl, efallai gwelan nhw'r llyfrgell newydd gyda lluniau o'n hoff lyfrau arno.
Sgewnnod y Cymry erioed unrhywbeth?

Pan es i heibio hwn am y tro cyntaf, cymerais mai hysbyseb ar gyfer Waterstones oedd o gyda delweddau anferth o Bestsellers poblogaidd iaith Saeseng. Yna sylweddolias mai dyma oedd llyfrgell newydd canolog Caerdydd. Dwi ddim yn siwr os mai adeilad parhaol yw hwn neu beidio, ac felly gall y 'murlun' hwn fod dros dro hefyd, ond (fel arfer) beth darodd fi oedd absenoldeb llyfrau Cymraeg/Cymreig.

Ydw, mi ydw i'n dipyn o snob pan mae'n dod i ddiwylliant poblogaidd ac mae'n siwr mai llyfrau Dan Brown a chyfres Harry Potter yw'r rhai a fenthycwyd amlaf gan lyfrgelloedd y brifddinas. Ond oni fyddai wedi bod yn addas i gynnwys rhai o glasuron Cymru yn y ddwy iaith, fel rhai gan Islwyn Ffowc Elis neu Alexander Cordell, neu nofelau wedi eu lleoli yng Nghaerdydd fel Dyddiadur Dyn Dwad neu Cardiff Dead?

Cyfle gwych i godi ymwybyddiaeth am draddodiad llenyddol cynhenid a'i hysbysebu, wedi cael ei golli'n llwyr. Dyfalu ydw i, ond mae'n debyg gan rhyw gwmni marchnata anwybodus sy'n gyfrifol am y syniad. Ysgwn i beth yw barn Academi am hyn? Bydda'in uffern o beth hefyd os oedd talu am y frint o ddefnyddio delweddau o'r llyfrau hyn.

Post ar flog gan rhywun sy'n gweithio yn y llyfrgell canolog.

, , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:13 am | dolen | 2 sylw |

Pa mor wyrdd yw'r cymoedd nawr?

14.9.06

Walking Wales Valleys Festival yw gwyl gerdded yn Rhondda Cynon Taf. Siaradais â pherchennog Tyn-y-Wern ddoe, a hi sydd tu cefn i'r wyl a gofynodd i mi hywrddo'r ffaith bod taith trwy gyfrwng y Gymraeg ymlaen ar ddydd Llun 18fed o Fedi. Dyma ail-flwyddyn yr wyl, efallai gallai Cymdeithas Edward Llwyd gyd-weithio gyda'r wyl y flwyddyn nesaf a threfnu un o'u teithiau yn yr ardal i gyd-fynd â'r wyl? Dwi am awgrymu hyn idydnt.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:05 am | dolen | 0 sylw |

BBC Blog Network a phrotest tomen sbwriel Hafod

12.9.06

Wyddoch chi fod y fath beth a BBC Blog Network? Mae'r blogiau am wahanol themau, rhai gan gyflwynwyr, rhai gan staff newyddion, rhai am ddiddorbedau arbennig a rhai am ardaloedd. Mae BBC North East Wales Weblog yn un am ardal arbennig (sef y gogledd ddwyrain yn amlwg), hwn yw'r unig un o neu am Gymru. Does dim un yn Gymraeg er bod ambell un mewn iaith tramor (2 Persian, 1 Urdu ac 1 Arabeg).

Mae'r blog gogledd ddwyrain yn un reit da i ddwued y gwir, ac mae wedi postio tipyn am y ffaith bod awdurdodau lleol Glannau Merswy yn claddu sbwriel yn Hafod, ger Wrecsam. Yn y post diwethaf mae'n cyfeirio at blog gwych Seren (dwi'n argymell hwn) ac hefyd blog newydd o'r enw Hafod. Es i'r gogledd rhai wythnosau'n ôl i weld fy rhieni a gwylio Wrecsam yn chwarae pêl-droed. Wedi darllen y post yma am brofiadu un o'r protestwyr, dwi'n teimlo reit euog nad es i draw i'r safle. Wedi dweud hynny, byddai wedi golygu gadael tŷ fy rhieni am 6:00 yb bore i fod yno erbyn 7:00 i wynebu'r loriau, ac hefyd ble mae trigolion lleol Jonstown a Wrecsam yn ystod y protestiadau?
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:31 pm | dolen | 2 sylw |

Blog Glyn Davies AC

Gwleidydd arall yn mentro i'r byd blogio.
...and I have decided to plunge into the high risk world of the blogger. It will be my chance to take revenge on established Assembly bloggers, Peter Black and Leighton Andrews.
Mae Glyn Davies yn un o'r gwleidyddion sy'n fwyaf tebygol o ddweud beth sydd ar ei feddwl (wedi David Davies a Brynle Williams - sydd hefyd yn Geidwadwyr), felly efallai bydd yn un da. Ond mae steil ei ysgrifennu'n ymylu ar ramblo (ychydig fel un fi). Yn wahanol i Peter Black a Leighton Andrews, dwi ddim yn siwr pa mor gyfarwydd â'r byd blogio ydio, mae'n cyfeirio ar ei flgo fel 'web log' sydd ddim yn ddechreuad da!
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:13 pm | dolen | 3 sylw |

O'r diwedd

10.9.06

"The [British] Nationalists of Wales have created a monster they cannot control." Mor ifanc, mor ffiaidd.
postiwyd gan Rhys Wynne, 6:52 am | dolen | 0 sylw |

Cyffro ar Heol Senghenydd, Caerdydd

8.9.06

Newydd gael e-bost gan Sarah i ddweud bod lladrad wedi bod ar y stryd ble mae hi'n gweithio a bod y stryd ar gau a heddlu arfog o gwmpas y lle!
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:44 pm | dolen | 0 sylw |

Cadwa'r ffydd hen ffrind

Trafodaeth hir (wel mi ddwedias hir yn do) ar fforwm Urban75 am wefan newydd o'r enw www.keepingthefaith.org, sef gwefan ble gall pobl gosod eu henwau i ddangos cefnogaeth i Tony druan. Fel bydde chi'n ddisgwyl o ddyn mor uchel ei barch, mae nifer fawr o enwau wedi ymddangos yna, rhai ohonynt yn annisgwyl iawn! Mae aelodau Urban75 wedi bod am y gorau yn ceisio cael yr enwau gwiriona i ymddangos yno. Rwan mae'n rhaid i pwy bynnag sydd tu cefn i'r peth (hen ffrind i rai ohonom yn ôl rhai) yn gorfod gosod yr enwau ymlaen â llaw.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:37 am | dolen | 0 sylw |

Dylwn fod wedi gwybod yn well

6.9.06

Gadawodd ffrind i mi gopi o'i Western Mail yng nghefn fy nghar dydd Sadwrn, a gan ei bod hi'n ddiwrnod ailgylchu yn tŷ ni heddiw, dyma a fi'n ei roi yn y bag gwyrdd. Ond am ryw reswm gwirion, a dwi ddim yn gwybod pam, mynnais gael cip olwg ar y dudalen llythyrau, rhywbeth mae fy noctor a'm therapydd wedi'm rhybuddio rhag gwneud. Cefais ddim mo'n siomi:
Monarchy abolition would spell disaster
Sir - The people of the Principality have a right to know why Plaid Cymru's policy on the Monarchy would be such a disaster for them and for the future of Wales.

1. Places that get rid of Monarchy usually end up as economic or political basket cases. Monarchy is then quickly restored to regain sanity and peace.

2. Last year The Prince of Wales raised more than £110m for charity. Can anyone in their right mind see a Welsh politician or president doing the same?

3. Our Prince is a constant and reliable visionary. He set up The Prince's Trust to help the young. He saw the abandoned and acted - unlike politicians.

4. By not speaking Welsh regularly our Prince is more representative than many of these politicians. Seventy-five percent of people in Wales do not use the Welsh language.

5. Politicians serve factional interests. Impartial royalty unites us all by being above the political riffraff who tend to be two-faced back stabbers.

Why surrender these benefits to the untrustworthy practitioners of petty party politics in Wales?

NEIL WELTON,
Leader, Monarchy Wales
Hoffwn wybod
1. Beth yw polisi Plaid Cymru ar y Frenhiniaeth, oes rhywun yn gwybod beth ydi o?
2. Ydi'r dyn yma yn ei lawn bwyll?

Dyma fi'n gwglo Monarchy Wales a darganfod eu gwefan. Cefais ateb i'm dau gwestiwn:
1. Mae Plaid Cymru eisiau gwneud yn siwr mai Carlo yw'r Tywysog Cymru olaf
2. Nacydi

Cefais y wybodaeth hyn o'r adran Arhifau, sy'n honni (ymysg pethau eraill) bod polisi'r Blaid ar y Frenhiniaeth yn gyfrifol am eu perfformiad:
On Tuesday August 29th an opinion poll suggested that support for Plaid Cymru had fallen since they resurrected their policy of a referendum on the Monarchy. Plaid Cymru's poll ratings fell by 4% in the latest YouGov survey with the main beneficiary being the Conservatives who were up 5% overall. Labour was down 3% whilst the Liberal Democrats were also down by 4%.
Mae'r adran yma'n dangos sut fath o idiot ydi'r dyn yma, pam mae'n synnu wrth ddarllen yn Doomsday Book:
The Book, seen by less than 1% of the population until now, was commissioned by the King in 1085 when he was the sole landowner within his new Kingdom. The documentation reveals that great swathes of modern Wales were under his control, including Monmouthshire and Gwent, and significant parts of Powys, Clwyd and Gwynedd. Interestingly these places are officially registered as being within England...
Taw a ffycin deud! Mae'r lemon hefyd yn ymhyfrydu yn y ffaith na lwyddodd pobl oedd eisiau prynnu darn o dir yn Bryn Glas i gofio brwydr ble llwyddodd byddin Owain Glyndwr i drechu byddin Edmund Mortimer. Gorffennodd gyda
However, the campaigners were forced to admit that they had not received any replies and that their plan, like that of Glyndwr, had ultimately failed.
Arch-dwat
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:41 am | dolen | 5 sylw |

Rent Free Cornwall

Rent Free Cornwall yw blog yn rhestru tai haf ar draws Cernyw gyda'r awgrymiad y byddant yn addas ar gyfer sgwotio.
Just as property businesses make use of the law to buy and sell at a profit, working people can adhere to the law to save money, perhaps to use as a deposit on their own home, by browsing through Rent Free Cornwall and finding a comfortable, well equipped home, close to their work, family and friends.


,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:44 am | dolen | 0 sylw |

Bachgen o Brion i chwarae dros Gymru?

5.9.06

Nwydd ddarllen erthygl ar Red-Passion yn sôn am chwaraewyr Wrecsam sydd wedi bod yn rhan o garfannau tim llawn a dan-21 Cymru dros y penwythnos ac ar gyfer twrnament dan-17 yn Slovakia wythnos nesaf. Gorffenodd gyda:
Another Reds' startlet, Rhys Llwyd, is on standby.
Mae Rhys (sy'n byw cae i ffwrdd o'm rhieni) eisioes wedi chwarae i dim dan-17 Cymru dwi'n meddwl, roedd cyfweliad gyda fo yn Golwg. Byddai'n wych petai'n arwyddo'n broffesiynol gyda Wrecsam yn y blynyddoedd Wrecsam ac yna'n cynrychioli ei wlad ar lefel uwch.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:57 am | dolen | 2 sylw |

Gwyl Macs

4.9.06

Er y glaw, dyma fi'n mwynhau Gwyl Macs yn fawr iawn. Biti nad oedd ychydig mwy yno wedi i'r trefwnyr fynd i'r fath drafferth a chael line up mor wych, ond dyna ni efallai roedd y tywydd wedi rhoi rhai ffwrdd er bod popeth o dan do. Diolch i Illtyd a Mari am ddod i ddeud helo, mae'n neis cwrdd a blogwyr eraill am y tro cyntaf, ond biti na chwrddais â Chop.
Roedd fy hoff berfformiad i'n anisgwyl, dyma fi'n mynd i'r 'dance tent' ar gyfer gwrando ar MC Sleifar a Chef, a dyma fi'n clywed MC Ruffstylz a Beatbox Fozzy - roedd Fozzy yn wych. Nesi i fwynhau set Euros Childs ond teimlaf ei fod yn anhapus gyda'r sain ac ofnais byddai'n ffrwydro a dechrau contio'r peiriannydd, er wnaeth ddim amharu ar y set yn ormodol.
Gan mod i ddim yn ffansi gwersylla, dyma fi ddim yn yfed fel gallwn yrru adre diwedd y noson a gadewais ar ganol set Killa Kela. Roeddwn wedi ei glywed o'r blaen yn Compass Point a dwi mor gul doeddwn ddim awydd gwrando ar y gweddill (+ roeddwn yn cream crackered ac eisiau gweld os oedd gêm Cymru am gael ei ail-ddangos yn hwyr ar S4C)

 celf neu carreg
Dim i'w wneud a Gwyl Macs

Lluniau (digon crap) o Gwyl Macs
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:10 pm | dolen | 0 sylw |

Wikis - da i rhywbeth?

Siawns eich bod wedi clywed am Wicipedia (neu Wikipedia). Mae'r ddau'n defnyddio meddalwedd Wiki, ac mae unrhywun (yn dibynnu ar y gosodiaduau) un yn gallu cyfrannu at Wiki. Heblaw am y Wicipedia a Wikipedia, doeddwn ddim yn gallu meddwl sut fyddai wiki o ddefnydd i fi, ond dwi darganfod esiamplau diddordol.

1. Wiki Clwb Malu Cachu
Wiki ar gyfer aelodau'r CMC. Mae yna tua 800 o elaodau ar grŵp Yahoo CMC, ac mae aelodau newydd yn ymaelodi o hyd. Yn aml mae'r un cwestiynnau'n cael eu gofyn, fel "ble gallaf glywed am gerddoriaeth Cymraeg?", "pa lyfrau sydd ar gael?" a.y.y.b. a byddai gallu cyfeirio pobl at y wiki'n arbed llawer o ail-adrodd. Ychydig iawn o wybodaeth sydd arno ar hyn o bryd.

2. Cardiffpedia
Fel mae'r enw'n awgrymu, wiki ar gyfer Caerdydd. Cyfle i chi rannu gwybodaeth am eich hoff leoliadau a digwyddiadau gyda eraill.

3. CivExReno
Wiki 'Civilised Explorer' am dref Reno, wedi ei anelu'n benodol ar gyfer pobl sy'n dod i'r ardal ar gyfer mynychu'r wyl gelf Burning Man yn Black Rock Desert, Nevada.

4. Wiki Eisteddfod 2007
Dyna'r wiki diwethaf yn rhoi syniad i mi, sef creu wiki ar gyfer pob Eisteddfod Cenedlaethol. Yn un peth, gan fod yr Eisteddfod yn symudol, mae'r ardal yn newydd i'r mwyafrif helaeth o fynychwyr, ac yn ail mae gwefan swyddogol yr Eisteddfod yn sal iawn o ran gwybodaeth. Dwi fy hun yn cael trafferth dod i wybod am bopeth sy'n digwydd ar ac oddi ar y maes, heb sôn am rhywun sydd efallai'n dysgu Cymraeg, felly byddai cael un man 'agored' ble gelli'r casglu a rhannu unrhyw wybodaeth am eisteddfod a'r cyffuniau'n ddefnyddiol yn fy marn i.

Croeso i chi helpu fi (wel bydd angen sawl person i helpu). Bydd rhaid i chi fy e-bostio er mwyn cael cyfrinair i allu addasu'r wiki. Gobeithio nad ydi hyn yn gwneud i mi ymddangos fel mwy o control freak na'r Blaid Lafur, ond weithiau gall wiki gwbwl agored arwain at broblemau fel y dangosir y wiki nesaf....

5. Wiki Cytundeb Amgylcheddol gan DEFRA
Mae hyn yn synaid....erm, diddorol! Dwi am gopio a gludo'n syth o flog Peter Black
David Miliband is very keen on new technology. He has a blog, which is best read at 2am after a couple of bottles of wine. He has also launched a new initiative, an environmental contract based on a wiki, which anybody can edit - the ultimate consultation.

This is quite radical stuff for government. The danger is of course that it might be abused and lose structure. Rather inevitably that is exactly what has happened. The site has now been locked down and cannot be edited. This is the current officially sanctioned version and this is the state that it got into after numerous mischievous amendments.

Some might say that DEFRA's own fault for taking the internet so seriously, others may say that it was a brave and worthy attempt to engage with the electorate.
Syniad da, neu rhyw orchest i geisio ymddangos in touch gyda'r kidz?

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:18 am | dolen | 0 sylw |

Pêl-droediwr Cymru wedi'w garcharu

1.9.06

Mae pêl-droediwr David Partridge, sy'n chwarae i Gymru a Bristol City wedi ei garcharu am ddeufis ynghyd a dau o'i gyd chwarawyr clwb, gan gynnwys y capten.
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:04 pm | dolen | 0 sylw |

Scottishblogs a Britblog i uno

Mae'r wefan scottishblogs.co.uk a britblog.com ar fîn uno. Mae'r ddau yn fath o flogiaduron sy'n cynnwys blogiau Albanaidd ar Scottishblogs a rhai Prydeinig ar Britblog.

Pan oedd y rhithfro yn dal i gropian yn ei glytiau, roedd ambell flogiwr Cymraeg ddim yn siwr beth i'w wneud. Er fod gwefan Britblog yn a-political, mae'r enw 'Brit' ei hun yn ddigon i wneud cenedlaetholwyr a gwladgarwyr deimlo'n anghyfforddus heb sôn am y defnydd o Sioni'r Undeb a lluniau o Lord Kitchener ar y wefan. Penderfynnais i yn y diwedd y byddwn yn cynnwys fy mlogiau arno, gan nad oeddwn yn siwr sut i hyrwyddo blogiau bryd hynny. Rhaid i mi gyfaddef mod i'n dal i dderbyn ymwelydd neu ddau trwyddo, ond dim llawer.

Ers hynny mae'r rhithro wedi cynyddu llawer, hefyd dwi'n ymwybodol o ffyrdd gwahanol o hyrwyddo fy mlogiau a darganfod blogiau eraill byddwn yn hoffi. Ar ben hyn i gyd mae modd gweld degau o flogiau yn Gymraeg gyda dyfodiad Blogiadur.com (a BlogCymru.com a Welshblogs.com ar gyfer blogiau Saesneg eu hiaith).

Yna wahanol i Scottishblogs a Britblog, mae modd darllen pyst diweddaraf drwy blogiadur, tra mae'r lleill yn gweithio fel cyfeiriaduron, ond eu bod hefyd yn cynnwys rhai 'gwasanaethau' ychwanegol, ble rydych yn ymchwilio yn ôl lleoliad neu bwnc. Does dim angen gwneud hyn ar y blogiaduron Cymraeg/Cymreig efallai o herwydd y niferoedd.

Mae rhai blogwyr Albaniadd yn anhapus gyda'r syniad, am eu bod nhw'n teimlo'n anhapus iawn am y term 'Brit' yn cael ei ddefnyddio i'w disgrifio nhw. Mae Gordon, sef y person tu cefn i scottishblogs yn dweud bydd dim yn newid i'r wefan mewn gwirionedd, mond bod blogiau o'r Alban sy'n rhan o Britblog yn mynd i ymddangos ar scottishblogs a bydd yr enw a'r enw parth yn aros run fath. Ond o be dwi'n ddallt, scottishblogs wedyn fydd y rhan Albanaidd o Britblog. Rheswmeg Gordon yw bydd o a Mark (perchenog Britblog) yn gallu rhannu adnoddau a sgiliau TG, ac allwch ddim dadlau gyda hyn, hefyd tydi'r un o'r ddau yn codi am y gwasanaeth.

Oes gan bobl le i gwyno?

Fydde chi'n cwyno petai Aran yn gwneud yr un fath gyda'r Blogiadur? (dwi'n gwbod ei fod yn anhebygol)

Cododd sefyllfa tebyg unwaith pan fynodd blogiwr o Ogledd Iwerddon gael ei dynnu oddi ar wefan IrishBlogs.ie (yr un pobl tu ôl i WelshBlogs.com) am nad oedd yn ystyried ei hun yn Wyddel.

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:20 pm | dolen | 2 sylw |