<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Nick Yarris

26.9.06

Ar raglen The Choice bore heddiw roedd Americanwr o'r enw Nick Yarris yn adrodd ei brofiadau o fod ar death row wedi iddo gael ei gyhuddo ar gam o dresio a llofruddio dynes. Mae'n debyg bod llawer wedi bod ac yn parhau i fod yn yr un sefyllfa ond ddim wedi bod mor lwcus a'r dyn hwn i gael ei ryddhau.

Dechreuodd yr holl beth yn ôl yn 1981 pan gafodd ei ddal gan yr heddlu'n gyrru o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol. Oherwydd nad oedd yn ei lawn bwyll dyma fo'n ymladd gyda'r heddwas a rhywust achosodd i dryll yr heddwas gael ei danio, ond yn ffodus ni chafodd neb eu hanafu. Roedd mewn tipyn o drwbwl wrth reswm, a thra yn y ddalfa, gyda'i ben dal ar chwal, dyma fo'n honni i'r heddlu bod ganddo wybodaeth am lofruddiaeth roedd newydd ddarllen amdano yn y papur newydd. Cyn pen dim roedd yr heddlu wedi ei gyhuddo o'r llofruddiaeth a cafodd ei ddarganfod yn euog gan reithgor er bod dim tystiolaeth cadarn i brofi'r peth. Bu yn y carchar am 22 mlynedd nes llwyddodd brofi ei fod yn ddi-euog yn dilyn datblygiad mewn techneg DNA, ond hyd yn oed wedyn gorfodwyd iddo aros yn y carchar am 6 mis arall.

Mae modd ail-wrando'r cyfweliad radio yma. Mae'n stori rhyfeddol am sut lwyddodd i gadw ei hun rhag mynd yn wallgof ac esiampl o'r anghyfiawnder mae cymaint yn eu gwynebu.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:18 am

0 sylw:

Gadawa sylw