<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dolenni dros y môr

20.9.06

Ychydig o ddolenni i chi, dau ar gyfer blogiau dwi newydd ddod ar eu traws ac un am flog sydd newydd newid lleoliad.

Yn gyntaf blog Robert Humphries. Dwi eisioes wedi blogio amdano ar Dysgwyr De Ddwyrain, ond mae'n werth ei grybwyll yma rhag ofn nad ydych yn darllen y blog hwnnw. Cafodd Robert ei eni yng Nghasnewydd ond symudodd i'r UDA pan oedd yn 14 oed a fel dwi'n deall mae wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Mae safon ei Gymraeg yn wych ac mae'n blogio am bynciau diddorol fel ymfudo cynnar y Cymry i'r UDA ac hefyd ei gysylltiadau ef gyda'r pensaer Frank Lloyd Wright.

Ddoe dyma fi'n darganfod blog Osian yn Japan. Fel y gallwch ddychmygu, mae am Gymro o'r enw Osian sy'n byw yn Siapan. Mae darllen am ei brofiadau o ddysgu Saesneg i disgyblion ysgol a byw yn Siapan yn gyffredinol yn fy atgoffa o hen flog Cynog - blog teithio arall (yn Ohio, UDA) y mwynheais i'n fawr iawn.

Yn olaf, mae Americanes o'r enw Zoe (oedd arfer bod ar LiveJournal) yn mynd yn ôl i'r brifysgol, ac mae wrthi'n paratoi ei gwaith ymchwil. Dwi'n siwr bydd hi'n gwerthfawrogi eich sylwadau:
Broadly, I am interested in the use of communication in the creation, evolution, and control of online social spaces. With regards to the multilingual Internet generally, and Welsh specifically,...
, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:58 pm

5 sylw:

Diolch am y dolenni, Rhys! Dw i wastad yn hapus ffeindio blogwyr Cymraeg eraill yn yr UDA.
sylw gan Blogger Sarah Stevenson, 4:46 pm  

Diolch Rhys am y dolenni.
sylw gan Blogger Tom Parsons, 5:29 pm  

Ie, diolch Rhys am y dolen i fi! Hefyd am y dolenni eraill.
sylw gan Blogger Zoe, 6:22 pm  

Diolch Rhys am y dolenni ac am gyflwyno fy mlog i'r Rhithfro.
Oes modd ychwanegu'r blogiau yma i'r blogiadur - arnai ofn os nad yw yno yna dwi'm yn debyg o gofio amdanynt.
sylw gan Blogger Aled, 9:26 am  

Gadawa sylw