<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dylwn fod wedi gwybod yn well

6.9.06

Gadawodd ffrind i mi gopi o'i Western Mail yng nghefn fy nghar dydd Sadwrn, a gan ei bod hi'n ddiwrnod ailgylchu yn tŷ ni heddiw, dyma a fi'n ei roi yn y bag gwyrdd. Ond am ryw reswm gwirion, a dwi ddim yn gwybod pam, mynnais gael cip olwg ar y dudalen llythyrau, rhywbeth mae fy noctor a'm therapydd wedi'm rhybuddio rhag gwneud. Cefais ddim mo'n siomi:
Monarchy abolition would spell disaster
Sir - The people of the Principality have a right to know why Plaid Cymru's policy on the Monarchy would be such a disaster for them and for the future of Wales.

1. Places that get rid of Monarchy usually end up as economic or political basket cases. Monarchy is then quickly restored to regain sanity and peace.

2. Last year The Prince of Wales raised more than £110m for charity. Can anyone in their right mind see a Welsh politician or president doing the same?

3. Our Prince is a constant and reliable visionary. He set up The Prince's Trust to help the young. He saw the abandoned and acted - unlike politicians.

4. By not speaking Welsh regularly our Prince is more representative than many of these politicians. Seventy-five percent of people in Wales do not use the Welsh language.

5. Politicians serve factional interests. Impartial royalty unites us all by being above the political riffraff who tend to be two-faced back stabbers.

Why surrender these benefits to the untrustworthy practitioners of petty party politics in Wales?

NEIL WELTON,
Leader, Monarchy Wales
Hoffwn wybod
1. Beth yw polisi Plaid Cymru ar y Frenhiniaeth, oes rhywun yn gwybod beth ydi o?
2. Ydi'r dyn yma yn ei lawn bwyll?

Dyma fi'n gwglo Monarchy Wales a darganfod eu gwefan. Cefais ateb i'm dau gwestiwn:
1. Mae Plaid Cymru eisiau gwneud yn siwr mai Carlo yw'r Tywysog Cymru olaf
2. Nacydi

Cefais y wybodaeth hyn o'r adran Arhifau, sy'n honni (ymysg pethau eraill) bod polisi'r Blaid ar y Frenhiniaeth yn gyfrifol am eu perfformiad:
On Tuesday August 29th an opinion poll suggested that support for Plaid Cymru had fallen since they resurrected their policy of a referendum on the Monarchy. Plaid Cymru's poll ratings fell by 4% in the latest YouGov survey with the main beneficiary being the Conservatives who were up 5% overall. Labour was down 3% whilst the Liberal Democrats were also down by 4%.
Mae'r adran yma'n dangos sut fath o idiot ydi'r dyn yma, pam mae'n synnu wrth ddarllen yn Doomsday Book:
The Book, seen by less than 1% of the population until now, was commissioned by the King in 1085 when he was the sole landowner within his new Kingdom. The documentation reveals that great swathes of modern Wales were under his control, including Monmouthshire and Gwent, and significant parts of Powys, Clwyd and Gwynedd. Interestingly these places are officially registered as being within England...
Taw a ffycin deud! Mae'r lemon hefyd yn ymhyfrydu yn y ffaith na lwyddodd pobl oedd eisiau prynnu darn o dir yn Bryn Glas i gofio brwydr ble llwyddodd byddin Owain Glyndwr i drechu byddin Edmund Mortimer. Gorffennodd gyda
However, the campaigners were forced to admit that they had not received any replies and that their plan, like that of Glyndwr, had ultimately failed.
Arch-dwat
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:41 am

5 sylw:

Mae sylwadau gwrth-Gymreig y twpsyn yna'n ddigon i wneud fy ngwaed i'n berwi. Wedi treulio hanner fy mywyd mewn gweriniaeth fawr a lwyddianus, (ond sy ddim yn berffaith ac sy'n cael ei broblemau ei hunan), dw i'n methu gweld y pwynt o fonarchiaeth heddiw. Fy syniad (sy'n werth dim, achos dw i ddim yn byw yng Nghymru, ond dyma fi'n sefyll ar focs sebon), yw creu rhyw fath o arlywydd neu brif weinidog etholedig efo'r teitl "tywysog" fel y "taoiseach" yng Ngweriniaeth Iwerddon. Dydy'r "Tywysog Cymru" presennol ddim ond symbol o goncwest ac yn wrth-ddemocratiadd hefyd.
Does dim modd cael dadl go iawn am y frenhiniaeth yma yng Nghymru (na Lloegr chwaith dybiwn i).

Ateb rhan fwyaf i'r awgrymiad o gael gwared o Frenhiniaeth yw "Beth, a chael rhywun fel George Bush yn rheoli'r wlad? Dim diolch!"

Mae'r safbwynt yma'n naif ofnadwy ac yn gwbwl di-sail. Yn gyntaf Tony Blair sy'n rholi'r wlad beth bynnag ac o dan y sustem bleidleisio bresenol dyna yw canlyniad democratiaith.

Mae model Iwerddon yn ymddangos yn un synhwyrol yn fy marn i. Dwi'n meddwl mai Taoiseach yw teitl eu Prif Weinidog nhw sy'n arwain eu Senedd, ond mae pobl y Weriniaeth hefyd yn ethol Arlywydd sy'n an-wleidyddol i gynrychioli'r wlad dramor mewn seremoniau. Fel rheol mae'r person yma yn intelctual gyda chefndir mewn academia, iawnderau dynol a.y.y.b.

Tristwch o'r mwyaf yw gweld symbol y Tri Plu'n cael ei ddefnyddio cymaint yn ne Cymru'n bennaf gan pobl sy'n falch o'u Cymreictod - nid ydynt yn deall y symboliaeth tu cefn i'r peth.

Tydi pethau fel hyn ddim yn helpu.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 6:21 pm  

A dyma fi, yn ragrithiwr go iawn, yn gwisgo tri plu ar fy nghrys rygbi! Fe ddylwn i fod wedi gwybod yn well! Ac fe ddylwn i newid fy nghrys (sy'n dweud "Wales," nid Cymru)!

Yn y gorffennol, roeddwn i'n hapus i alw fy hun yn Brydeinig. Sais yw fy llys-dad, ac mae gen i deulu yng Nghymru a Lloegr. Dw i'n dod o gefndir di-Gymraeg ac mae mwyafrif o'r teulu (dim syndod) o blaid monarchiaeth.

Fe wnes i ymweld a^ Chymru ym mis Ionawr ac roedd fy ewyrth yn gwylio'r rygbi ar y teledu. "Dw i'n cefnogi Cymru yn gyntaf, ac os nad ydyn nhw'n chwarae, dw i'n cefnogi Lloegr," meddai, yn Saesneg wrth gwrs.

A dyma fi'n cefnogi unrhyw di^m sy'n chwarae yn erbyn Lloegr.

Mae'r fam yng nghyfraith yn meddwl fe ddylwn i ddyfod yn fwy o Americanwr. Americanes yw fy ngwraig ac Americanes yw fy merch fach (dw i'n ceisio dysgu Cymraeg iddi), ond ar hyn o bryd, dw i'n hapus iawn i fod yn Gymro.

Ar bwnc gwahanol, sut wyt ti'n gosod dyddiadau Cymraeg ar dy flog? Dydw i ddim yn gallu weld unrhyw ddewis Cymraeg ar Blogger.
Mae'n anffodus bod y tri plu yn ymddangos ar grys rygbi Cymru (ar ar grys fy hoffi dim pél-droed, sef Wrecsam) - dyna pam dwi erioed wedi prynnu cyrs y ddau.

Does dim opsiwn i newid Blogger i'r Gymraeg, ond mae rhywun o'r enw Aled wedi dyfeisio côd, sy'n galluogi'r peth. Mae cyfarwyddiadau i'w cael yma:
http://del.icio.us/rhyswynne/blogger

Os nad wyt yn gyfarwydd gyda hwarae gyda côd, HTML etc, *Cymer ofal*. Cyn gwneud unrhyw newidiadau i dy batrymlun (template), copy a paste y gosodiad presenol a'i arbed yn WordPad neu debyg yn gyntaf - rhag ofn i ti wneud camgymeriad.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:11 am  

Diolch, Rhys!

Gadawa sylw