<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Scottishblogs a Britblog i uno

1.9.06

Mae'r wefan scottishblogs.co.uk a britblog.com ar fîn uno. Mae'r ddau yn fath o flogiaduron sy'n cynnwys blogiau Albanaidd ar Scottishblogs a rhai Prydeinig ar Britblog.

Pan oedd y rhithfro yn dal i gropian yn ei glytiau, roedd ambell flogiwr Cymraeg ddim yn siwr beth i'w wneud. Er fod gwefan Britblog yn a-political, mae'r enw 'Brit' ei hun yn ddigon i wneud cenedlaetholwyr a gwladgarwyr deimlo'n anghyfforddus heb sôn am y defnydd o Sioni'r Undeb a lluniau o Lord Kitchener ar y wefan. Penderfynnais i yn y diwedd y byddwn yn cynnwys fy mlogiau arno, gan nad oeddwn yn siwr sut i hyrwyddo blogiau bryd hynny. Rhaid i mi gyfaddef mod i'n dal i dderbyn ymwelydd neu ddau trwyddo, ond dim llawer.

Ers hynny mae'r rhithro wedi cynyddu llawer, hefyd dwi'n ymwybodol o ffyrdd gwahanol o hyrwyddo fy mlogiau a darganfod blogiau eraill byddwn yn hoffi. Ar ben hyn i gyd mae modd gweld degau o flogiau yn Gymraeg gyda dyfodiad Blogiadur.com (a BlogCymru.com a Welshblogs.com ar gyfer blogiau Saesneg eu hiaith).

Yna wahanol i Scottishblogs a Britblog, mae modd darllen pyst diweddaraf drwy blogiadur, tra mae'r lleill yn gweithio fel cyfeiriaduron, ond eu bod hefyd yn cynnwys rhai 'gwasanaethau' ychwanegol, ble rydych yn ymchwilio yn ôl lleoliad neu bwnc. Does dim angen gwneud hyn ar y blogiaduron Cymraeg/Cymreig efallai o herwydd y niferoedd.

Mae rhai blogwyr Albaniadd yn anhapus gyda'r syniad, am eu bod nhw'n teimlo'n anhapus iawn am y term 'Brit' yn cael ei ddefnyddio i'w disgrifio nhw. Mae Gordon, sef y person tu cefn i scottishblogs yn dweud bydd dim yn newid i'r wefan mewn gwirionedd, mond bod blogiau o'r Alban sy'n rhan o Britblog yn mynd i ymddangos ar scottishblogs a bydd yr enw a'r enw parth yn aros run fath. Ond o be dwi'n ddallt, scottishblogs wedyn fydd y rhan Albanaidd o Britblog. Rheswmeg Gordon yw bydd o a Mark (perchenog Britblog) yn gallu rhannu adnoddau a sgiliau TG, ac allwch ddim dadlau gyda hyn, hefyd tydi'r un o'r ddau yn codi am y gwasanaeth.

Oes gan bobl le i gwyno?

Fydde chi'n cwyno petai Aran yn gwneud yr un fath gyda'r Blogiadur? (dwi'n gwbod ei fod yn anhebygol)

Cododd sefyllfa tebyg unwaith pan fynodd blogiwr o Ogledd Iwerddon gael ei dynnu oddi ar wefan IrishBlogs.ie (yr un pobl tu ôl i WelshBlogs.com) am nad oedd yn ystyried ei hun yn Wyddel.

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:20 pm

2 sylw:

Don i'm yn gwbod bo na gymaint o bobl yn blogio yn Albaneg (=Albanian) ar Scottishblogs! :)
sylw gan Anonymous Anonymous, 11:40 am  

Wps, Albanaidd yw'r term am Cymraeg am Scottish.

Anghofiais sôn am Tirnamblog, sef blogiau mewn Gaeleg yr Alban.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:51 am  

Gadawa sylw