BBC Blog Network a phrotest tomen sbwriel Hafod
12.9.06
Wyddoch chi fod y fath beth a BBC Blog Network? Mae'r blogiau am wahanol themau, rhai gan gyflwynwyr, rhai gan staff newyddion, rhai am ddiddorbedau arbennig a rhai am ardaloedd. Mae BBC North East Wales Weblog yn un am ardal arbennig (sef y gogledd ddwyrain yn amlwg), hwn yw'r unig un o neu am Gymru. Does dim un yn Gymraeg er bod ambell un mewn iaith tramor (2 Persian, 1 Urdu ac 1 Arabeg).
Mae'r blog gogledd ddwyrain yn un reit da i ddwued y gwir, ac mae wedi postio tipyn am y ffaith bod awdurdodau lleol Glannau Merswy yn claddu sbwriel yn Hafod, ger Wrecsam. Yn y post diwethaf mae'n cyfeirio at blog gwych Seren (dwi'n argymell hwn) ac hefyd blog newydd o'r enw Hafod. Es i'r gogledd rhai wythnosau'n ôl i weld fy rhieni a gwylio Wrecsam yn chwarae pêl-droed. Wedi darllen y post yma am brofiadu un o'r protestwyr, dwi'n teimlo reit euog nad es i draw i'r safle. Wedi dweud hynny, byddai wedi golygu gadael tŷ fy rhieni am 6:00 yb bore i fod yno erbyn 7:00 i wynebu'r loriau, ac hefyd ble mae trigolion lleol Jonstown a Wrecsam yn ystod y protestiadau?

2 sylw:
sylw gan Chris Cope, 8:07 pm
Mae sawl is-wefan 'Lleol i Mi' Cymraeg ar wefan y BBC gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd ac Aberdâr yn y de ddwyrain. Ond dwi ddim yn 100% os dwi o blaid rhaingan bod llai o bobl wedyn yn debygol o ddechrau gwefannau annibynol lleol.
Ond, i ddweud y gwir, fe welais i posting yn y Western Mail wythnos diwethaf am gynhyrchydd gwefan Gymraeg lleol BBC (dw i'n anghofio'r ardal). Felly, efallai mae nhw'n gweithio ar y peth.