<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Damia, pam nes i ddim meddwl am yr enw yna

30.8.06

Tra'n chwilio am fanylion cwrs dyma fi'n dod ar draws blog newydd o'r enw Datblogu gan Daniel Cunliffe, sy'n uwch ddarlithydd yn yr adran Gwyddorau Cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae'r wefan wedi ei gynnal ar Glamorgan Blogs
Daniel Cunliffe muses about minority languages online, IT and language planning, the Welsh language and technology, design, blogging and wikis – among other things.
Dwi'n edrych ymlaen i weld beth sydd ganddo i'w ddweud gan fod diddordeb mawr ganddo yn nefnydd yr iaith Gymraeg ar y wê er nad yw'n rhugl yn yr iaith ei hun.
Mewn un post mae'n cwestiynnu cywirdeb/perthnasedd cynnwys erthygl Wikipedia am yr Iaith Gymraeg. Yn benodol y paragraff canlynol:
"Welsh has a substantial presence on the Internet, but this is strongly biased towards public bodies: the ratio of search engine hit frequencies for Welsh words to their English equivalents tends to be about 0.1% for formal terms such as addysg (education), cymdeithas (society) or llywodraeth (government), but only about 0.01% for everyday terms such as buwch (cow), eirlaw (sleet) or cyllell (knife)."
Fel mae'n digwydd mae llawer o drafod ynglyn â chywirdeb yr ertthygl gyfan yn cymeryd lle yma. I ymateb i'r canlynol mae Telsa'n pwyntio allan pa mor anodd yw gwneud cymhariaeth deg.
This has been in the article for months and months and has bothered me too. I have just tried to reproduce the results. It has taken a lot longer than I expected, because of course you have to search on all the mutated forms too (this makes an amazing difference to cyllell and especially cymdeithas), and remember to exclude results on Wikipedia, and so on. I am starting to lose count of zeros so I am giving up now. But I can't reproduce the same figures. I am not sure how good these pairs of words are anyway. "Cow" in English is a noun, a verb, and a term of abuse. Buwch.. isn't. "Sleet" is one of the terms in the METAR tables, and these weather reports are propagated, duplicated and syndicated (in English) all across the web, including news and tourist sites (they got in my way once, so I remember this :)) so there is some extra representation there. I can't find out where it came from originally.
O'r drafodaeth hyn mae'n dod yn amlwg faint o waith sy'n cael ei wneud tu ôl i'r lleni gan wirfoddolwyr yn ceisio gwneud yn siwr bod y wybodaeth am y Gymraeg yn gywir, yn aml gan ddysgwyr, tra bod ni Gymry Cymraeg yn brysur yn malu cachu ar maes-e!

, , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:40 am | dolen | 5 sylw |

Wel dyma i chi fap!

24.8.06



Wedi ei gymeryd o stori ar wefan y BBC am glud dŵr o Gymru i dyfrhau Lloegr.

, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:37 am | dolen | 0 sylw |

Gall fod wedi bod yn fi

23.8.06

Tra'n bwyta fy swper nos sul, dyma fi'n gwrando ar y newyddion dyma fi'n clywed am deithwyr awyren o Malaga i Fanceinion oedd yn gwrthod hedfan gan eu bod yn ofni bod dau wr o dras Asiadd oedd yn cyd-deithio â nhw yn derfysgwyr. Beth oedd wedi gwneud iddynt amau y ddau? Wel roedd nhw'n dawel, yn edrych ar eu horiawr, yn gwisgo siwmper ac yn siarad iaith a allai fod yn Arabeg (ond cofiwch 'Brits Abroad' oedd rhain ar ddiwedd eu gwyliau yn Sbaen, felly gallwch ddychmygu pa mor eang yw eu gwybodaeth o ieithoedd!). Yn y diwedd fe ddaeth heddlu lleol ar yr awyren a mynd a'r ddau ddyn oddi ar yr awyren a'u cwestiynnu, cafodd pawb arall hedfan adre ychydig oriau'n hwyr tra bu rhaid i'r ddau ddyn 'amheus' aros yn Sbaen.

Allai ddim credu i'r fath beth ddigwydd, ond beth synnod fi oedd sut roedd y rhaglenni newyddion wedi cyflwyno'r stori. Fel arfer pan mae rhwybeth wedi digwydd mae'r rhaglen newyddion yn cyfweld pobl yn eu cartrefi wedi'r digwyddiad ble maen't yn ail-adrodd eu ordeal. I mi, y dioddefwyr oedd y ddau ŵr a gafodd eu cyhuddo o fod yn derfysgwyr dim ond oherwydd lliw eu croen a'r iaith y siaradent, ond llwyddodd y rhaglen newyddion bortreadu'r teithwyr eraill fel y dioddefwyr.

Fel arfer pan dwi'n teithio ar awyren bydda i'n dawel ac yn edrych ar fy oriawr yn rheolaidd, dwi byth yn edrych yn gwisgo'n drwsiadus a dwi'n siarad iaith estron - yn ffodus dwi'n wyn fel y galchen.

Dyma ddolen at fideo o'r cyfweliad ar y BBC
Rhaid ymweld â'r stori ar y Daily Mail am gasgliad angrhedadwy o dyfyniadau.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:09 am | dolen | 0 sylw |

Blogio cenedlaetholgar/gwleidyddol

21.8.06

Dau flog newydd dwi hab gael amser i'w darllen eto yw Gog with a Blog a Plaid 4 Maldwyn.

Mae'r un cyntaf yn un newydd gyda'r is-deitl 'News and Views with a Nationalistic Twist from Gogledd Ddwyrain Cymru'. Dwi'n hoffi ei graffeg trawiadol. Mae'r ail un gan David Thomas, ymgeisydd Plaid Cymru yn Maldwyn, ac ame wedi bod yn mynd ers mis Awst, ond pam nad yw'n hyrwyddo'r blog yn nunlle ar y ŵe?

Dwi ddim yn gwbod os yw un o'r ddau awdur yn gallu siarad Cymraeg, ond yn Saesneg mae'r ddau flog.
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:11 pm | dolen | 1 sylw |

Yr Eisteddfod ar City Hippy

16.8.06

Mae Ella Rabaiotti o Organic Jac, wedi cyfrannu post at y blog gwyrdd City Hippy am Gelf Gwyrdd yn yr Eisteddfod.

, , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:35 pm | dolen | 0 sylw |

Welsh for a week eating challenge!

14.8.06

Dim i'w wneud â Welsh in a Week na The Big Welsh Challenge, ond cyfres wythnos ar BBC Wales you Eat Welsh for a Week ble bydd y gohebydd Hywel Griffiths a theulu ifanc o Fro Morgannwg ond yn bwyta bwyd o Gymru.

Syniad da am raglen yn fy marn i, petawn wedi gybod amdano'n gynt byddai wedi bod yn hwyl ceisio gwneud yr un peth dros yr un cyfnod - er gallwn ddechrau unrhywbryd wrthgwrs, mond bod eisiau ychydig o baratoi o flaen llaw. Dwi'n meddwl bydd yna ddau beth amlwg yn dod o hyn sef:
  1. Byddai rhaid gwneud heb rai pethau yn gyfan gwbwl am nad ydynt ar gael yng Nghymru o gwbwl
  2. Bod hi'n bosib cael ystod eang o gynnyrch o Gymru petai rhywun yn gwneud mymryn o ymdrech i chwilio
Bydd dolen at ddyddiadur Hywel Griffiths o'r ddolen uchod, ac mae Diwrnod 1 yn dechrau'n wael gan fod Hywel yn hoffi Banana a phaned o goffi i'w frecwast!
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:06 pm | dolen | 4 sylw |

Wedi'r Eisteddfod

Treuliais mwy o amser ar y maes eleni nag ydw i erioed wedi gwenud, gan ymweld ar 4 diwrnod. Chefais i ddim llawer o gyfle i wneud beth oeddwn eisiau ar y dydd Sadwrn cyntaf oherwydd
Dois yn ôl i'r Eisteddfod Dydd Iau, Gwener a Sadwrn, yn bennaf er mwyn hyrwyddo fy ngwefan jobscymraeg.com. Cefais ymateb da gan lawer o'r sefydliadau a siaradais gyda, a gobeithiaf weld ychydig o swyddi newydd yn ymddangos arno'r wythnos hyn.

Ond uchafbwynt yr Eisteddfod i mi oedd y blog-gwrdd. Unai syniad fi neu Rhodri Nwdls oedd y blog-gwrdd ac wrth 'gynllunio'r' cwrdd ar maes-e, dwi'n sicr mae rhywbeth anffurfiol oedd mewn golwg, ond wedi i griw mawr (wel lot fwy na'r disgwyl) gyrraedd roedd pawb fel petai nhw'n disgwyl i rhywun gymeryd arweiniad o'r peth. Trodd llygaid pawb ataf fi, felly dyma fi'n dechrau rwdlan am beth oeddwn i eisiau trafod, ac yn ffodus ymunodd pedwar neu bump arall yn y drafodaeth. Yn ogystal a blogio bu rhai'n cymharu eu profiadau o ddefnyddio gwahanol wefannau rhwydweithio cymdeithasol ac esbonio i eraill beth oeddynt a sut roeddynt yn gweithio. Y prif rai i bobl siarad amdanynt oedd: Blogger, Flickr, Technorati, YouTube, del.icio.us a LibraryThing, (a dwi'n siwr llwyddais i grybwyll Tagzania yn rhywle) ond hefyd trafodwyd gwefannau nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanynt fel Second Life (rhyfedd!) a sawl un arall nad ydw i'n cofio.

Hanner ffordd trwy'r cwrdd dyma fi'n sylweddoli nad oedd pawb yn nabod eu gilydd felly dyma fi'n cael pawb i ddweud eu henwau ac enw eu blog. Yn bresenol oedd:
Kamikaze Cymru, Ray Diota, Chris, Rhodri, Mr Gasyth, Nic, Joss, Wierdo, Dogfael, Mair, Geraint, Mei, Telsa a fi. Roedd yna hefyd ddau ddarllenwr blogiau yno'n gwrando ac hefyd Rhys, Gruff a Dewi o Ganolfan Bedwyr.
Waw, roedd 17 person yno! Ymddiheuriadau lu os dwi wedi anghofio rhywun.
Gallen i fod wedi aros ymlaen a sgwrsio ymhellach, ond gan bod cymaint yn digwydd ar faes yr Eisteddfod roedd llawer angen gadael am 3:00. Roeddwn wedi bwriadu tynnu llun o bawb, ond gadewis fy nghamra yn y maes pebyll, yn ffodus fe dynnodd Dogfael a Mair ambell lun - felly cadwch olwg am y tag bloggwrdd ar Flickr ;-)

Hoffwn fod wedi siarad mwy am tagio, blogio'n saesneg, gwneud arian o'r wê a gweld beth yw potensial meddalwedd nad yw'n cael ei ddefnyddio lawer yn Gymraeg fel Wiki's er engrhaifft*.

Cyn y blog-gwrdd bues yn siarad âg ambell aelod o Gymdeithas Meddalwedd Gymraeg. Mae'r Gymdeithas wedi bodoli rwan ers 12 mis ac yn awyddus i ehangu aelodaeth, gan gynnwys blogwyr. Bydd y Gymdeithas yn cyfarfod eto yn mis Tachwedd (o bosib ym Mangor) , efallai bydd cyfle cael blog-gwrdd bryd hynny i gyd-fynd â'r peth, ond dwi'n amau os daw blogwyr i Fangor yn arbennig ar gyfer blog-gwrdd, oherwydd bod y mwyafrif ohonynt unai'n byw yn ardal Aberystwuth neu Gaerdydd - cawn weld. Dyma Gruff yn dangos i mi gwefan Enwau Cymru ac Archif Melville Richards.

Prynnais lwyth o lyfrau a chychgronnau a dwi heb gael amser i ddarllen dim un eto!


* Synniad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2007 a 2008 yw Wikisteddfod. Mae'r syniad yn haeddu post ei hun dwi'n meddwl.

Gol.
Wedi dechrau wiki Eisteddfod 2007 - gwerthfawrogi'r unrhyw fewnbwn/gyfraniad

, , , , , , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:28 am | dolen | 3 sylw |

Brigdonni ar Faes yr Eisteddfod

9.8.06

Diolch i Peter Black am fy ngwneud i'n ymwybodol o'r 'Peiriant Brigdonni' ym Mhabell Cynogr Abertawe ar faes yr Eisteddfod.


Rhywbeth arall i'w ychwanegu ar fy rhestr: Pethau i'w gwneud yn yr Eisteddfod

,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:51 am | dolen | 3 sylw |

Beth sy'n mynd ymlaen yn..

8.8.06

...Catalonia a Gwlad y Basg?

Ers rhai misoedd dwi wedi bod yn darllen y canlynol drwy fy rhestr Bloglines

O Gatalonia
thebadrash.com, Nicholas Mead a Catalonia, Politics and Supply Chain, sydd yn Saesneg a Dyddlyfr y Bachan Main sy'n Gymraeg.

Mae'r pedwar blogiwr yn ysgrifennu o blaid yr iaith Gatalaneg a o blaid hunan-reolaeth i'r genedl. Bydd sydd efallai'n rhyfedd yw mai Saeson (neu pobl o Loegr o leaif) yw'r ddau blogiwr cyntaf, a Chymru yw'r un olaf. Mae llawer o beth sy'n cael ei ddweud yn ymateb i ymosodiadau neu honiadau y erbyn siaradwyr yr iaith Gatalaneg, sef eu bod yn elitaidd ac yn 'gwthio eu iaith ar eraill' - swnio'n gyfarwydd.
Yn y post hwn mae Ian Llorens [sll?] yn adrodd ei brofiad un diwrnod yn ninas Barcelona:
Once again, I was able to verify personally that all those lies spread by the biased media, (Libertad Digital, some contibutors to Barcelona Reporter, ABC, El Mundo, etc.) have absolutely no foundation. This is my experience of one day as a customer in Barcelona:

Lunch - El Balanci - waitress: Portuguese - I started ordering in Catalan - Waitress replied in Spanish – I switched to Spanish
Dinner – Ciutat Comtal - waiter: Filipino - I started ordering in Catalan - Waiter replied in Spanish – I switched to Spanish
Police Station (for national ID renewal) – policeman: Castilian, probably from Valladolid or Burgos – I asked my question in Catalan – Policeman replied in Spanish – I continued asking in Spanish
Airport security – screener: from South America, probably Peru – She asked me to remove my laptop and belt in Spanish. – I obeyed in Catalan.

O Wlad y Basg
Euskal Blog sy'n rhoi dolenni at bob math o ethyglau sy'n ymddangos ar y wê yn Saesneg am Wlad y Basg, boed am wleidyddiaeth, bwyd, celf neu gerddoriaeth. Mae weithiau'n rhoi ei farn ei hun (gan gymeryd mae dyn ydi o) ar rai pynciau gwleidyddol.
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:09 pm | dolen | 3 sylw |

Gwleidyddion yn blogio

Yn araf bach mae gwleidyddion medrus Cymru (peidiwch chwerthin) yn dechrau blogio. Tydw i ddim yn ystyried pleidleisio i'r Ceidwadwyr nag i Blaid Unoliaethol Llafur Newydd, ond dyma'r dolenni at eu blogiau.

Ceidwadwyr:

Mae Dylan Jones Evans ymgeiswyr y blaid yn Aberconwy yn cadw blog personol/busnes ble mae'n bennaf yn sôn am economi Cymru ac hefyd am ei brofiadau'n rhedeg cwmni ei hun. Roedd wedi dechrau blog ar gyfer etholaeth Aberconwy ar yr un pryd, ond does dim golwg o hwn rwan a dwi'n amau bydd yn defnyddio un blog o hyn ymlaen i ddau bwrpas. Does dim dadlau bod Dylan Jones Evans yn un digon galluog ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu y blog.

Mae rhywun yn tueddu poeni pan mae pobl ifanc yng Nghymu'n cefnogi'r Ceidwadwyr, ond mae Aberystwyth Conservative Future yn un digon difyr a dyw'r awdur ddim ofn beirinaidu'r blaid o bryd i'w gilydd.

Llafur Newydd:
Fel gallwch ddisgwyl does dim llawer o sylwedd i'r rhain.
Blog Alun Pugh: Uchafbwyntiau fel rhoi hysbys i Tesco ond hefyd fel rhywun sy'n hoff o feicio mae'n cyfeirio at lwybrau beicio a cherdded newydd yn ei etholaeth. I fod yn deg i Alun Pugh, ac unrhyw aelod cabinet sy'n blogio mae'n rhaid bod yn ofalus wrth flogio, ond os yw eich pyst yn ymdebygu gormod i ddatganiadau i'r wasg, bydd dim llawer yn ei ddarllen.

Mae blog Martin Eaglestone ( ymgesiydd Arfon) yn gymharol newydd ond gall ddisgyn i'r un trap ag un Alun Pugh.
Ei dig cyntaf yw at drethdalwyr Gwynedd am gwyno pan wnaethant dderbyn llythyr gan y cyngor oedd yn llawn gwallau iaith. Pan glywais y sdori am y tro cyntaf, teimlais nad oedd eisiau mynd i'r wasg gyda'r peth (er ni gafodd y swyddog ei enwi hyd y gwela i), ond ar y llaw arall pam ddylai siaradwyr Cymraeg dderbyn gwasaneth eil-radd. Byddai rhywun o Landudno yr un mor debygol o ysgrifennu llythyr o gwyn at Gynogr Conwy petai nhw derbyn llythyr yn Saesneg gyda'r un math o wallau dwi'n siwr, ond byddai hyn byth yn gwneud stori da i'r Daily Post.

Iaith y blogs
Ychydig o Gymraeg sy'n ymddangos ar y blogiau uchod, ac ar flogiau Llafur Newydd y mae'r rheini. Mae Martin Eaglestone yn tueddu gorffen ei byst gyd brawddeg yn Gymraeg, tra mae Alun Pugh yn cynnwys rhyw air yma ac acw. Fy marn i yw mai peth personol yn y bôn yw blogio felly dylai fod yn yr iaith yr ydych fwya cyfforddus ynddo, ond ar y llaw arall os ydych eisiau dennu darllenwyr a'ch bod yn ffigwr cyhoeddus, byddai'n gwneud synnwyr cymeryd i ystyriaeth beth yw dewis iaith eich darpar darllenwyr.
-Mae Arfon wedi ei leoli yn y sir gyda'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a dychmygaf byddai canran Arfon ei hun uwch.
-Alun Pugh yw'r Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg ac mae canran uchel o'i etholaeth yn siaradwyr Cymraeg.
-Mae Dylan Jones Evans yn siaradwr Cymraeg iaith Cyntaf (yn wahanol i'r ddau uchod dwi'n meddwl) ac mae yna canran sylweddol o'i etholoeth o'n siaradwyr Cymraeg hefyd.

Nid gwleidyddol efallai, ond dwi wedi bod yn dilyn blog Rhuthun/Ruthin sydd wedi bod yn mynd ers dros flwyddyn yn cadw golwg ar dref Rhuthun wrth i agoriad Tesco newydd y dref agosau. Mae'r blog wedi bod yn cynnwys adroddiadau'r wasg gan y cwmni, busnesau bychain lleol a'r cyhoedd, ac hefyd cyfweliadau gyda staff siopau Somerfield a Co-op sydd ond o fewn ychydig fetrau i'r Tesco newydd. Agorwyd y siôp yr wythnos diwethaf, ysgwn i beth fydd dyfodol y blog ac yn bwysicach fyth beth fydd dyfodol tref Rhuthun?

, , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:51 am | dolen | 4 sylw |

Beth i'w wneud yn Abertawe?

7.8.06

Mae Blog Heb Enw wedi rhestru ei hoff orielau, siopau a llefydd bwyta yn Abertawe ar ein cyfner ni sy'n debygol o ymweld â'r lle tra yn yr Eisteddfod eleni. Rhyw 4/5 gwaith dwi di bod i Abertawe ers i mi fyw yn ne Cymru, unwaith am drip diwrnod gyda Sarah, un am gyfweliad a dwywaith i wylio pêl-dreod, felly prin dwi'n nabod y lle - bues i'r Mymbls unwaith ar outing gyda staff Cyllid y Wlad.

Dwi efallai am fynd i Abertwae ar y dydd Gwener. Os gai gyfle dwi am fynd i oriel newydd o'r enw Celfi ac i Canolfan yr Amgylchedd. (Diolch i Organic Jac am y dolenni)

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:09 pm | dolen | 0 sylw |

'Byd Technoleg' - Cylchgrawn TG newydd

Ar faes yr Eisteddfod heddiw bydd cylchgrawn newydd yn cael ei lawnsio gan Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg (CMC). Enw'r cylchgrawn yw Byd Technoleg ac mae'n cynnwys erthyglau byr am wahanol ddatblygiadau technolegol. Er mai CMC sy'n ei gynhyrchu, nid am feddalwedd yn unig bydd yn sôn ac ni fydd yn rhy dechnegol.

Pan ddarllenais am y cylchgrawn am y tro cyntaf mewn erthygl gan Ping Wales, dyma fi'n cysylltu â'r Gymdeithas i weld os oeddynt â diddordeb cynnwys erthygl am Tagzania yn Gymraeg ac hefyd soniais am jobscymraeg.com. Dwi'n falch o ddweud bod Delyth wedi cynnwys erthygl am jobscymraeg.com a dwi'n fawr obeithio bydd llawer yn darllen y cylchgrawn a caf ddigonedd o gyhoeddusrwydd yn sgil yr erthygl.

Cefais gyfle i ddarllen yr cylchgrawn dydd Sadwrn a bu'm yn ei drafod gyda aelod o CMC. Roeddwn wedi'm plesio gyda'i gynnwys a'i edrychiad er mai mond ar raglen cyhoeddi penddesg oeddynt wedi ei ddylunio ac argraffu. Awgrymais byddai cyhoeddi ar ffurf blog yn caniatau i bobl adael sylw ar erthyglau ond nid pawb sy'n darllen newyddion ar y wê eto, felly bydd fersiwn papur yn dal yn angenrheidiol i ledaenu'r neges ymysg Cymry Cymraeg. Mae taflen adborth yn y cylchgrawn i weld ar ba ffurff (os o gwbwl) hoffai pobl weld y cylchgrawn yn parhau, felly os welwch gopi, cofiwch ei gwbwlhau.

Mae Cyfarfod Cyffredinol CMC ymlaen y prynhawn yma hefyd a byddwn wedi hoffi ei fynychu. Mae'r Gymdeithas yn awyddus i unrhywn sy'n berchen ar wefan neu sy'n ymwneud a meddalwedd yn y cartref neu'r gweithle i ymuno â nhw. Ar hyn o bryd mae aelodaeth am ddim.

, , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:36 am | dolen | 0 sylw |

Debenhams v Iestyn ap Rhobert

4.8.06



Un peth yw paentio slogannau, ond mae'n debygyb bod Cymdeithas yr Iaith wedi newid tagteg y tro hwn: Cymdeithas yr Iaith yn tynnu arwydd datblygiad mawr Saesneg Debenhams.

Bydd achos llys Debenhams v Iestyn ap Rhobert ar y 30ain o Awst
Ym mis Mehefin fe arestiwyd Iestyn ap Rhobert o Langadog a'i gyhuddo o ddifrod troseddol am dynnu arwydd uniaith Saesneg enfawr sy'n dynodi safle datblygiad newydd Debenhams yn nhre Caerfyrddin.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:20 am | dolen | 1 sylw |

Blog-gwrdd Eisteddfod 2006

1.8.06

Blog-gwrdd yn ystod yr Eisteddfod ym mhabell Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg, ar b'nawn Sadwrn y 12fed o Awst. Edefyn Maes-e amdano.


Diolch i Rhys Llwyd am y poster

, , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:32 am | dolen | 0 sylw |