<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Welsh for a week eating challenge!

14.8.06

Dim i'w wneud â Welsh in a Week na The Big Welsh Challenge, ond cyfres wythnos ar BBC Wales you Eat Welsh for a Week ble bydd y gohebydd Hywel Griffiths a theulu ifanc o Fro Morgannwg ond yn bwyta bwyd o Gymru.

Syniad da am raglen yn fy marn i, petawn wedi gybod amdano'n gynt byddai wedi bod yn hwyl ceisio gwneud yr un peth dros yr un cyfnod - er gallwn ddechrau unrhywbryd wrthgwrs, mond bod eisiau ychydig o baratoi o flaen llaw. Dwi'n meddwl bydd yna ddau beth amlwg yn dod o hyn sef:
  1. Byddai rhaid gwneud heb rai pethau yn gyfan gwbwl am nad ydynt ar gael yng Nghymru o gwbwl
  2. Bod hi'n bosib cael ystod eang o gynnyrch o Gymru petai rhywun yn gwneud mymryn o ymdrech i chwilio
Bydd dolen at ddyddiadur Hywel Griffiths o'r ddolen uchod, ac mae Diwrnod 1 yn dechrau'n wael gan fod Hywel yn hoffi Banana a phaned o goffi i'w frecwast!
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:06 pm

4 sylw:

Waw, mae'n syniad da!
sylw gan Blogger Tom Parsons, 5:06 pm  

Wsos o fara brith a gwymon?

Iiiiiiiiiiiiiiiych!!!!!





:-D
sylw gan Blogger Hogyn o Rachub, 9:07 am  

Tyrd rwan, defnyddia ychydig mwy ar dy ddychymyg! ;-)

Brains
Real Crisps
Picau ar y Maen (Welsh Cakes)
Iogwrt Llaeth y Llan
Brechdannau Cig Moch (gyda menyn go iawn)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 10:12 am  

Be' am cig oen ag eidion Môn?
sylw gan Blogger Tom Parsons, 2:37 pm  

Gadawa sylw