<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gwleidyddion yn blogio

8.8.06

Yn araf bach mae gwleidyddion medrus Cymru (peidiwch chwerthin) yn dechrau blogio. Tydw i ddim yn ystyried pleidleisio i'r Ceidwadwyr nag i Blaid Unoliaethol Llafur Newydd, ond dyma'r dolenni at eu blogiau.

Ceidwadwyr:

Mae Dylan Jones Evans ymgeiswyr y blaid yn Aberconwy yn cadw blog personol/busnes ble mae'n bennaf yn sôn am economi Cymru ac hefyd am ei brofiadau'n rhedeg cwmni ei hun. Roedd wedi dechrau blog ar gyfer etholaeth Aberconwy ar yr un pryd, ond does dim golwg o hwn rwan a dwi'n amau bydd yn defnyddio un blog o hyn ymlaen i ddau bwrpas. Does dim dadlau bod Dylan Jones Evans yn un digon galluog ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu y blog.

Mae rhywun yn tueddu poeni pan mae pobl ifanc yng Nghymu'n cefnogi'r Ceidwadwyr, ond mae Aberystwyth Conservative Future yn un digon difyr a dyw'r awdur ddim ofn beirinaidu'r blaid o bryd i'w gilydd.

Llafur Newydd:
Fel gallwch ddisgwyl does dim llawer o sylwedd i'r rhain.
Blog Alun Pugh: Uchafbwyntiau fel rhoi hysbys i Tesco ond hefyd fel rhywun sy'n hoff o feicio mae'n cyfeirio at lwybrau beicio a cherdded newydd yn ei etholaeth. I fod yn deg i Alun Pugh, ac unrhyw aelod cabinet sy'n blogio mae'n rhaid bod yn ofalus wrth flogio, ond os yw eich pyst yn ymdebygu gormod i ddatganiadau i'r wasg, bydd dim llawer yn ei ddarllen.

Mae blog Martin Eaglestone ( ymgesiydd Arfon) yn gymharol newydd ond gall ddisgyn i'r un trap ag un Alun Pugh.
Ei dig cyntaf yw at drethdalwyr Gwynedd am gwyno pan wnaethant dderbyn llythyr gan y cyngor oedd yn llawn gwallau iaith. Pan glywais y sdori am y tro cyntaf, teimlais nad oedd eisiau mynd i'r wasg gyda'r peth (er ni gafodd y swyddog ei enwi hyd y gwela i), ond ar y llaw arall pam ddylai siaradwyr Cymraeg dderbyn gwasaneth eil-radd. Byddai rhywun o Landudno yr un mor debygol o ysgrifennu llythyr o gwyn at Gynogr Conwy petai nhw derbyn llythyr yn Saesneg gyda'r un math o wallau dwi'n siwr, ond byddai hyn byth yn gwneud stori da i'r Daily Post.

Iaith y blogs
Ychydig o Gymraeg sy'n ymddangos ar y blogiau uchod, ac ar flogiau Llafur Newydd y mae'r rheini. Mae Martin Eaglestone yn tueddu gorffen ei byst gyd brawddeg yn Gymraeg, tra mae Alun Pugh yn cynnwys rhyw air yma ac acw. Fy marn i yw mai peth personol yn y bôn yw blogio felly dylai fod yn yr iaith yr ydych fwya cyfforddus ynddo, ond ar y llaw arall os ydych eisiau dennu darllenwyr a'ch bod yn ffigwr cyhoeddus, byddai'n gwneud synnwyr cymeryd i ystyriaeth beth yw dewis iaith eich darpar darllenwyr.
-Mae Arfon wedi ei leoli yn y sir gyda'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a dychmygaf byddai canran Arfon ei hun uwch.
-Alun Pugh yw'r Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg ac mae canran uchel o'i etholaeth yn siaradwyr Cymraeg.
-Mae Dylan Jones Evans yn siaradwr Cymraeg iaith Cyntaf (yn wahanol i'r ddau uchod dwi'n meddwl) ac mae yna canran sylweddol o'i etholoeth o'n siaradwyr Cymraeg hefyd.

Nid gwleidyddol efallai, ond dwi wedi bod yn dilyn blog Rhuthun/Ruthin sydd wedi bod yn mynd ers dros flwyddyn yn cadw golwg ar dref Rhuthun wrth i agoriad Tesco newydd y dref agosau. Mae'r blog wedi bod yn cynnwys adroddiadau'r wasg gan y cwmni, busnesau bychain lleol a'r cyhoedd, ac hefyd cyfweliadau gyda staff siopau Somerfield a Co-op sydd ond o fewn ychydig fetrau i'r Tesco newydd. Agorwyd y siôp yr wythnos diwethaf, ysgwn i beth fydd dyfodol y blog ac yn bwysicach fyth beth fydd dyfodol tref Rhuthun?

, , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:51 am

4 sylw:

Diolch am hwnna - mae un Eaglestone yn Bloglines fi rwan.
sylw gan Blogger Mei, 2:36 pm  

Mwynha dy hun yn ei ddarllen! Wyt ti am ddon i'r blog-gwrdd?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:40 pm  

Odw glei!
sylw gan Blogger Mei, 12:50 pm  

Diolch am y cyfeiriad at flog Alun Piw - rhyfeddol!!!
sylw gan Blogger pigogyn, 8:59 pm  

Gadawa sylw