<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



'Byd Technoleg' - Cylchgrawn TG newydd

7.8.06

Ar faes yr Eisteddfod heddiw bydd cylchgrawn newydd yn cael ei lawnsio gan Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg (CMC). Enw'r cylchgrawn yw Byd Technoleg ac mae'n cynnwys erthyglau byr am wahanol ddatblygiadau technolegol. Er mai CMC sy'n ei gynhyrchu, nid am feddalwedd yn unig bydd yn sôn ac ni fydd yn rhy dechnegol.

Pan ddarllenais am y cylchgrawn am y tro cyntaf mewn erthygl gan Ping Wales, dyma fi'n cysylltu â'r Gymdeithas i weld os oeddynt â diddordeb cynnwys erthygl am Tagzania yn Gymraeg ac hefyd soniais am jobscymraeg.com. Dwi'n falch o ddweud bod Delyth wedi cynnwys erthygl am jobscymraeg.com a dwi'n fawr obeithio bydd llawer yn darllen y cylchgrawn a caf ddigonedd o gyhoeddusrwydd yn sgil yr erthygl.

Cefais gyfle i ddarllen yr cylchgrawn dydd Sadwrn a bu'm yn ei drafod gyda aelod o CMC. Roeddwn wedi'm plesio gyda'i gynnwys a'i edrychiad er mai mond ar raglen cyhoeddi penddesg oeddynt wedi ei ddylunio ac argraffu. Awgrymais byddai cyhoeddi ar ffurf blog yn caniatau i bobl adael sylw ar erthyglau ond nid pawb sy'n darllen newyddion ar y wê eto, felly bydd fersiwn papur yn dal yn angenrheidiol i ledaenu'r neges ymysg Cymry Cymraeg. Mae taflen adborth yn y cylchgrawn i weld ar ba ffurff (os o gwbwl) hoffai pobl weld y cylchgrawn yn parhau, felly os welwch gopi, cofiwch ei gwbwlhau.

Mae Cyfarfod Cyffredinol CMC ymlaen y prynhawn yma hefyd a byddwn wedi hoffi ei fynychu. Mae'r Gymdeithas yn awyddus i unrhywn sy'n berchen ar wefan neu sy'n ymwneud a meddalwedd yn y cartref neu'r gweithle i ymuno â nhw. Ar hyn o bryd mae aelodaeth am ddim.

, , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:36 am

0 sylw:

Gadawa sylw