<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Beth sy'n mynd ymlaen yn..

8.8.06

...Catalonia a Gwlad y Basg?

Ers rhai misoedd dwi wedi bod yn darllen y canlynol drwy fy rhestr Bloglines

O Gatalonia
thebadrash.com, Nicholas Mead a Catalonia, Politics and Supply Chain, sydd yn Saesneg a Dyddlyfr y Bachan Main sy'n Gymraeg.

Mae'r pedwar blogiwr yn ysgrifennu o blaid yr iaith Gatalaneg a o blaid hunan-reolaeth i'r genedl. Bydd sydd efallai'n rhyfedd yw mai Saeson (neu pobl o Loegr o leaif) yw'r ddau blogiwr cyntaf, a Chymru yw'r un olaf. Mae llawer o beth sy'n cael ei ddweud yn ymateb i ymosodiadau neu honiadau y erbyn siaradwyr yr iaith Gatalaneg, sef eu bod yn elitaidd ac yn 'gwthio eu iaith ar eraill' - swnio'n gyfarwydd.
Yn y post hwn mae Ian Llorens [sll?] yn adrodd ei brofiad un diwrnod yn ninas Barcelona:
Once again, I was able to verify personally that all those lies spread by the biased media, (Libertad Digital, some contibutors to Barcelona Reporter, ABC, El Mundo, etc.) have absolutely no foundation. This is my experience of one day as a customer in Barcelona:

Lunch - El Balanci - waitress: Portuguese - I started ordering in Catalan - Waitress replied in Spanish – I switched to Spanish
Dinner – Ciutat Comtal - waiter: Filipino - I started ordering in Catalan - Waiter replied in Spanish – I switched to Spanish
Police Station (for national ID renewal) – policeman: Castilian, probably from Valladolid or Burgos – I asked my question in Catalan – Policeman replied in Spanish – I continued asking in Spanish
Airport security – screener: from South America, probably Peru – She asked me to remove my laptop and belt in Spanish. – I obeyed in Catalan.

O Wlad y Basg
Euskal Blog sy'n rhoi dolenni at bob math o ethyglau sy'n ymddangos ar y wê yn Saesneg am Wlad y Basg, boed am wleidyddiaeth, bwyd, celf neu gerddoriaeth. Mae weithiau'n rhoi ei farn ei hun (gan gymeryd mae dyn ydi o) ar rai pynciau gwleidyddol.
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:09 pm

3 sylw:

Mae'r fideo o Pau Casals ar y 'Catalanity Test' ym mlog Llorens yn wefreiddiol!
sylw gan Blogger pigogyn, 9:04 pm  

Newydd ail-ddarllen y post uchaf ac mae'n llawn gwallau teipio dwi'n synnu bod neb wedi ei ddeall. Dwi heb weld y fideo ti'n cyfeirio ato - ydi o yn yr archif rhywle?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:04 am  

I speak 9 languages, but unfortunately I do not speak "Cymraeg".
However I have to agree with pigogwr that Pau Casals' videoclip at the United Nations was thrilling.
And thanks for the link.
sylw gan Blogger ian llorens, 1:04 am  

Gadawa sylw