<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gall fod wedi bod yn fi

23.8.06

Tra'n bwyta fy swper nos sul, dyma fi'n gwrando ar y newyddion dyma fi'n clywed am deithwyr awyren o Malaga i Fanceinion oedd yn gwrthod hedfan gan eu bod yn ofni bod dau wr o dras Asiadd oedd yn cyd-deithio â nhw yn derfysgwyr. Beth oedd wedi gwneud iddynt amau y ddau? Wel roedd nhw'n dawel, yn edrych ar eu horiawr, yn gwisgo siwmper ac yn siarad iaith a allai fod yn Arabeg (ond cofiwch 'Brits Abroad' oedd rhain ar ddiwedd eu gwyliau yn Sbaen, felly gallwch ddychmygu pa mor eang yw eu gwybodaeth o ieithoedd!). Yn y diwedd fe ddaeth heddlu lleol ar yr awyren a mynd a'r ddau ddyn oddi ar yr awyren a'u cwestiynnu, cafodd pawb arall hedfan adre ychydig oriau'n hwyr tra bu rhaid i'r ddau ddyn 'amheus' aros yn Sbaen.

Allai ddim credu i'r fath beth ddigwydd, ond beth synnod fi oedd sut roedd y rhaglenni newyddion wedi cyflwyno'r stori. Fel arfer pan mae rhwybeth wedi digwydd mae'r rhaglen newyddion yn cyfweld pobl yn eu cartrefi wedi'r digwyddiad ble maen't yn ail-adrodd eu ordeal. I mi, y dioddefwyr oedd y ddau ŵr a gafodd eu cyhuddo o fod yn derfysgwyr dim ond oherwydd lliw eu croen a'r iaith y siaradent, ond llwyddodd y rhaglen newyddion bortreadu'r teithwyr eraill fel y dioddefwyr.

Fel arfer pan dwi'n teithio ar awyren bydda i'n dawel ac yn edrych ar fy oriawr yn rheolaidd, dwi byth yn edrych yn gwisgo'n drwsiadus a dwi'n siarad iaith estron - yn ffodus dwi'n wyn fel y galchen.

Dyma ddolen at fideo o'r cyfweliad ar y BBC
Rhaid ymweld â'r stori ar y Daily Mail am gasgliad angrhedadwy o dyfyniadau.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:09 am

0 sylw:

Gadawa sylw