<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Nadolig Llawen gan Tesco

23.12.05


Mae cyd-weithraig i mi yn hynod falch gan fod ei mab hynaf sy'n 16 oed wedi cael gwaith dros dro yn y Tesco's lleol dros gyfnod y nadolig. Mae o wrth gwrs wrth ei fodd, dyme ei swydd gyntaf a bydd wedi hel tipyn o arian i'w wario yn y sêls yn y flwyddyn newydd.

Yn anffodus i'w cymydog sy'n 20 oed ac wedi bod yn gweithio'n llawn amser yn yr un cangen o Tesco, mae hi wedi clywed nad oes dim gwaith iddi hi dros yr un cyfnod ond byddant yn ei hail-gyflogi eto diwedd mis Ionawr. Basdads.

Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:21 am | dolen | 3 sylw |

Cwis

21.12.05

Pwy ddywedodd hyn, ac am bwy?
The [gair coll] are contemptuous of Wales and would much rather try to control us with out of touch, right-wing, England-based Secretaries of State.

Wedi dyfalu eto?
Cliw fach i chi - gan wleidydd o Gymru'n gwneud hwyl am ben hollt yn y blaid arall ynglŷn a'u safbwynt at ddatganoli.

Ateb yma
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:07 pm | dolen | 0 sylw |

Nid Digon Dawnsio ar y Sgwar: John Grindell

20.12.05

Tra'n mynd drwy ystadegau'r blog byma fi'n dod at draws gwefan 'StiwdioJG' sef gwefan John Grindell. Arno mae tudalen gyda ambell gerdd yn ieithoedd Gaeleg yr Alban a'r Gernyweg, ac hefyd cyfieithiad Cymraeg - maen't yn werth eu darllen.
"Hallo stranger" meddai'r dyn yn y Bont ar Wlan (tafarn) ond estron yw'r iaith sydd ar ei dafod ef!

Mae mynd i Gernyw fel bod mewn ystafell dyn marw - mi ellwch weld y pethau oedd yn perthyn iddo, ond nid yw'r enaid yna ac anghofiedig yw'r dyn.

Dwi wedi clywed ei enw o'r blaen on does dim syniad gyda fi pa fath o gerddoriaeth mae'n gynhyrchu. Wrth gwglo dyma fi'n dod ar draws post gan Dafydd amdano sy'n arwydd da i mi, ac efallai gai gyfle rhywbryd i wrando ar y 3 trac mae Dafydd wedi osod ar ei flog.

Prosiect: Effaith y Saeson
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:12 am | dolen | 2 sylw |

Ti'n boen yn y tîn

19.12.05

Dwi ddim yn siwr yn union beth i'w wneud o'r post hwn gan gyfranwr at Gair Rhydd (papur myfyrwyr Prifysgol Caerdydd), ble mae'n sôn mae hen grachen polisi iaith yr undeb wedi ccael ei chrafu unwaith eto, gyda un person yn cwyno am y diffyg Cymraeg yn y papur a'r awgrym fod hyn yn groes i'r ddeddf iaith. Tydw i ddim yn meddwl bod papurau myfyrwyr yn dod o dan y ddeddf iaith, ond efallai ei fod yn dod o dan bolisi/gynllun iaith yr Undeb Myfyrwyr.

Es i ddim i Brifysgol Caerdydd, ond gan fod fy nghariad yn gweithio yno, dwi'n cael cip ar ambell gopi nawr ac yn y man. Gwir mai prin yw'r cynnwys yn Gymraeg, ond deallaf bod ategolyn Cymraeg o'r enw Taf-Od, ac fel mae awdur y blog yn dweud mae cynnwys hwn yn ddibynnol ar gyfraniadau gan fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg. Fy nghwyn i am ei gynnwys yw ei fod mor Seisnig ei naws (ond wedyn mae myfyrwyr o Loegr yn ganran mor uchel o boblageth myfyrwyr y brifysgol does fawr o syndod).

Dwi'n un da i siarad ond mae neges y post yn aneglur braidd. Mae'r awdur yn dweud ar un llaw ei fod yn cyd-ymdeimlo gyda'r diffyg cyfleodd i ddefnyddio'r Gymraeg gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith o fewn yr Undeb a pha mor anghyson yw y geeli'r darllen pob poster yn ddwyieithog tra na elli'r archebu peint yn Gymraeg yn y 'Taf', ond ar y llaw arall mae o'r farn:
We must cater for the majority – after all, that’s how democracy is supposed to work – and the sad fact remains that in Wales only a quarter of the population speaks Cymraeg.

Wedyn mae'n gorffen gan ddweud ei fod wedi prynnu llyfryn i ddysgu Cymraeg.

Christopher, if you find your way here, a translation may be visable on my other blog depending on how fast the translation department works. In the meantime I hope your copy of ‘Teach Yourself Welsh’ has arrived, but why not take advantage of Cardiff Uiversity's excellent Welsh Language Teaching Centre?
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:20 pm | dolen | 6 sylw |

Tydi'r Rhithfyd yn fach

Dyma fi wedi dod ar draws flog Cymraeg newydd (i mi) eto drwy fy rhestr Bloglines. Gan mai un ar gyfer Eglwys Gellimanwydd, Rhydaman ydi o, doeddwn ddim yn meddwl y byddai o ryw ddiddordebmawr i mi, heblaw am y ffaith fod y post diweddaraf yn cynnwys llun o Yncl Myrddin, cefnder fy nain!
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:13 pm | dolen | 0 sylw |

Nadelik Lowen

14.12.05

Na, nid arwydd diweddaraf ar gasgliad Scymraeg, ond y gair Kernewek (Cernyweg) am Nadolig Llawen ac hefyd cwrw arbennig ar gyfer tymor y nadolig gan gwmni bragu Sharps. Dyma fues i'n ei yfed (yn gymhedrol) yn y Mochyn Du neithiwr, ond y fath gywilydd, er mai mond dau beint a hanner ges i dwi di bod fel llo dwry'r dydd.

Tagiau Technorati: , , ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:59 pm | dolen | 0 sylw |

Killer Coke

Dyma baragraff cyntaf o e-bost a dderbyniais gan Campaign to Stop Killer Coke:
New York University (NYU), the largest private university in the country with over 50,000 students and 16,000 employees, becomes the 12th college or university in the United States, and at least the 20th worldwide, to have taken strong economic action against The Coca-Cola Co. by banning the sale and marketing of Coke products on campus
.
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:05 pm | dolen | 1 sylw |

Gwefan Adam Walton (DJ Radio Wales)

8.12.05

Mae gwefan Adam Walton wedi newid ychydig ers i mi ymweld ddiwethaf. Mae'n dweud bod blog arno, ond dio ddim yn edrych yn un da iawn. Mae sesiwn gan Poppies ar y sioe nesaf (Nos Sul yr 11eg) a Fernhill ar y 18fed. O edrych ar restr recordiau y sioe diwethaf fe chwaraeodd draciau Cymraeg gan TOPPER, ALUN TAN LAN, JAKOKOYAK, RADIO LUXEMBOURG ac EUROS CHILDS.
Sawl cân Gymraeg o'r 10 mlynedd diwethaf chwaraeir ar Radio Cymru yn ur un slot sgwn i?

Mae restr gigs ar ei wefan hefyd, ond am heno mae'n dweud:
Thu 8th Dec '05
TONIGHT'S GIGS
There is nothing happening tonight.

Ond yn ôl Curiad roedd:
Frizbee, Bob
Undeb Myfyrwyr, Aberystwyth
Nos Iau, Rhagfyr 8, 8pm
Pris: £6 (£8 - gostyngiad UMCA)
Noson Sŵn. Elw tuag at rag UMCA

C'mon bandiau Cymraeg Cymru, mae'r dyn yn amlwg yn hoffi bandiau Cymraeg (clywais o'n chwarae 'Defaid' gan BOB un noson), ceisiwch hwrio'ch eich hunain yn well!
postiwyd gan Rhys Wynne, 4:44 pm | dolen | 0 sylw |

Llwybrau Cerdded, sir Caerffili (mapiau + disgrifiadau)

Ar wefan Caerphilly Tourism Association mae modd lawr-lwytho dogfennau PDF ar gyfer 6 taith yn y sir, sy'n cynnwys map OS manwl o'r daith, disgrifiadau a nodweddion y daith ac yn bwysicach fyth manylion y tafarndai lleol.

Y chwech taith yw:

1 - 'Medieval Magic and Magnificent Mountains' - Taith Crib Mynydd Caerffili a Rhydri

2 - 'Ponds, Peace and Perspective' - Pac Gwledig Pwll Pen Y Fan i Manmoel

3 - 'A Ridge with a View' - Parc Gwledig Cwm Sirhowy i Fynydd Machen

4 - 'Up and Away' - Parc Cwm Darran a Chwm Darran

5 - 'Tip Top Twyn!' Parc Penallta i Eglwysilian

6 - 'Coal, Celts and Contrasts' - Twmbarlwm a Thaith Gerdded Cwmcarn

Gallwch ymuno â rhai teithiau tywysedig ar hyd y llwybrau uchod yn y flwyddyn newydd. Manylion yma (PDF).


Tagiau: , ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:21 pm | dolen | 0 sylw |

Parallel Wales: Lluniau o'r UDA o drefi gyda enwau Cymreig

7.12.05

Parallel Wales yw casgliad o luniau o wahanol trefi a phentrefi yn nhaleithiau Pennsylvania, Delawre a Maryland sydd âg enwau Cymraeg/Cymreig.
Tra'n yr UDA mi fues i Cardiff a Bethesda (ond un gwahanol, sef maesdref yn Washington DC). Mae gan Cardiff a'r pentref cyfagos sef Delta arwyddion stryd gwyrdd gyda draig goch ar bob un. Dwn i'm beth oedd ar fy mhen i ond wnes i ddim tynnu llun yr un ohonynt, na'r arwydd sy'n eich croesawu i'r lle, ond yn ffodus mae graffeg o'r uniion arwydd ar wefan y cyngor dosbarth lleol.


Mae casgliad Parallel Wales yn rhan o flog Simon Proffitt, ac yn ei archifau mae lluniau gwych o Gymru hefyd (cliciwch ar Previous yn gornel chwith ucha i weld lluniau eraill).


Trwy flog Forum Wales
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:41 pm | dolen | 3 sylw |

They All Speak English? Blog yn barod

5.12.05

Mae'r blog They All Speak English? yn barod. Dwi ar hyn o bryd yn gwahodd pobl sydd wedi dangos diddordeb cyfrannu. Os ydych eisiau cyfrannu, dylech fod yn blogio'n Gymraeg a bydd rhaid i mi wybod beth yw eich cyfeiriad e-bost i mi anfon gwahaoddiad trwy Blogger atoch.
Pwy fydd y cyntaf i flogio arno?

Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 4:03 pm | dolen | 3 sylw |

Fy Ngwyl Gwrw personol i

Anaml iawn y byddai i'n mynd allan tair noson mewn rhes dyddiau hyn, sdim stamina gyda fi, ond roedd Gwyl Gwrw Cymru ymalen yn Neuadd y Ddinas, a nos Wener oedd yr unig noson allwn fynd yno. Cyrraeddais yn hwyrach nag oeddwn wedi disgwyl ac roeddwn yn ffodus i fynd i mewn. Er mai mond chwarter i chwech oedd hi, roedd bron yn amhosib symud. Prynais beint o Golden Valley o fragdy Brycheiniog. Yn anffodus, bu'n rhaid i mi ei lyncu'n riet gyflym oherwydd roeddwn i fod i gwrdd â Sarah oedd am ddod yno o'i gwaith a doedd neb arall yn cael dod mewn bellach heb i eraill adael. Cwrddais â Sarah wrth y mynedfa ble roedd ciw yn tyfu ac aeth y ddau ohonom am beint neu ddau a bach o fwyd yn Tafarn.
Doeddwn heb fod yno o'r blaen a ddim yn siwr beth i'w ddigwyl - roedd ambell un wedi pwpwio'r lle, a thybiaf bod gan rhyw rhagfarn fwy i wneud â hyn na dim arall. Er nad wyf yn ôr-hoff o lefydd sydd wedi'w addurno'n trendi roedd y lle'n gyfforddus gyda'r bar yn gwahanu'r ardal ysmygu ar ardal dim-ysmygu. Cefais i Selsig Morgannwg mewn saws Mwstard a Seidr a cafod Sarah Fritatta. Nes i fwynhau un fi'n fawr iawn, ond roedd pryd Sarah'n fach iawn a reit diflas. Roedd diodydd braidd yn ddrud yno gyda Brains Smooth yn £2.50, ond mae'n leoliad bach neis ac ar hyn o bryd nid yw'n brysur iawn.

Dydd Sadwrn aeth Sarah a fi i Ystum Taf i weld tŷ newydd ffrind. Caswom pryd o fwyd yno cyn dal y trên i Bontypridd er mwyn cymeryd rhan mewn cwis yng Nghlwb y Bont i godi arain at gôr newydd Côr-y-Bont. Roedd Meinir Gwylym yno hefyd yn hyrwyddo ei halbwn diweddaraf. Roedd y lle dan ei sang a chafwyd ambell gân gan Gôr-y-Bont cyn i'r cwis ddechrau, ond uchafbwynt y noson i mi oedd y Christams Special Bitter gan Fragdy Rhymni.

Mae cwis dafarn y Cayo ar nos Sul wedi dod yn rhywbeth rheolaidd erbyn hyn. Dyma fi'n dechrau'r noson gyda'r bwriad o beidio yfed alcohol, ond roedd yn amhosib ymwrthod â'r hen Deuchars IPA. Neithiwr oedd noson olaf Noel fel y cwis feistr. Mae'n foi clên iawn er ei fod yn edrych braidd yn debyg i Harold Shipman, ac mae'n ddoniol tu hwnt ac yn deud pethau uffernol. Bydd yn chwith ar ei ôl, a mwy na thebyg mai'r landlord aiff yn ôl at ddarllen y cwestiynnau, sy'n bechod rili achos mae ganddo'r acen Worzel mwya ac mae'n an-llythrennog. Wedi dweud hynny, mae'r dewis o chwerw yn y Cayo ers iddo ddod yno yn wych gyda o leaif 5 cwrw Thomas Watkin a dau Brains ar gael yn barhaol, a dau gwrw gwestai arall.

Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:43 pm | dolen | 0 sylw |

Dal i fyny

Bu'r penwythnos cyn diwethaf yn hynod brysur, gyda'r Ffair Nadolig ar y dydd Sadwrn yn cael ei ddilyn gan ymweliad dwy noson gan fy rhieni. Aeth y ffair yn anhygoel o dda, gyda niferoedd mor fawr yn ymweld fel bu bron i bethau fynd yn drech arnom. Treulais i'r rhan fwyaf o'r dydd yn rheoli'r llif o geir. Roedd y maes parcio'n orlawn erbyn 11:30 a ceir yn dal i gyrraedd fel ton ar ôl ton. Roedd rhesi o geir wedi parcio ochr y ffordd i'r ddau gyfeiriad hyd at Trelewis, sef y pentref agosaf.
Mae yna ddau blogiad gan eraill am y diwrnod ac hefyd diolch i Darren am ei hysbysebu.
Dyma ni'n cynnal raffl am ddim i weld o ble roedd pobl wedi dod a sut glywsant am y ffair. Roeddem wedi arfraffu 200 slip, ac fe'u defnyddiwyd i gyd - rydym dal wrthi'n mynd trwy'r wybodaeth.

Pan ddaw'r rhieni draw, mae oergell llawn o ddanteiddion egsotig o'r gogledd yn anochel. Roedd dad wedi dod a darnau o haearn er mwyn ymestyn uchder wal gefn yr ardd, felly dyna fu'n digwydd dydd Llun. Bues i hefyd yn cwbwlhau (wel rhyw fath) adeiladu aelwyd newydd yn yr ystafell fyw mewn pryd i pan ddoth y dyn carped dydd Mercher. Bydd lluniau o'r wal/ffens gefn a'r aelwyd i dod.

Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:13 pm | dolen | 0 sylw |

Raffl 'Dolig WST (Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam)

1.12.05

Mae na wobrau gwych i'w hennill, hyd yn oed os nad ydych yn cefnogi Wrecsam. Tocynnau'n £1 yr un a mae 10 llyfr o ddeg gyda fi i'w gwerthu. Mae'r arian yn mynd tuag at Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam sydd wedi bod yn cynorthwyo gyda ariannu cyflogau nifer o chwaraewyr ar fenthyg dros y tymhorau diwethaf yn arbennig yn ystod y cyfnod mae'r clwb wedi bod mewn gweinyddiaeth. Gwobrau wedi'w rhestru isod.

1.
£500 mewn arian

2. Dau docyn Executive Box ar gyfer gêm Lerpwl v WBA ar y 31ain o Ragfyr 2005, yn cynnwys pryd o fwyd saith cwrs, bar am ddim a rhaglen etc.

3. Crys pêl-droed Cyrmu wedi ei arwyddo gan dîm Cymru a chwaraeodd yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ar y 3ydd o Fedi 2005.

4. Pryd i ddau yn un o gemau cartref Wrecsam sydd weddill tymor hwn gyda seddi ym mocs y cyfarwyddwr (trwy Just Go)

5.
Pêl rygbi wedi ei arwydo gan dîm buddugol Camp Lawn Cymru

6. Crys CPD Lerpwl wedi ei arwyddo

+ llawer o wobrau eraill


Mae rhaid fi anfon y tocynnau'n ôl mewn llai na pythefnos fely brysiwch. Mae Ray Diota ac ambell i Jack wedi prynnu tocyn felly dim esgusion!

Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 4:06 pm | dolen | 6 sylw |